Coed Pen Arthur, ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coed Pen Arthur yn gorwedd ar ymyl orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r coetir hwn yn cynnwys cymysgedd deniadol o goed conwydd a choed llydanddail brodorol.

Gallwch ddilyn ffyrdd y goedwig i fyny'r allt i fwynhau golygfeydd o Ddyffryn Tywi ar un ochr a'r Mynydd Du ar yr ochr arall.

Gallwch hefyd ymuno â llwybr hir Ffordd y Bannau sydd gerllaw.

Llwybr cerdded

Nid oes arwyddion yn dangos y ffordd ar y daith gerdded hon.

Gweler y panel gwybodaeth yn y maes parcio ar gyfer y llwybr a awgrymir.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Llecyn Gwylio Banc Carreg-foel-gam

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 4½ miles/7.3 kilometres (yno ac yn ôl)
  • Amser: 3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Nid oes arwyddion yn dangos y ffordd ar y daith gerdded hon. Gweler y panel gwybodaeth yn y maes parcio ar gyfer y llwybr a awgrymir. Mae’r daith i fyny’r rhiw bob cam at y llecyn gwylio ac felly mae angen lefel trwydd uchel. Mae’r cylch bychan ar y brig yn gallu bod yn wlyb ac felly argymhellwn esgidiau cerdded ar gyfer y daith hon. Dychwelwch i'r maes parcio gan ddilyn yr un ffordd yn ôl i lawr.

Golygfeydd gwych ar ddiwrnod clir o’r Mynydd Du a Dyryn Tywi yw’ch gwobr am ddringo’n hir i ben Banc Carreg-foel-gam (350m/1150 troedfedd uwchben lefel y môr).

Mae'r llecyn gwylio ar lwybr byr drwy rostir ar ddiwedd y ffordd drwy’r goedwig.

Ffordd y Bannau

Llwybr pellter hir 99 milltir (159 cilomedr) drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Ffordd y Bannau.

Gallwch ddilyn llwybr cyhoeddus o olygfan Banc carreg-foel-gam yng Nghoed Pen Arthur i ymuno â'r rhan o Ffordd y Bannau sy’n mynd i gopa'r Garn Goch.

Am lwybr cylchol, gallwch ddychwelyd ar ffordd fach i'r dwyrain o bentref Bethlehem.

Sylwer nad oes arwyddion yn dangos y ffordd ar y daith gerdded hon, ac nad ydych ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru wedi i chi adael y goedwig.

Darganfyddwch mwy am Ffordd y Bannau ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Coed Pen Arthur yn gorwedd ar ymyl orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coed Pen Arthur 8 milltir i'r de-orllewin o Lanymddyfri.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coed Pen Arthur ar fap Arolwg Ordnans (OS) Explorer OL 12.

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 718 252.

SN 718 252

Cyfarwyddiadau

Ewch ar hyd yr A4089 o Lanymddyfri i Langadog.

Ewch ar hyd yr A4069 o Langadog tuag at Frynaman.

Ar ôl 2½ milltir mae'r fynedfa i Goed Pen Arthur ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llangadog.

I gael manylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf