Heb gael gwared arnynt yn y ffordd iawn, gall sbwriel, plastig untro a nwyddau o’r cartref wedi’u tipio’n anghyfreithlon wneud niwed i’r amgylchedd naturiol a bywyd gwyllt.

Bydd pob un o’r gweithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i gyflawni elfennau o’r cwricwlwm presennol ac yn galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd yn y modd a ddisgrifir ym mhedwar diben Cwricwlwm Cymru.

Cynllun Sesiwn Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

Gallwch gynllunio ar gyfer cyflwyno’r pwnc i’ch dysgwyr dros dymor. Mae’r cynllun sesiwn hwn yn rhoi braslun ichi o’r gweithgareddau a’r gemau sydd ar gael. Gallwch eu cyfuno a’u cyflwyno mewn un gyfres, neu’u defnyddio fel gweithgareddau dysgu unigol.

Cynllun sesiwn - Gwastraff a thipio anghyfreithlon

Gêm geiriau gwastraff a sbwriel

Drysu rhwng bioblastigau a phetrogemegion? Gall rhestrau termau helpu dysgwyr i gaffael a chael dealltwriaeth fanwl o eirfa’r pwnc, a’u helpu i ddeall y cysyniadau perthnasol. Helpwch eich dysgwyr i ddod yn rhugl gyda’u geirfa gwastraff a sbwriel, a rhowch gynnig ar ein gêm geiriau.

Cynllun gweithgaredd - Gêm rhestr termau gwastraff a gollwng sbwriel
Cardiau adnodd - Gêm rhestr termau 

Dal Tipiwr anghyfreithlon 

Mae’r gweithgaredd yma yn annog trafodaeth am pam fod pobl yn tipio’n anghyfreithlon, pa broblemau mae hyn yn eu hachosi, sut mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo a beth y gallan nhw ei wneud yn ei gylch.  Daw dysgwyr yn dditectifs, gan ymchwilio i ddigwyddiad o dipio anghyfreithlon yn lleol.

Cynllun gweithgaredd - Dal tipiwr anghyfreithlon
Adnodd sain - Recordiad sain o adroddiad 
Llythyr tystiolaeth
Taflen waith - Digwyddiad
Taflen waith - Tystiolaeth

Ar ôl cwblhau'r Gweithgaredd Dal Tipiwr Anghyfreithlon bydd Taclo Tipio Cymru yn cyflwyno tystysgrif pan wneir cais amdani i helpu cefnogi eich Gwobr Eco-Ysgolion y Faner Werdd. Defnyddiwch #wythnosgwastraff ar gyfryngau cymdeithasol, os gwelwch yn dda.

Ysbwriel parhaol 

Faint o amser mae’n ei gymryd i bethau bydru ar ôl eu taflu? Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm er mwyn gosod eitemau yn nhrefn yr amser y byddai'n cymryd i’r eitem ymddatod yn y môr. Fel rhan o'r gweithgaredd hwn, byddant yn ystyried yr effaith y gall sbwriel ei chael ar yr amgylchedd. 

Cynllun gweithgaredd - Sbwriel hirbarhaol
Cardiau adnodd - Sbwriel ar y tir 
Cardiau adnodd - Sbwriel yn y môr
Tabl - Llinell amser gwastraff

Croesi'r crwbanod 

Mae llygredd plastig yn peri niwed aruthrol i’r organebau sy’n dod ar ei draws. O’r cwrelau lleiaf i forfilod enfawr, mae miliynau o anifeiliaid ac adar yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i lyncu plastig yn y môr neu fynd yn sownd ynddo. Mae’r gêm hon yn amlygu’r peryglon y mae creaduriaid y môr yn ei wynebu, wrth i’r dysgwyr (y crwbanod môr) geisio croesi grid (y môr mawr) gan osgoi gwastraff plastig peryglus.

Cynllun gweithgaredd - Croesi'r crwbanod

3C sbwriela a thipio anghyfreithlon 

Gweithgaredd lle mae dysgwyr yn archwilio achosion a chanlyniadau sbwriel a thipio anghyfreithlon a sut y gellir eu herio. Mae’r grwpiau’n defnyddio’r wybodaeth a ddarperir a’r syniadau sy’n codi yn y drafodaeth i greu golygfa sy’n cyfleu eu ‘C’ hwy.

Cynlllun gweithgaredd -Y 3 C o ran sbwriel a thipio anghyfreithlon
Taflen wybodaeth - Y 3 C
Cardiau adnodd - Y 3 C

Lloffion papur newydd 

Bydd y dysgwyr yn creu eu hadroddiad newyddion eu hunain ar gyfer y teledu ar bennawd papur newydd penodol sy'n gysylltiedig â digwyddiad tipio anghyfreithlon.

Cynllun gweithgaredd - Lloffion papur newydd
Cardiau adnodd - Lloffion papur newydd

A wyddoch chi? Cwis gwastraff, tipio anghyfreithlon a sbwriel 

A wyddoch chi faint mae gwastraff, tipio anghyfreithlon a sbwriel yn ei gostio go iawn i’r economi a’r amgylchedd? Profwch eich gwybodaeth drwy roi cynnig ar y cwis rhyngweithiol hwn.

Cynllun gweithgaredd - A wyddoch chi?

Eisiau dysgu mwy am dipio anghyfreithlon?

Mae Taclo Tipio Cymru yn gynllun partneriaeth dan nawdd Llywodraeth Cymru a gydlynir gan Gyfoeth Naturiol Cymru i geisio mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon..

Gwrthod, Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu

Rydym i gyd wedi clywed am ‘Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu’ ond gellid dadlau mai’r peth cyntaf y dylem ei wneud i leihau gwastraff yw ‘Gwrthod’. Er bod hynny’n golygu gwneud mwy o ymdrech weithiau, mae llawer o bobl yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd drwy ddefnyddio llai o ddeunydd pecynnu, ailddefnyddio gwastraff lle bo modd, ac ailgylchu sbwriel yn hytrach na’i daflu i’r bin. Wrth inni ddechrau datblygu economi gylchol gallwn oll chwarae rhan drwy ddefnyddio llai o adnoddau yn y lle cyntaf, a defnyddio adnoddau naturiol nifer o weithiau cyn troi at wastraff i gynhyrchu ynni lle bo hynny’n bosib.

Ystadegau a data ar dipio anghyfreithlon

 Ydych chi’n chwilio am ystadegau a data i’ch dysgwyr fynd i’r afael â hwy? Mae Ystadegau Cymru’n darparu ffigyrau a gwybodaeth ynghylch tipio anghyfreithlon yng Nghymru.

Cysylltwch â ni 

Os na fedrwch chi ddod o hyd i rywbeth, neu os hoffech chi gael mwy o gyngor neu wybodaeth, mae croeso ichi gysylltu â ni ar:

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf