Mae dŵr yn hanfodol i fywyd.  Ei yfed, golchi ein dillad, dyfrio cnydau, nofio ynddo; ni allem fyw hebddo.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys adnoddau, nodiadau gwybodaeth a chynlluniau gweithgaredd sy’n galluogi dysgwyr o bobl oedran i ddatblygu eu dealltwriaeth o bob agwedd ar yr adnodd naturiol pwysig hwn. 

Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn galluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd sy’n cael eu disgrifio ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Mae dolenni i’r Cwricwlwm wedi’u cynnwys yn y dogfennau a bydd yr holl weithgareddau yn eich helpu i gyflawni nifer o agweddau o’r sgiliau trawsgwricwlaidd o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Tai Chi y cylch dŵr

Er mwyn gallu deall cymhlethdod dŵr, mae’n rhaid i chi ddeall y gylchred ddŵr yn y lle cyntaf. Drwy gyfuno ymlacio a symudiadau llyfn, mae ein gweithgaredd Tai Chi Cylch Dŵr yn arddangos sut mai’r cylch dŵr yw’r broses lle mae dŵr yn symud o’r tir i’r awyr ac yn ôl eto.

Cynllun gweithgaredd - Tai Chi Cylch Dŵr

Deall systemau afonydd

Mae gan bob afon ei chymeriad a’i siâp arbennig ei hun ond mae pob system o afonydd yn rhannu nifer o nodweddion sylfaenol. Mae ein gweithgaredd ‘Deall systemau afonydd’ yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr archwilio prosesau a thirffurfiau afonydd. O lifgloddiau i ystumllynnoedd, yn fuan bydd eich dysgwyr yn gallu adnabod y nodweddion hyn, byddant yn deall sut y maen nhw’n ffurfio a byddant yn gallu defnyddio geirfa systemau afonydd yn rhugl. 

Cynllun gweithgaredd – Deall system afon
Cardiau adnodd – Deall system afon
Diagram – System afon
Diagram gydag atebion – System afon

Ansawdd dŵr a llygredd dŵr – beth sy’n effeithio ar ein systemau dŵr?

O brosesau naturiol i ymyrraeth ddynol, mae nifer o weithgareddau’n effeithio ar ansawdd dŵr mewn modd cadarnhaol a negyddol. Mae’r gweithgareddau ar ein tudalen Ansawdd dŵr a llygredd dŵr yn amlygu’r effeithiau hyn mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.

Beth yw ansawdd dŵr?

Gall dŵr yfed ac ymdrochi o ansawdd gwael beryglu iechyd dynol ac ecosystemau. Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn diffinio ansawdd dŵr ac yn disgrifio’r gwahanol fathau o lygredd dŵr sy’n gallu halogi ein cyflenwad dŵr.

Nodyn gwybodaeth (Ansawdd dŵr)

Ocsigen wedi ei doddi mewn dŵr

Mae ocsigen wedi ei doddi yn ffordd o fesur faint o ocsigen sydd wedi ei doddi mewn dŵr. Mae’r nodyn gwybodaeth hwn yn archwilio pam ei fod yn bwysig, sut mae’n mynd mewn i ddŵr ac yn archwilio pa ffactorau all ddylanwadu ar lefelau o ocsigen sydd wedi toddi.

Nodyn gwybodaeth – Ocsigen wedi toddi

Tyrfedd dŵr

Tyrfedd yw ffordd o fesur pa mor gymylog, brwnt neu fwll yw corff o ddŵr. Darganfyddwch pam ei bod yn bwysig a chrëwch eich mesurydd tyrfedd eich hun er mwyn dod o hyd i lefelau tyrfedd eich tarddiad dŵr.

Nodyn gwybodaeth – Tyrfedd dŵr
Cynllun gweithgaredd - Mesur tyrfedd dŵr
Cardiau adnoddau - Mesur tyrfedd dŵr

Llifogydd yng Nghymru – effeithiau gormod o ddŵr

O gyflwyniad i lifogydd ac astudiaethau achos ar safleoedd penodol, i’r hyn sydd ei angen mewn pecyn llifogydd, mae ein tudalen Llifogydd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau a gweithgareddau.

Sychder yng Nghymru – effeithiau prinder dŵr

Effeithiau tywydd sych

Ydych chi erioed wedi dyfalu pa fathau o sychder yr ydym yn eu cael yn y DU a pha effaith y maent yn ei gael ar yr amgylchedd naturiol? Mae DRY: Diary of a Water Superhero yn llyfr sydd wedi ei greu gan y Ganolfan Ddŵr, Cymunedau a Gwytnwch ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste (UWE) ac wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwilio Amgylchedd Naturiol (NERC). Mae’n annog trafodaeth ar sut y gallwn baratoi ar gyfer cyfnodau o dywydd sych a beth allwn ni ei wneud fel unigolion i arbed dŵr.

Llyfr stori - Dry: Diary of a Water Superhero
Nodiadau athro - Dry: Diary of a Water Superhero

Os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych chi’n chwilio amdano, neu am gymorth neu wybodaeth, cysylltwch â ni: 

E-bost: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ffôn: 0300 065 3000

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf