Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawliau dynol fel y'u hymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'r Confensiwn yn rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc, lle bynnag y maent yn byw yn y byd. Mae gan unrhyw un sy'n 18 oed neu'n iau, yr hawl i fod yn ddiogel, i chwarae, i gael addysg, i fod yn iach ac i fod yn hapus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran hyrwyddo hawliau plant ac mae wedi ymrwymo i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Comisiynydd Plant, sy'n gweithredu fel hyrwyddwr hawliau dynol annibynnol i blant.

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, credwn mai hawl pob plentyn yw byw, dysgu, chwarae a thyfu i fyny mewn amgylchedd naturiol iach sy'n cael ei reoli'n gynaliadwy. Mae ein holl staff yn gweithio gyda'i gilydd, a chyda'n partneriaid, i sicrhau bod gan bob un o'n plant aer a dŵr glân, tirweddau hardd, pridd iach i dyfu ein bwyd ynddo ac amrywiaeth gyfoethog o blanhigion a bywyd gwyllt i'w mwynhau.

Mae ein Siarter Hawliau Plant yn dangos sut y byddwn yn cynnal ac yn hyrwyddo hawliau plant yn ein gwaith ac yn darparu gwell gwasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Ar ein rhan ni, cynhaliodd Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru sgyrsiau gyda phlant a phobl ifanc o Ysgol Bryn Tirion Hall yn Wrecsam, Ysgol Gynradd Stacey yng Nghaerdydd a Grŵp Gofalwyr Ifanc ym Merthyr Tudful, i'n helpu i nodi pa hawliau yr oeddent am i'n sefydliad eu blaenoriaethu. Nodwyd y canlynol ganddynt:

  • Erthygl 6 - Yr hawl i fywyd, i dyfu i fyny a chyrraedd eich potensial llawn
  • Erthygl 12 - Yr hawl i gael gwrandawiad ac i bobl eich cymryd o ddifrif
  • Erthygl 13 - Yr hawl i ryddid mynegiant
  • Erthygl 16 - Yr hawl i breifatrwydd
  • Erthygl 17 - Yr hawl i wybodaeth
  • Erthygl 19 - Yr hawl i gael eich cadw'n ddiogel rhag niwed
  • Erthygl 24 - Yr hawl i aer glân
  • Erthygl 28 – Yr hawl i ddysgu
  • Erthygl 29 - Yr hawl i fod y gorau y gallwch fod
  • Erthygl 31 – Yr hawl i ymlacio a chwarae

Roedd yn amlwg bod y plant a'r bobl ifanc dan sylw yn deall bod gofalu am natur yn bwysig iawn i'n bywydau bob dydd ac yn hyn o beth, dywedasant y byddent yn:

  • Helpu i gadw natur yn iach
  • Chwarae gyda'u ffrindiau mewn mannau natur lleol
  • Gofalu am natur
  • Siarad yn agored â ni
  • Dysgu am swyddi a gyrfaoedd amgylcheddol

Dysgwch fwy, gan gynnwys y cyfrifoldebau yr oedd y cyfranogwyr yn teimlo oedd ganddynt, i helpu i ofalu am natur ar y poster Siarter Hawliau Plant.

 I gael gwybod mwy am hawliau plant, edrychwch ar wefan Comisiynydd Plant Cymru.

Cysylltu â Ni

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano neu os hoffech gael unrhyw help neu wybodaeth, cysylltwch â ni yn:

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr Addysg, Dysgu a Sgiliau i gael diweddariadau misol.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf