Adeiladu mewn ardaloedd perygl llifogydd

Adeiladu mewn ardaloedd perygl llifogydd

Os ydych yn cynllunio datblygiad:

Dylech chi osgoi cynnig datblygiadau preswyl ym Mharth C2. Serch hynny, efallai gallwch adeiladu strwythurau eraill yn yr ardal hon.

Ein rôl ni yn eich cynigion datblygu

Os ydy’ch cynnig mewn pergyl o lifogydd, bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â ni am gyngor. Mae hwn yn gam hanfodol yn y broses cynllunio achos rydym yn ‘gynghorwyr stadudol’.  

Byddwn yn rhoi cyngor i’ch awdurdod lleol am:

  • risgiau llifogydd o afonydd a’r môr
  • os ydy’ch Asesiad Goblygiad Llifogydd a’r dogfennau cefnogol yn dderbyniol ac yn gywir yn dechnegol
  • os ydy’ch cynigion yn diwallu gofynion Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 15

Dydyn ni ddim yn rhoi cyngor am:

  • risg llifogydd o ddŵr wyneb a draenio
  • risg o gyrsiau dŵr bach
  • risg erydu arfordirol
  • llifogydd dŵr daear
  • cynlluniau argyfwng
  • trefniadau a mesurau i ddod i’r afael â difrod strwythurol a all ddigwydd oherwydd llifogydd

Dysgwch fwy am ein rôl mewn cynllunio a datblygu.

Trwyddedau a chaniatadau eraill

Yn ogystal â’ch caniatâd cynllunio ar gyfer eich cynnig, efallai bydd rhaid i chi ymgeisio i ni am drwyddedau a chaniatadau eraill.

Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr na fydd eich datblygiad yn ymyrryd gyda’r asedau rheoli risg llifogydd neu wneud niwed i’r amgylchfyd, pysgodfeydd neu fywyd gwyllt lleol.

Rhaid i chi ymgeisio i ni am drwydded gweithgarwch risg llifogydd os ydych am ddatblygu:

  • ar brif afon neu’n agos iddi
  • ar amddifynfeydd rhag llifogydd neu’n agos iddynt
  • ar amddifynfeydd rhag y môr neu’n agos iddynt
  • mewn gorlifdir

Cysylltwch â ni i weld os oes angen trwyddedau a chaniatadau eraill. Gall fod tâl am y gwasanaeth hwn.

Gallwch chi fod yn torri’r gyfraith os ydych chi’n dechrau gwaith heb gael y trwyddedau a chaniatadau angenrheidiol.

Diweddarwyd ddiwethaf