Cyfleusterau deunyddiau: asesu, hysbysu, samplu ac adrodd

Rydym yn ceisio eich barn ar gynlluniau i ddiweddaru ein ffioedd ar gyfer rhai o'n trwyddedau a’n gweithgareddau cydymffurfio ar gyfer 2024 - 2025.

 

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar-lein a bydd yn cau ddydd Llun 8 Ionawr 2024.

Rhaid i gyfleusterau deunyddiau - a elwir yn aml yn gyfleusterau ailgylchu deunyddiau - ddidoli gwastraff ailgylchadwy yn ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio. Rhaid i weithredwyr cyfleusterau deunyddiau rheoleiddiedig yng Nghymru:

  • ddweud wrthym pan fydd eu hasesiad eu hunain yn dangos eu bod yn bodloni'r diffiniad o gyfleuster deunyddiau
  • talu ffi gynhaliaeth i ni
  • samplu gwastraff sy'n dod i mewn ac sy'n mynd allan
  • dadansoddi cyfansoddiad samplau
  • anfon y canlyniadau atom ni bob chwarter.

Hunanasesu eich cyfleuster gwastraff

Gall eich cyfleuster fod yn gyfleuster deunyddiau os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • Mae gennych drwydded amgylcheddol sy'n caniatáu derbyn deunydd sych cymysg sy’n ddeunydd cartrefi neu’n debyg i ddeunydd cartrefi.
  • Mae unrhyw ran o’r gwastraff sych cartrefi neu wastraff tebyg yr ydych yn ei dderbyn yn cynnwys o leiaf 50% yn ôl pwysau o ddau neu ragor o blith: gwydr, metel, papur neu blastig.
  • Rydych yn derbyn o leiaf 1000 tunnell fetrig o'r deunydd hwn yn flynyddol.
  • Rydych yn dosbarthu'r deunydd i un neu fwy o'r deunyddiau allbwn penodedig canlynol: gwydr, metel, papur neu blastig ar gyfer ei ailgylchu.

Fel gweithredwr, rhaid i chi hunanasesu a yw eich cyfleuster wedi’i gynnwys yn y diffiniad o gyfleuster deunyddiau. Gall y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ategol gan gyfleusterau a allai ddod o fewn y diffiniad o gyfleuster deunyddiau ond nad ydynt wedi cyflwyno hysbysiad.

Gall natur a maint y cyfleusterau newid, felly bydd angen i chi ailasesu a yw eich cyfleuster yn bodloni'r diffiniad ar ddechrau pob cyfnod adrodd.

Dywedwch wrthym am eich cyfleuster

Os bydd eich asesiad yn dangos eich bod yn gweithredu cyfleuster deunyddiau, rhaid i chi ein hysbysu ni erbyn diwedd y cyfnod adrodd chwarterol y gwnaethoch ei asesu ynddo. Mae’r cyfnodau adrodd chwarterol fel a ganlyn:

  • 1 Ionawr i 31 Mawrth
  • 1 Ebrill i 30 Mehefin
  • 1 Gorffennaf i 30 Medi
  • 1 Hydref i 31 Rhagfyr

Byddwn yn codi ffi gynhaliaeth arnoch fel y’i disgrifir yn ein cynllun taliadau.

Fel gweithredwr, dylech ddweud wrthym os nad yw'r cyfleuster bellach yn bodloni’r diffiniad o gyfleuster deunyddiau.


Samplu a mesur mewnbynnau ac allbynnau gwastraff

Rhaid i weithredwyr samplu a mesur mewnbynnau gwastraff cymysg a ffrydiau allbwn ailgylchu bob chwarter.

Defnyddiwch ganllawiau rhaglen WRAP (Waste and Recycling Action Programme) ar sut i wneud y gwaith gofynnol o ran samplu a dadansoddi cyfansoddiad. Dyma'r safonau derbyniol sylfaenol.

Cyflwynwch eich cofnod gwastraff

Rhaid i weithredwyr cyfleusterau deunyddiau gyflwyno’u cofnod gwastraff i ni bob chwarter. Dysgwch sut a phryd i gyflwyno'ch cofnod.

Ein harolygiadau

Byddwn yn archwilio cyfleusterau deunyddiau i:

  • wirio'r gweithdrefnau samplu sydd wedi'u rhoi ar waith
  • archwilio'r data a anfonwyd atom yn erbyn yr hyn a welir ar y safle.

Byddwn yn trefnu un ymweliad â gweithredwyr fel y gall ein swyddogion arsylwi ar y gwaith samplu a dadansoddi cyfansoddiadol ar y safle. Byddwn yn cadarnhau bod y safonau priodol yn cael eu defnyddio ac yn cynghori pan fo angen gwelliannau.

Mynediad i gofnodion a data samplu cyfleusterau deunyddiau

Cyn hyn trefnwyd fod data ar gael i’r cyhoedd drwy Borth Adrodd Cyfleusterau Deunyddiau WRAP.

Bydd data o 2020 ymlaen ar gael ar MapDataCymru.

Mynediad i ddata 2020

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf