Trwyddedau rhywogaethau ar gyfer gwaith arolygu a chadwraeth

Bydd arnoch angen trwydded os ydych chi’n bwriadu cynnal unrhyw fath o waith arolygu, ymchwil neu gadwraeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • wneud unrhyw fath o waith ymchwil neu arolygu
  • dosbarthu, maglu neu drin rhywogaethau a warchodir
  • difrodi, addasu neu rwystro mynediad at fan magu neu orffwys

Gwneud cais ar gyfer trwydded arolygu

Os hoffech gyflwyno cais am drwydded arolygu ac os nad ydych wedi meddu ar un o'r blaen, bydd angen i chi ddangos bod gennych yr hyfforddiant a'r profiad angenrheidiol. Bydd angen i chi anfon eich ffurflen gais am arolwg a thrwydded cadwraeth wedi’i chwblhau.

Ffurflen geirda

Os nad ydych wedi meddu ar drwydded berthnasol gennym o’r blaen, rhaid i’ch cais gynnwys ffurflen geirda.

Rhaid i'r canolwyr:

  • allu rhoi sylwadau ar eu profiad o weithio gyda'r rhywogaethau perthnasol
  • gallu defnyddio'r dulliau a'r offer a gynigir yn eich cais am drwydded
  • bod yn gymwys eu hunain a rhaid eu bod wedi dal trwydded berthnasol o'r blaen
  • bod â phrofiad o'ch gwaith am o leiaf un tymor arolwg

Dim ond un geirda y gallwn ei dderbyn gan y cwmni rydych chi'n gweithio iddo ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr i wirio eu datganiadau.

Adnewyddu eich trwydded ac adrodd ar eich gweithgareddau

Os ydych chi eisiau adnewyddu eich trwydded neu adrodd ar y gweithgareddau ydych chi wedi’u gwneud o dan eich trwydded, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais adrodd ac adnewyddu’r drwydded arolygu.

Diwygio eich trwydded

Gallwch ofyn am ddiwygiadau i'ch trwydded gan ddefnyddio'r ffurflenni perthnasol.

Ffurflen gais i ddiwygio
Ffurflen newid trwyddedai
Ffurflen newid ecolegydd

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf