Clymog Japan: Beth sydd angen ei wybod

Clymog Japan

Cyflwyniad

Mae clymog Japan (Fallopia japonica) yn frodorol i Japan, Taiwan a gogledd Tsieina, ac fe’i cyflwynwyd i Brydain ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fel planhigyn addurniadol. Mae’n blanhigyn lluosflwydd, gan dyfu o’u gwreiddgyffion tanddaearol bob blwyddyn, ac yn lledaenu’n gyflym yn naturiol neu o ganlyniad i weithgaredd dynol.

Lledaenir clymog Japan wrth i dameidiau o wreiddgyffion neu goesau gael eu cludo i leoliadau newydd. Gall darnau bychain o goesau / gwrthgyffion arwain at blanhigion newydd i dyfu.  Mae’r planhigyn yn ffurfio clystyrau dwys sy’n cystadlu’n well na’n llystyfiant brodorol ac yn achosi difrod i adeiladu a niwsans.

Cyfrifoldebau

Perchennog y tir sydd bron bob amser yn gyfrifol am reoli twf Clymog Japan (Japanese Knotweed) – oni bai mai’r lesddaliwr sy’n gyfrifol am reoli’r tir

Mae hyn yn wir ar gyfer pob safle gan gynnwys glannau afonydd. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn berchen ar unrhyw afonydd neu lannau afonydd (oni bai eu bod o fewn ein tirddaliadau, neu ar dir yr ydym ni’n gyfrifol amdano e.e. gwarchodfeydd natur CNC neu Ystâd Goed Llywodraeth Cymru).

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn trin rhywogaethau ymledol ar eu tir yn ogystal â’u hasedau rheoli perygl o lifogydd, ond nid ydynt yn gyfrifol am drin rhywogaethau ymledol ar afonydd a glannau afonydd sy’n eiddo i bartïon eraill.

Os nad ydych yn gwybod pwy sydd yn berchen ar y tir o dan sylw, gallwch ganfod y wybodaeth trwy gyflawni chwiliad cofrestrfa tir.

Sefyllfa gyfreithiol

Mae’r cynnwys hwn er gwybodaeth yn unig. Os oes gennych unrhyw bryderon cyfreithiol ynglŷn â chlymog Japan, rydym yn argymell eich bod yn derbyn cyngor cyfreithiol arbenigol.

Nid yw perchnogion tir yn tramgwyddo trwy gael clymog Japan ar eu tir, ac nid oes rhaid iddynt wneud hysbysiad o’i bresenoldeb.

Ond os yw’r clymog yn peri problemau, efallai bydd ateboliaeth sifil.

Mae deunydd gwastraff y planhigyn yn cael ei gyfrif fel ‘gwastraff a reolir’ yn ôl Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990, a dylid ei waredu mewn safle gwastraff trwyddedig. Gall ambell i chwynladdwr neu ddeunydd planhigol sy’n cynnwys chwynladdwyr eu cyfrif fel gwastraff peryglus yn ôl Rheoliadau Gwastraff Peryglus. Os byddwch yn defnyddio cludwyr i symud y deunydd o’r safle, rhaid i chi sicrhau eu bod yn gludwyr gwastraff trwyddedig.

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Rhestrir clymog Japan ar Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac mae’n ddarostyngedig i Adran 14 y Ddeddf hon. Mae plannu’r rhywogaeth hwn, neu achosi iddo dyfu yn y gwyllt yn drosedd. Golyga hyn y gall achosi clymog Japan i ledaenu, e.e. strimio neu gael gwared â deunydd heintiedig, gyfri fel trosedd. Gall gadael i glymog Japan ledaenu’n naturiol i dir cyfagos fod yn drosedd, ond nid yw hynny wedi’i brofi yn y llysoedd hyd yma.

Mae troseddau canclwm Japan yn cael eu gorfodi gan yr heddlu o dan Ddeddf 1981.

Felly os ydych chi’n gweld rhywun yn lledaenu clymog Japan yn fwriadol, cysylltwch â’ch gorsaf heddlu.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth ynglŷn ag adran 14, cyfeiriwch ar y canllaw a roddir gan Lywodraeth Cymru a DEFRA.

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014

Gall cynghorau lleol neu’r heddlu gyhoeddi Hysbysiad Gwarchod y Gymuned dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mae modd cyhoeddi’r rhain i unigolion neu i sefydliadau i’w cymell i reoli rhywogaethau ymledol mewn sefyllfaoedd lle mae rhywogaethau ymledol yn cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl eraill. 

Nid CNC sydd yn cyhoeddi’r hysbysiadau. Cysylltwch â’ch heddlu neu’ch awdurdod lleol os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi. Dyma gymorth gan y Swyddfa Gartref.

Trin a rheoli clymog Japan

Japanese knotweed

PEIDIWCH â strimio na thorri clymog Japan

Mae gwneud hyn yn debygol o gynyddu’r risg o ledaenu’r planhigyn, a gall hyn fod yn drosedd.

NID yw torri na phalu yn ddulliau effeithiol o reoli clymog Japan, ac mae angen treulio blynyddoedd yn gwneud hyn cyn iddynt gael unrhyw effaith. Mae gan glymog Japan system o wreiddgyffion tanddaearol helaeth allai fod sawl metr dan y ddaear. Mae’n hynod anodd i gloddio’r holl wreiddgyffion, a byddai’n debygol i wreiddgyffion gael eu gadael yn y ddaear gan achosi planhigion newydd i dyfu. Mae’r opsiynau hyn hefyd yn creu gwastraff sydd angen ei reoli, a byddai’n rhaid cael gwared ohono mewn modd penodol.  

Y ffordd orau o reoli clymog Japan yw trwy ddefnyddio chwynladdwr addas.

Fel arfer, chwynladdwyr sy’n cynnwys glysoffad a ddefnyddir i drin clymog Japan. Os yw’r glysoffad yn cael ei ddefnyddio’n gywir, ar yr adeg gywir o’r flwyddyn, mae modd dadwreiddio clymog Japan (er y gallai gymryd 2-3 blynedd o driniaeth).

Rhaid defnyddio cynnyrch glyffosad proffesiynol, gan mai effaith bychan gaiff cynnyrch glysoffad a brynir mewn canolfannau garddio ac ati. Dim ond unigolion cymwys all ddefnyddio cynnyrch chwynladdwr proffesiynol, a rhaid iddynt feddu ar dystysgrif cymhwysedd y Cyngor Profi Medrusrwydd Cenedlaethol. Mae modd dod o hyd i weithredwr yn lleol neu drwy gyrff diwydiannol.

Rhaid taenu’r glysoffad ar ddiwedd yr haf/ dechrau’r hydref ar ôl i’r planhigyn flaguro. Gall defnyddio glysoffad yn gynharach atal y planhigyn rhag tyfu, ond ni fydd yn lladd y planhigyn. Bydd rhaid i glystyrau aeddfed o glymog Japan gael eu trin am ddwy neu dair blynedd er mwyn lladd y planhigyn (h.y. triniaeth unwaith y flwyddyn ar ddiwedd yr haf / dechrau’r hydref.

Os ydych yn bwriadu defnyddio chwynladdwyr ar leoliad sydd mewn dŵr, o fewn safle gwarchodedig, neu wrth ymyl safle echdynnu dŵr, bydd rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan CNC.

Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn ag ymgeisio am ganiatâd i ddefnyddio chwynladdwyr.

Sut y gallwch roi gwybod eich bod wedi gweld Clymog Japan

Cofiwch eu cofnodi os byddwch yn eu gweld gan ddefnyddio’r Ap iRecord (neu ffurflen iRecord ar-lein) neu Ap LERC Cymru.  Gellir lawrlwytho’r ddau Ap hyn yn ddi-dâl.  Bydd anfon cofnodion un ai drwy ddefnyddio ap (neu ar- lein) yn cyfrannu at well dealltwriaeth o leoliad rhywogaethau goresgynnol yng Nghymru, sut y maent yn lledaenu a’u heffaith.  Bydd yn bosibl gweld y cofnodion ar Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol Atlas Cymru.

Cyngor i Gontractwyr a Datblygwyr ar waredu deunydd sydd wedi ei heintio

Mae clymog Japan (neu ddeunydd sydd wedi cael eu heintio ganddo) yn wastraff a reolir, a rhaid defnyddio safle tirlenwi trwyddedig addas i’w waredu.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyngor ar y manylebau model a canllaw caffael ar gyfer rheoli Clymog Japan mewn cytundebau adeiladu a thirlunio.

Er mwyn cael gwybodaeth am sut i drin a chael gwared o blanhigion estron goresgynnol, cysylltwch â’ch Tîm Amgylchedd CNC lleol.

Gwybodaeth bellach

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag adnabod, rheoli, a chael gwared â chlymog Japan, yn ogystal â rheoliadau chwynladdwyr gweler y dolenni isod:

Diweddarwyd ddiwethaf