Cyfarfod Cyswllt Cwsmeriaid Masnach
Masnach a Chyswllt Cwsmeriaid
Cyswllt Masnach Pren
Yn ystod y flwyddyn, bydd CNC yn gwahodd cwsmeriaid, proseswyr, a chynrychiolwyr masnach i ymuno â ni i glywed am ein cynnydd a’n perfformiad a chlywed am ein rhaglenni ar gyfer y dyfodol. Fel arfer cynhelir y digwyddiad hwn ym mis Chwefror, ac efallai y caiff ei gefnogi gan ddigwyddiadau eraill ledled Cymru, yn ystod y flwyddyn. Bydd CNC hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol â chyrff masnach a diwydiant, megis CONFOR, FISA ac ati.
Cyswllt Cwsmeriaid
Bydd y Tîm Gwerthiannau Pren yn ymdrechu i gwrdd â chwsmeriaid newydd a phresennol yn unigol yn ystod y flwyddyn. Bydd pob cwsmer pren yn cael ei neilltuo i aelod o’r tîm, a fydd yn bwynt cyswllt cyntaf i CNC. Os hoffech chi drefnu i gwrdd â'r Tîm Gwerthiannau Pren i siarad am gontractau coed neu ddigwyddiadau gwerthiannau coed, cysylltwch â ni:
timber.sales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk