Eithriadau gweithgarwch perygl llifogydd

Gallwch wneud rhai gweithgareddau perygl llifogydd heb gael trwydded gweithgarwch perygl llifogydd neu gofrestru ar gyfer esemptiad.

Bydd yn rhaid i chi fodloni amodau penodol a amlinellir yn y canllawiau technegol ar gyfer eithriadau gweithgarwch perygl llifogydd. Mae'n drosedd cyflawni gweithgaredd sydd wedi'i eithrio heb gydymffurfio â'r amodau priodol.

Mae gweithgareddau perygl llifogydd sydd wedi'u heithrio yn cynnwys y canlynol:

  • unrhyw weithgaredd a wneir ar frys
  • gweithgaredd morol trwyddedadwy yng Nghymru
  • codi a defnyddio ysgolion a thyrrau sgaffaldiau
  • adeiladu a defnyddio croesfannau gwasanaeth o fewn adeiledd sydd eisoes yn bodoli
  • gosod dyfais amddiffyn rhag llifogydd yn uniongyrchol ar adeilad er mwyn diogelu'r tu mewn i'r adeiladu hwnnw
  • cyflawni gwaith bach ar bontydd a chwlferi, neu waith sy'n cael effaith arnynt, ar gyfer priffyrdd a hawliau tramwy cyhoeddus
  • codi ffensys
  • codi hysbysfyrddau
  • clirio trapiau gwaddodion a adeiladwyd at y diben
  • tyllau turio ar gyfer gwaith ymchwil ar safle, a phyllau arbrofol ar orlifdir

Os bydd angen i chi wneud gwaith dros dro ((er enghraifft defnyddio sgaffaldiau neu argaeau coffr yn y sianel), cysylltwch â ni i drafod a allai fod angen cael trwydded bwrpasol.

Mwy o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd os nad yw eich gweithgaredd arfaethedig wedi'i restru, neu os nad yw'n bodloni'r holl amodau penodol.

Diweddarwyd ddiwethaf