Gwneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os byddwch yn gweithio ar, neu'n agos at brif afon, amddiffynfa rhag llifogydd, amddiffynfa forol neu orlifdir.
Cyn i chi ddechrau
Darllenwch sut i wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd fel eich bod yn barod i roi'r manylion sydd eu hangen arnom am eich gweithgareddau.
Byddwn yn eich holi am:
- yr ymgeisydd
- perchennog y tir
- unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio
- y math o weithgaredd perygl llifogydd yr ydych yn ymgeisio amdano
- lleoliad y safle
- gweithgareddau ydych eisiau eu gwneud
- pryd ydych chi'n bwriadu dechrau a gorffen
- unrhyw gyfeirnod caniatâd cynllunio
- y sawl a fydd yn gyfrifol am y safle
- manylion talu – bydd y tâl yn cael ei gyfrifo pan fyddwch yn anfon eich cais
Amserlenni
Byddwn yn gwneud penderfyniad o fewn 2 mis ar ôl derbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.
Cael mwy o gymorth gyda'ch cais
Rydym yn darparu gwasanaeth cynghori un i un i'ch helpu i ddeall y gofynion cyfreithiol wrth ymgymryd â rhai gweithgareddau a chynorthwyo gyda'r broses ymgeisio.
Diweddarwyd ddiwethaf