Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu

Cyflwyniad

Ein diben yw sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu gwella canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol i Gymru drwy ein hystod eang o wasanaethau a chyfrifoldebau. Datblygu Cynaliadwy yw ein prif egwyddor drefniadol.

Mae gennym ystod eang iawn o ddyletswyddau, rolau a chyfrifoldebau. Rydym yn un o brif gynghorwyr amgylcheddol y Llywodraeth, yn ogystal â chyrff penderfynu cyhoeddus eraill fel Awdurdodau Cynllunio Lleol. Rydym yn datblygu ac yn cynnal ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, ac yn ymateb i lifogydd a digwyddiadau amgylcheddol gan gynnwys cyhoeddi rhybuddion llifogydd i gymunedau sy'n wynebu risg. Rydym yn rheoli'r ystâd goedwig gyhoeddus, ac yn diogelu safleoedd dynodedig gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, safleoedd dynodedig yr UE a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ni yw'r prif gorff rheoleiddio amgylcheddol yng Nghymru, ac rydym yn cwmpasu ystod eang o sectorau a gweithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • prosesau diwydiannol mawr (e.e. gorsafoedd pŵer, prosesau haearn a dur)
  • cwympo coed
  • gwaith ar safleoedd dynodedig neu gyda rhywogaethau a warchodir
  • gollyngiadau i mewn i ddŵr
  • trwyddedu morol
  • tynnu a chronni dŵr
  • Gweithgareddau perygl llifogydd
  • pysgodfeydd masnachol mewndirol a dŵr croyw
  • sylweddau ymbelydrol
  • ac amrywiaeth o gynlluniau Ewropeaidd fel masnachu elifion a chyfrifoldeb cynhyrchwyr

Rydym bob amser yn ymdrechu i sicrhau fod trafod busnes â ni yn broses rwydd a’n bod yn darparu gofal cwsmeriaid o safon uchel. Cyn rhoi ein strategaeth gofal cwsmeriaid ar waith, rydym yn ceisio trefnu bod mynediad at wybodaeth ar ein cynlluniau trwyddedu mor rhwydd ag sydd bosibl i gwsmeriaid, oherwydd mae eich profiad a’ch boddhad fel cwsmer yn bwysig inni.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymedig i fod mor agored, atebol a thryloyw â phosibl ym mhopeth a wnawn, yn enwedig os yw'n debygol y bydd unrhyw benderfyniadau rheoliadol a wnawn yn arwain at fudd i'r cyhoedd. Rydym yn hyrwyddo diwylliant o dryloywder a bod yn agored a byddwn yn gweithio'n ddiflino i geisio cyrraedd y safonau uchaf posibl i'n cwsmeriaid. Rydym yn dilyn amrywiaeth o ganllawiau arfer gorau fel egwyddorion llywodraethu Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar y dinesydd a chanllaw arfer gorau'r Llywodraeth ar dryloywder.

Gofyniad am Gynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru amryw o ddyletswyddau i gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth o benderfyniadau a gweithgareddau. Mae'r dyletswyddau hyn yn deillio o ofynion cyffredinol ar gyrff cyhoeddus a gofynion penodol ar gyfer cyfundrefnau rheoleiddio penodol.

Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (y Gorchymyn Swyddogaethau) yn gosod dyletswydd newydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru: i gael cynllun ar wahân sy'n ymwneud yn benodol â gwybodaeth am geisiadau am drwydded a'n penderfyniadau trwyddedu. Cyfeiriwn at y cynllun hwn fel y "Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu" er mwyn gwahaniaethu rhyngddo â'r cynllun cyhoeddiadau y mae'n ofynnol i bob corff cyhoeddus ei ddilyn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOI 2000).

Mae'r Gorchymyn Swyddogaethau'n nodi gofynion y Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu, ac o dan Reoliad 18, yn cynnwys erthyglau perthnasol 16, 17 ac 18 yn y Gorchymyn Sefydlu. Ceir crynodeb o'r gofynion hyn isod.

Mae'n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud y canlynol:

  • Datblygu, mabwysiadu a chynnal cynllun mewn perthynas â chyhoeddi gwybodaeth am geisiadau am drwyddedau a phenderfyniadau trwyddedu
  • Cyhoeddi gwybodaeth yn unol â'r cynllun
  • Adolygu'r cynllun o bryd i'w gilydd

Rhaid i'r cynllun nodi'r canlynol:

  • Dosbarthiadau o wybodaeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chyhoeddi neu'n bwriadu ei chyhoeddi, a ddylai gynnwys gwybodaeth am yr holl geisiadau a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn penderfynu ar y cais
  • Y ffordd y caiff gwybodaeth o bob dosbarth ei chyhoeddi a'r amser a gymerir i wneud hynny
  • Pa un a fydd y deunydd ar gael am ddim i'r cyhoedd

Wrth ddatblygu'r cynllun, rhaid i ni wneud y canlynol:

  • Ymgynghori ag unigolion fel y gwelwn yn briodol.
  • Ystyried buddiannau'r cyhoedd mewn perthynas â'r canlynol:
    • eu galluogi i gael gafael ar wybodaeth a ddelir ganddo,
    • cyhoeddi gwybodaeth am geisiadau am drwyddedau a phenderfyniadau trwyddedu.
  • Cyhoeddi'r cynllun ar ein gwefan a darparu copïau ar gais.

Yn dilyn ymgynghoriad ym mis Medi/Hydref 2014, mae’r cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Gofynion eraill i ddarparu gwybodaeth

Yn ogystal â'r Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu, mae ein dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth yn deillio o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Cyfarwyddeb yr UE ar fynediad cyhoeddus i wybodaeth amgylcheddol (Cyfarwyddeb 2003/4/CE), a'r gofynion a osodir mewn cyfundrefnau rheoleiddio penodol fel Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010.

Mae'r Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn Swyddogaethau ar wahân i'r cynllun cyhoeddiadau sy'n ofynnol o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal a chyhoeddi cynllun cyhoeddiadau sy'n amlinellu'r dosbarthiadau o wybodaeth a gyhoeddir ganddynt fel mater o drefn, ac mae'n egluro sut y gellir cael gafael ar y wybodaeth honno ac yn rhestru unrhyw gostau cysylltiedig. Ar gyfer ein holl gynlluniau a gwybodaeth, rydym wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddiadau enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth sy'n dilyn adrannau perthnasol o'r ddogfen ddiffinio ar gyfer Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlinellu saith dosbarth gofynnol o wybodaeth:

i. Pwy ydym ni a'r hyn a wnawn

ii. Faint rydym yn ei wario a sut

iii. Ein blaenoriaethau a'n cynnydd

iv. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

v. Ein polisïau a'n gweithdrefnau

vi. Rhestrau a chofrestrau

vii. Y gwasanaethau a gynigir gennym

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 hefyd yn caniatáu ceisiadau am wybodaeth gofnodedig gan unrhyw sefydliad cyhoeddus ar unrhyw bwnc. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (a wnaed o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y DU ar fynediad cyhoeddus at wybodaeth amgylcheddol 2003/4/CE) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff ddarparu gwybodaeth amgylcheddol ar gais. Mae eithriadau cyfyngedig yn gymwys i geisiadau o dan y ddwy ddarpariaeth hyn ar gyfer mathau penodol o wybodaeth, e.e. data personol.

Mae gan lawer o'r cyfundrefnau rheoleiddio rydym yn gyfrifol am eu gweithredu yng Nghymru eu gofynion eu hunain mewn perthynas â darparu gwybodaeth a chaniatáu sylwadau. Fel arfer, mae'r rhain yn cynnwys y gofynion i gadw cofrestrau cyhoeddus ac i gyhoeddi pan fydd ceisiadau wedi'u gwneud er mwyn galluogi sylwadau i gael eu cyflwyno. Ceir darpariaethau i alluogi mathau penodol o wybodaeth i gael ei heithrio o gofrestrau cyhoeddus, e.e. ar sail cyfrinachedd fasnachol a diogelwch cenedlaethol. Ceir crynodeb o'r gofynion unigol ar gyfer pob cyfundrefn yn Rhan 2 o'r ddogfen hon.

Ceir rhywfaint o ddyblygu rhwng gofynion y cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu yn y Gorchymyn Swyddogaethau, gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a gofynion y cyfundrefnau rheoleiddio ar wahán. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau sylweddol rhwng gofynion pob cyfundrefn reoleiddio. Nod y Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu yw nodi'n glir pa wybodaeth y byddwn yn ei chyhoeddi neu'n sicrhau ei bod ar gael ar gyfer pob cyfundrefn reoleiddio a ble y gallwch ddod o hyd iddi, drwy ddwyn y wybodaeth hon ynghyd mewn un man.

Yn ogystal â chyhoeddi gwybodaeth, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd Ddatganiad Cyfranogiad y Cyhoedd ar gyfer ceisiadau a wneir o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010, sy'n egluro pam a sut y byddwn yn ymgynghori ynghylch y ceisiadau hyn. Mae gennym hefyd bolisi i ymgynghori'n ehangach ar geisiadau ar safleoedd sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd neu yr ystyriwn eu bod yn safleoedd o'r fath.

Mae nifer fawr o'r ceisiadau a gawn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2009 yn ymwneud â gwybodaeth a gyhoeddir gennym eisoes. Y gobaith yw y bydd y Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu hwn yn lleihau nifer y ceisiadau o'r fath yn y dyfodol drwy nodi'r wybodaeth sydd ar gael a chyfeirio unigolion at y man lle gellir dod o hyd iddi mor glir â phosibl.

Trosolwg o Gynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod yn agored ac yn dryloyw ym mhopeth a wnawn, ac mae ein Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu'n adlewyrchu hyn ac yn rhan o'r ymrwymiad hwnnw. Mae gennym gylch gwaith eang iawn ac rydym yn gweithredu'n bennaf o dan ddeddfwriaeth sylfaenol a grëwyd cyn i ni gael ein ffurfio. Felly, mae gofynion y cyfundrefnau rheoleiddio a weithredir gennym yn amrywio'n sylweddol.

Mae'r Gorchymyn Swyddogaethau'n gosod dyletswydd arnom i gyhoeddi gwybodaeth am geisiadau am drwyddedau a'n penderfyniadau, ond nid yw'n rhoi pwerau ychwanegol i ni ryddhau gwybodaeth y tu hwnt i'r hyn a ganiateir o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Rydym hefyd yn rhwymedig i ofynion Deddf Diogelu Data 1998.

Mae'r cynllun hwn yn nodi'r cyfundrefnau trwyddedu y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdanynt, ac mae'n sicrhau bod ystod mor eang â phosibl o wybodaeth ar gael drwy brosesau cyfeirio effeithiol a thrwy wella ein gwefan. Rydym hefyd yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng darparu gwybodaeth y bydd gan bobl ddiddordeb ynddi, ei gwneud yn hawdd i fusnesau wneud busnes â ni, a sicrhau y caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl heb fynd i gostau diangen lle nad oes fawr ddim diddordeb ymhlith y cyhoedd.

Mae'r rhyngrwyd yn adnodd gwych ar gyfer rhannu gwybodaeth a byddwn yn sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael drwy ein gwefan. Bydd hyn yn gwella dros amser, a byddwn yn sicrhau bod mwy a mwy o wybodaeth ar gael yn electronig. Ar hyn o bryd, mae ein cofrestrau cyhoeddus yn cynnwys cymysgedd o wybodaeth ar y we, cofrestrau copi caled a ddelir mewn swyddfeydd lleol, a chofrestrau electronig.

Mae gwybodaeth am ein swyddogaethau trwyddedu ar gael drwy amrywiaeth o fformatau electronig a phapur hefyd. Os oes gennym bŵer cyfreithiol i gyhoeddi gwybodaeth o'r fath am geisiadau trwyddedu, byddwn yn darparu'r manylion canlynol:

  • Y cwmni neu'r unigolyn sy'n gwneud y cais am drwydded.
  • Lleoliad arfaethedig y gweithgarwch i'w drwyddedu, e.e. cyfeiriad, cyfeirnod grid.
  • Y math o gais, gan gynnwys y ddeddfwriaeth y'i gwneir oddi tani, ac esboniad bras o'r gweithgarwch (e.e. gorsaf trosglwyddo gwastraff, neu waith tynnu dŵr nad yw'n defnyddio adnoddau er mwyn cynhyrchu trydan.)
  • Amcan o ddyddiad disgwyliedig y penderfyniad.
  • Canllawiau a dulliau cyfeirio clir o ran ble i gael rhagor o wybodaeth. Bydd hyn yn cynnwys copïau o'r cais, ac unrhyw gyfyngiadau o ran y gallu i gael gafael ar wybodaeth.
  • Sut i wneud sylwadau, ac unrhyw derfynau amser sy'n gymwys.
  • Y penderfyniad terfynol unwaith y caiff ei wneud.

Rydym yn llunio rhesymeg penderfynu ar gyfer rhai o'n cyfundrefnau, sydd ar gael drwy'r cofrestrau. Byddwn yn nodi'r rhain,ac os na fyddant ar gael byddwn yn egluro sut i gael rhagor o wybodaeth.

Pa wybodaeth sydd ar gael a sut a phryd i gael gafael arni

Mae'r ddogfen hon grynodeb manwl o'r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer pob cyfundrefn drwyddedu a ble y gallwch gael gafael arni. Yn unol â'r Gorchymyn Swyddogaethau, mae hefyd yn nodi'r modd y caiff gwybodaeth o bob dosbarth ei chyhoeddi a'r amser a gymerir i wneud hynny.

Ar gyfer ceisiadau penodol sy'n gynhennus, neu os oes llawer o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd am resymau eraill, byddwn yn aml yn cynnal ymgynghoriad lefel uwch. Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn delio â safleoedd sydd o ddiddordeb mawr i'r cyhoedd o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol ar gael ar ein gwefan drwy ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd. Caiff ein dull gweithredu ei deilwra i amgylchiadau lleol penodol a all gynnwys un neu fwy o'r canlynol:

  • ymestyn ymgynghoriadau y tu hwnt i'r 20 diwrnod gwaith arferol;
  • hysbysebu'n ehangach, e.e. mewn papurau newydd lleol;
  • ymgynghori ar y drwydded a'r ddogfen benderfynu ddrafft;
  • darparu mwy o wybodaeth drwy'r wefan neu am ddim mewn pecynnau gwybodaeth;
  • trefnu cyfarfodydd â staff Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd rhywfaint o gyfyngiadau ar y wybodaeth sydd ar gael, ond ceisir lleihau'r rhain cymaint â phosibl. Bydd cyfyngiadau fel arfer yn deillio o ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth benodol, Ddeddf Diogelu Data 1998, ac eithriadau yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Er enghraifft, o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, efallai y bydd angen caniatâd unigolyn cyn y gellir datgelu data personol. Gellid hefyd atal gwybodaeth os ystyrir bod hynny er budd diogelwch cenedlaethol, os yw'n wybodaeth fasnachol gyfrinachol, neu os oes risg i ddiogelwch personol neu eiddo.

Hunandrwyddedu

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ystod eang o rolau mewn perthynas â'i swyddogaethau. Yn achos gweithgareddau penodol, gallwn fod yn rheoleiddiwr, yn ymgynghorai statudol, yn gynghorydd technegol, yn bartner, yn rheolwr contract, yn ymgeisydd neu'n weithredwr. Yn achos amrywiaeth o'n gweithgareddau gweithredol ein hunain a'r rheini a gynhelir gan ein contractwyr, ni hefyd yw'r rheoleiddiwr - y corff sy'n gyfrifol am roi trwyddedau, asesu cydymffurfiaeth, ymchwilio i droseddau posibl a chymryd camau gorfodi.

Byddwn yn dilyn gofynion y Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu hwn drwy gyhoeddi gwybodaeth gryno ar gyfer pob trwydded a gyhoeddir gennym ar gyfer ein gweithgareddau ein hunain, gan gynnwys y rheini lle nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gyhoeddi gwybodaeth o'r fath ar gyfer trwyddedau ymgeiswyr allanol. At hynny, noda'r Gorchymyn Swyddogaethau, os mai ni yw'r ymgeisydd, ein bod hefyd yn gyfrifol am benderfynu ar y cais, a lle y gellir galw'r cais i mewn gan Weinidogion Cymru; rhaid i ni hysbysu Gweinidogion ar yr adeg y gwnawn y cais a darparu'r holl wybodaeth am y cais. Roedd y gofyniad hwn yn rhan allweddol o'r cynllun dros dro, ac ar hyn o bryd hysbysir Llywodraeth Cymru am bob cais mewnol. Bwriedir i'r trefniant hwn barhau o dan unrhyw Gynllun a fabwysiedir yn y dyfodol.

Codi taliadau

Bydd angen codi tâl am ddarparu gwybodaeth benodol. Gellir cael gafael ar wybodaeth ar y we a chofrestrau cyhoeddus am ddim. Codir tâl am wybodaeth arall fel arfer yn unol â'n cynllun taliadau ar gyfer ceisiadau a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2010.

Cynnal, adolygu a datblygu'r Cynllun Trwyddedu Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Cynigiwn y dylid cynnal adolygiadau llawn o'r Cynllun Trwyddedu Cyhoeddiadau bob pum mlynedd o leiaf. Bydd yr adolygiadau hyn yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus ar unrhyw newidiadau arfaethedig.

Fodd bynnag, wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru aeddfedu fel sefydliad, ac wrth i'n cofrestrau cyhoeddus a'n systemau gwybodaeth ddatblygu, byddwn yn diweddaru'r cynllun yn rheolaidd ac yn ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu newidiadau perthnasol mewn deddfwriaeth a'n hymrwymiad i gynyddu tryloywder ein cyfundrefnau trwyddedu.

Felly, ni chawn ein rhwymo i'r cyfnodau adolygu hyn. Os cawn adborth sy'n cynnig y cyfle i wella ein gwasanaethau, byddwn yn ceisio gweithredu'r rhain cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Bydd cynnal adolygiad bob blwyddyn yn sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn.

Trwyddedu morol

Cefndir

Mae Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded ar gyfer nifer o weithgareddau sy'n symud dŵr tua'r môr o gymedr penllanw gorllanw allan i 12 milltir forol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw waith adeiladu, addasu neu wella yng ngwely'r môr neu arno, oddi tano neu drosto, carthu a dyddodi neu dynnu unrhyw ddeunydd o wely'r môr gan ddefnyddio cerbyd neu long. Mae enghreifftiau'n cynnwys gwaith carthu, adeiladu pontydd, datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr ac amddiffynfeydd rhag llifogydd arfordirol.

Nodir gofynion cofrestrau cyhoeddus yn Rheoliadau Trwyddedu Morol(Cofrestr o Wybodaeth Trwyddedu) (Cymru) 2011. Mae'r rheoliadau hyn yn nodi y gellir cadw'r gofrestr ar unrhyw ffurf.

Ar gyfer prosiectau sy'n gofyn am Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, amlinellir gofynion ychwanegol ar gyfer Cofrestrau Cyhoeddus yn Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2007, fel y'u diwygiwyd.

Nodir gofynion Ymgynghoriadau Cyhoeddus yn Adran 68 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, ac ar gyfer prosiectau Asesu'r Effaith Amgylcheddol, nodir gofynion ychwanegol yn Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2007, fel y'u diwygiwyd.

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

Bob mis, ystyrir rhestr o geisiadau am Drwyddedau Morol, a chyhoeddir y rhai y penderfynir arnynt ar ein gwefan.

Caiff pob dogfen a gohebiaeth sy'n ymwneud â cheisiadau am Drwyddedau Morol ar gael trwy ein cofrestr gyhoeddus.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais neu benderfyniad mewn perthynas â Thrwydded Morol, cysylltwch â'r Cyswllt Cyfoeth.

Trwyddedu adnoddau dŵr - tynnu a chronni dŵr

Cefndir

O dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 a'r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr), mae'n debygol y bydd angen i chi wneud cais am drwydded Adnoddau Dŵr er mwyn cronni (storio) dŵr mewn unrhyw gwrs dŵr; neu dynnu (cymryd) mwy na 20 metr ciwbig (4,000 o alwyni) o ddŵr bob dydd o afon neu nant, cronfa ddŵr, llyn neu bwll, camlas, ffynnon, ffynhonnell danddaearol, porthladd, sianel, cilfach, aber neu gainc.

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) 2006 OS2006/641, a ddiwygiwyd gan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Tynnu a Chronni Dŵr) (Diwygio) 2008 OS2008/165 yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw cofrestr o'r holl geisiadau am drwyddedau tynnu a chronni dŵr a'n penderfyniadau ynghylch y ceisiadau hynny.

Rhaid i'r gofrestr gyhoeddus gael ei diweddaru o fewn 14 diwrnod i'r canlynol:

  • y dyddiad perthnasol a gaiff ei bennu ar gyfer cais ffurfiol
  • yr adeg y caiff penderfyniad ei wneud am gais ffurfiol
  • yr adeg y daw cais i law i wneud newid gweinyddol i drwydded
  • Yr adeg y caiff newid gweinyddol ei wneud i drwydded

Mae holl ddogfennau’r gofrestr gyhoeddus a gohebiaeth sy'n ymwneud â chais am adnoddau dŵr ar gael drwy'r gofrestr gyhoeddus.

Ceir hefyd ofyniad cyfreithiol i hysbysebu ceisiadau Adnoddau Dŵr. Sefydlwyd y gofyniad hwn i hysbysebu'n wreiddiol yn adran 37 o Ddeddf Adnoddau Dynol 1991 ac fe'i diwygiwyd wedi hynny yn adran 14 o Ddeddf Dŵr 2003.

Roedd Deddf Dŵr 2003 hefyd yn cynnwys adran 37A ar gyfer adegau lle gellir cymhwyso goddefebau â gofynion cyhoeddi h.y. nad oed rhaid hysbysebu.

  • Mae ceisiadau hysbysebu yn rhoi'r cyfle i unrhyw barti â diddordeb wneud sylwadau. Caiff manylion ceisiadau eu hysbysebu yn y mannau canlynol:
    cyhoeddir hysbysiadau ar ein gwefan ein hunain am 28 diwrnod, unwaith mewn papur newydd lleol ac maent ar gael i'w gweld am 28 diwrnod yn Swyddfa leol Cyfoeth Naturiol Cymru;
    cyflwynir hysbysiad (drwy lythyr neu e-bost) i'r cyrff allanol canlynol, lle y bo'n berthnasol:
    • awdurdod llywio
    • awdurdod porthladd
    • awdurdod gwarchod
    • bwrdd draenio
    • ymgymerwr dŵr statudol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais neu benderfyniad mewn perthynas â thrwydded Adnoddau Dŵr, cysylltwch â'r Cyswllt Cyfoeth.

Trwyddedu amgylcheddol

Cefndir

Daeth y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol i rym ar 6 Ebrill 2008. Roeddent yn cyfuno Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd a Thrwyddedu Rheoli Gwastraff. Daeth pob trwydded Atal a Rheoli Llygredd neu drwyddedau rheoli gwastraff yn Drwyddedau Amgylcheddol yn awtomatig o 6 Ebrill 2008. Diwygiwyd y rheoliadau ym mis Ebrill 2010 er mwyn sicrhau bod pob caniatâd gollwng dŵr, awdurdodiad dŵr daear a chofrestriad ac awdurdodiad sylweddau ymbelydrol yn dod yn drwyddedau amgylcheddol yn awtomatig.

Nodir y ddyletswydd i gadw cofrestr gyhoeddus yn Rheoliad 46 ac Atodlen 24 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 OS 2010 rhif 675. Yn ei hanfod, mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl wybodaeth am gais am drwydded a'r gwaith o reoleiddio safle gael eu cyhoeddi ar gofrestr gyhoeddus.

Mae Rheoliad 47 yn caniatáu i wybodaeth sy'n effeithio ar ddiogelwch cenedlaethol gael ei heithrio o gofrestrau cyhoeddus ac mae Rheoliad 28 yn caniatáu i wybodaeth gyfrinachol gael ei heithrio o gofrestrau cyhoeddus.

Cyflwynwyd y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Diwydiannol yn lle saith Cyfarwyddeb sy'n bodoli eisoes: Atal a Rheoli Llygredd Integredig, Peiriannau Mewndanio Mawr, Llosgi Gwastraff, Titaniwm Deuocsid, Titaniwm Deuocsid (tair cyfarwyddeb) ac Allyriadau Toddyddion. Rydym ar hyn o bryd yn gweithredu unrhyw ofynion perthnasol a nodir yn Erthygl 24 o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Diwydiannol mewn perthynas â chyfranogiad y cyhoedd ac Erthygl 24(2) am "gynnwys drwy'r Rhyngrwyd" drwy'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

Mae holl ddogfennau'r gofrestr gyhoeddus a gohebiaeth sy'n ymwneud â chais EPR (gwastraff, gweithfeydd ac ansawdd dŵr) ar gael drwy ein cofrestr gyhoeddus.

Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i 'ddatganiad cyfranogiad y cyhoedd' gael ei lunio. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut a beth y byddwn yn ymgynghori yn ei gylch a'r hyn a gyhoeddir ar ein gwefan. Mae’n egluro ein dull gweithredu mewn perthynas â cheisiadau sy'n denu cryn dipyn o ddiddordeb gan y cyhoedd.

Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori â'r cyhoedd ar bob cais am drwydded bwrpasol a'r amrywiadau hynny sy'n cynnwys newidiadau sylweddol ar ein gwefan. Ceir manylion ymgynghoriadau ar gyfer penderfyniadau drafft ar drwyddedau amgylcheddol penodol ar ein gwefan a chyhoeddir rhestr o benderfyniadau terfynol ar drwyddedau Amgylcheddol bob mis ar ein gwefan.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais neu benderfyniad mewn perthynas â Thrwydded o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, cysylltwch â'r Cyswllt Cyfoeth.

Trwyddeddau gweithgareddau perygl llifogydd

Cefndir

Ar 6 Ebrill 2016, daeth caniatadau amddiffyn rhag llifogydd yn drwyddedau gweithgaredd perygl llifogydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (2016). Mae angen trwyddedau gweithgaredd perygl llifogydd ar gyfer gweithgareddau mewn, dros, o dan neu gerllaw prif afon neu amddiffynfa lifogydd (gan gynnwys amddiffynfa forol), neu o fewn gorlifdir i sicrhau nad yw’r gweithgaredd yn achosi perygl llifogydd neu’n gwaethygu perygl llifogydd sy’n bodoli eisoes. Mae trwydded hefyd yn angenrheidiol i sicrhau na fydd gweithgareddau yn ymyrryd â’n hasedau rheoli perygl llifogydd neu’n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd lleol, ar bysgodfeydd neu ar fywyd gwyllt.

Darganfod pryd fydd angen ichi wneud cais am drwydded gweithgaredd perygl llifogydd.

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

Ar hyn o bryd nid yw trwyddedau gweithgaredd perygl llifogydd yn cael eu cyhoeddi ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Os oes gennych chi unrhyw ymholiad neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais gweithgaredd perygl llifogydd neu benderfyniad cysylltwch â’n canolfan Cyswllt Cyfoeth.

Pysgodfeydd

Cefndir

O dan Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975, mae angen trwydded arnoch er mwyn pysgota â gwialen a llinell bysgota, symud a stocio pysgod a physgota â rhwydi a thrapiau yng Nghymru.

Dylid nodi hefyd ein bod yn ymgynghori'n ffurfiol ar Orchmynion Cyfyngu Rhwydi (mae'r rhain yn cyfyngu ar nifer y trwyddedau sydd ar gael) ac is-ddeddfau pysgodfeydd, ac rydym yn ymgynghori'n ffurfiol ar symudiadau pysgod (stocio/symud) ac yn ymgynghori ar ddyletswyddau trwyddedau newydd.

Mae Gorchmynion Rheoleiddio Cocos Dyfrdwy a Chilfach Tywyn yn caniatáu i nifer benodol o drwyddedau cocos gael eu rhoi bob blwyddyn.

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

Ar hyn o bryd, nid oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gadw cofrestr gyhoeddus lawn. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais neu benderfyniad mewn perthynas â Thrwyddedu Pysgodfeydd, cysylltwch â'r Cyswllt Cyfoeth.

Coedwig, coetir a choedwigaeth

Cefndir

Mae Deddf Coedwigaeth 1967 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i gael trwydded cyn cwympo coed sy'n tyfu.

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

O ran ceisiadau i gwympo coed, nid oes unrhyw ofyniad yn y ddeddfwriaeth berthnasol i gadw cofrestr gyhoeddus. Fodd bynnag, yn dilyn cais penodol gan gyn Weinidog Coedwigaeth, rydym yn cyhoeddi manylion trwyddedau cwympo coed arfaethedig am 28 diwrnod ar ein gwefan. Mae hon yn cynnwys gwybodaeth am waith cwympo coed arfaethedig ac yn rhoi'r cyfle i wneud sylwadau.

O dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999, rhaid i ni ddangos y penderfyniadau a wnawn ynghylch pa un a fydd cynigion yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais neu benderfyniad mewn perthynas â Thrwydded Cwympo Coed neu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, cysylltwch â'r Cyswllt Cyfoeth.

Safleoedd gwarchodedig

Cefndir

O dan Adran 28 E o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae'n ofynnol i berchenogion neu ddeiliaid Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ein hysbysu os byddant yn bwriadu cynnal neu ganiatáu gweithred a nodir yn y dynodiad SoDdGA fel gweithred a allai beri niwed i'r nodwedd o ddiddordeb arbennig.

Mae Adran 28(h) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff statudol (awdurdodau A28)(g)) gael cydsyniad gennym i gynnal gweithrediad a allai beri niwed i SoDdGA (pa un a yw yn y SoDdGA ai peidio).

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

Ar hyn o bryd, nid oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gadw cofrestr gyhoeddus lawn. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais neu benderfyniad mewn perthynas â Safleoedd Gwarchodedig, cysylltwch â'r Cyswllt Cyfoeth.

Mynediad Agored i Dir

Cefndir

O dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000), gall perchenogion tir/tenantiaid wneud cais am fynediad cyfyngedig i dir am amrywiaeth o resymau.

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

Ar hyn o bryd, nid oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gadw cofrestr gyhoeddus lawn. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais neu benderfyniad mewn perthynas â Gwaharddiadau a Chyfyngiadau, cysylltwch â'r Cyswllt Cyfoeth.

Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop a'r DU

Cefndir

Cwmpesir rhywogaethau a warchodir gan Ewrop a rhywogaethau a warchodir gan y DU gan sawl deddfwriaeth i'w gwarchod rhag niwed. Y prif Ddeddfau yw A16 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Rheoliad 53 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010, Adran 19 o Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992. Rydym yn rhoi trwyddedau, fel trwyddedau ar gyfer trin Ystlumod neu Fadfallod Dŵr Cribog at ddibenion gwaith cadwraeth neu arolygu. Rydym hefyd yn delio â thrwyddedau sy'n ymwneud â datblygiadau lle mae rhywogaethau a warchodir yn bresennol.

Yr hyn a gyhoeddir gennym a ble i ddod o hyd iddo

Ar hyn o bryd, nid oes gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gadw cofrestr gyhoeddus lawn. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw gais neu benderfyniad mewn perthynas â Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop a'r DU, cysylltwch â'r Cyswllt Cyfoeth.

Cyhoeddi Gwybodaeth Reoleiddio Arall

Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth o gofrestriadau statudol nad ydynt yn benderfyniadau trwyddedu ffurfiol. Y rheswm am hyn yw bod y cofrestriadau fel arfer yn rhai awtomatig ac nid oes angen penderfyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ceir rhai eithriadau i hyn lle ystyriwn a ddylid atal partïon rhag cofrestru ar gyfer gweithgarwch, er enghraifft oherwydd collfarnau blaenorol perthnasol.

Cofrestru cludwyr, broceri a delwyr gwastraff

  • Os ydych yn cludo gwastraff fel rhan o'ch busnes, bydd angen i chi fod yn gludwr gwastraff cofrestredig.
  • Os ydych yn trefnu i wastraff o fusnesau neu sefydliadau eraill gael ei gludo, ei waredu, neu ei adfer, mae angen i chi gofrestru fel brocer gwastraff.
  • Os ydych yn prynu neu'n gwerthu gwastraff, neu'n defnyddio asiant i wneud hynny, mae angen i chi gofrestru fel deliwr gwastraff.
  • Ar gyfer cludwyr gwastraff, rhaid cynnal cofrestr gyhoeddus o dan adran 2(2)(b) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 a Rheoliad 3 o Reoliadau Gwastraff a Reolir (Cofrestru Cludwyr ac Atafaelu Cerbydau) 1991 a ddiwygiwyd gan OS Rhif. 1624 ac a ragnodir gan Reoliad 6 o OS Rhif. 1991/1624 (ers 14 Hydref 1991)
  • Ar gyfer broceriaid, rhaid cadw cofrestr gyhoeddus o dan Reoliad 28 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 ac ar gyfer delwyr, mae Rheoliad 28 o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011yn nodi bod yn rhaid cadw cofrestr o ddelwyr proffesiynol.
  • Mae'r gofrestr gyhoeddus ar gyfer cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff haen uchaf ac isaf ar gael ar ein gwefan.
  • Mae'r cofrestrau cyhoeddus yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol fel enw, cyfeiriad a dyddiad cofrestru'r busnes. Gellir darparu rhagor o wybodaeth ar gais drwy ein Cyswllt Cyfoeth - gweler Atodiad 1 am ragor o fanylion.

Cofrestriadau Gwastraff Peryglus

Nid yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw cofrestr gyhoeddus. Fodd bynnag, rydym yn cyhoeddi manylion penodol yn rhagweithiol a cheir rhwymedigaeth i hysbysu unigolyn sy'n cadw, yn cludo neu'n casglu gwastraff peryglus fod safle wedi'i gofrestru.

Eithriadau Gwastraff a Dŵr

Cofrestr gyhoeddus a ddelir o dan Atodlen 2, paragraff 7 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 ac a ragnodir ganddynt, y mae'r manylion wedi'u nodi ym mharagraff 6. Mae'r wybodaeth hon ar gael trwy'r Gofrestr Gyhoeddus ar ein gwefan.

Esemptiadau gweithgarwch perygl llifogydd

Cynhelir cofrestr gyhoeddus ar gyfer gweithgareddau a gofrestrwyd fel “gweithgaredd perygl llifogydd eithriedig” fel sy’n cael ei egluro mewn mwy o fanylder dan Atodlen 2, paragraff 9 Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. Mae’r wybodaeth hon ar gael ar gais. Cysylltwch â’n canolfan Cyswllt Cyfoeth i gael manylion.

Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013

Daeth Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 i rym ar 1 Hydref 2013. Mae awdurdodau lleol yn cyhoeddi ac yn gorfodi trwyddedau delwyr metel sgrap.

Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ddarparu cofrestr gyhoeddus.

Mae manylion Cofrestrau Cyhoeddus ar gael drwy ein wefan.

Cofrestrau y tu hwnt i'r Cynllun Trwyddedu Cyhoeddiadau

Mae rhwymedigaeth arnom o dan amryw ddarnau o ddeddfwriaeth i gynnal cofrestrau cyhoeddus o wybodaeth a sicrhau eu bod ar gael. Mae rhai cofrestrau cyhoeddus y mae'n ofynnol i ni eu cynnal sydd y tu hwnt i'r Cynllun Trwyddedu Cyhoeddiadau hwn, a rhestrir rhai enghreifftiau isod. Mae wybodaeth ar gael ar ein gwefan.

  • Tir halogedig
  • Cyforgronfeydd dŵr mawr
  • Cofrestrau rheoli llygredd
  • Mapiau o afonydd
  • Y gofrestr cyfrifoldeb cynhyrchwyr
  • Batris a chronaduron gwastraff
  • Cynllun lwfansau tirlenwi
  • Camau Gorfodi
  • Cyfleusterau trin awdurdodedig Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff
  • Cyfleusterau Trin Awdurdodedig ar gyfer Cerbydau ar Ddiwedd eu Hoes

Sut i gysylltu â ni

Mae ein Cyswllt Cyfoeth yn cynnig gwasanaeth cwbl ddwyieithog a bydd yn barod i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych mewn perthynas â thrwyddedu. Gallwch gysylltu â'r Ganolfan Gofal Cwsmeriaid drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy'r post. Gweler y manylion isod.

E-bost: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Ffôn: 0300 065 3000, 9-5 dydd Llun i dydd Gwener
Post: Cyfoeth Naturiol Cymru Canolfan Gofal Cwsmeriaid Tŷ Cambria 29 Heol Casnewydd Caerdydd CF24 0TP

Mannau eraill yng Trwyddedau a chaniatadau