Rhaid i chi wneud cais am drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych am wneud unrhyw waith sy'n effeithio ar rywogaeth sydd wedi ei gwarchod yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • dosbarthu, maglu neu drin rhywogaethau a warchodir
  • difrodi eu cynefinoedd, er enghraifft drwy adfer pwll neu adeiladu datblygiad tai

Mae’r pathew, Muscardinus avellanarius, yn cael ei warchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’. Y rheswm am hyn yw bod eu niferoedd wedi gostwng ledled Ewrop yn y degawdau diwethaf. Mae’r wybodaeth hon yn canolbwyntio ar drwyddedu pathewod yng Nghymru ac nid yw’n adolygiad cynhwysfawr o ecoleg pathewod na’r gyfraith sy’n ymwneud â phathewod.

Gall pathewod gael eu heffeithio gan amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys gwaith ar wrychoedd, cynlluniau ffyrdd, datblygiadau tai neu waith mewn coetiroedd.

Deddfwriaeth

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • Dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • Tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • Difa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cynnwys, ond nid yw wedi’i gyfyngu i, unrhyw darfu sy’n debygol:

  1. o amharu ar eu gallu –
    • i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu
    • yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny
  2. o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddi yn lleol

Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar ddehongli’r troseddau sy’n gysylltiedig â tharfu, difa a dinistrio safleoedd bridio a mannau gorffwys.

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 y Rheoliadau Cynefinoedd fel y gallwch chi weithio o fewn y gyfraith. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a restrir yn y Rheoliadau, os ydych chi'n bodloni'r tri phrawf canlynol:

  • mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd
  • does yna ddim dewis arall boddhaol
  • ni fydd y weithred a awdurdodir yn cael effaith niweidiol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth dan sylw ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Dibenion trwyddedu

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:

  • diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
  • dibenion gwyddonol ac addysgol
  • gosod modrwy neu nod
  • gwarchod anifeiliaid gwyllt

Gwyddonol neu Addysgol

Byddwch angen trwydded i gymryd neu darfu ar bathew, neu i ddifrodi neu rwystro mynediad i safle bridio neu fan gorffwys er mwyn gwneud unrhyw waith ymchwil neu arolwg manwl. Gallwn hefyd roi trwyddedau ar gyfer gosod modrwy neu nod, yn cynnwys gosod tagiau olrhain radio a thagiau transbonder anwythol goddefol (PIT). Mae trwyddedu’r dulliau arolygu mwy mewnwthiol hyn yn gofyn am ddatganiad dull prosiect manwl. Os ydych chi’n gweithio tuag at eich trwydded arolygu eich hun gweler y Log Hyfforddiant Pathewod amgaeedig.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Datganiad Dull

Os ydych yn gwneud unrhyw waith datblygu, neu unrhyw waith mewn coetiroedd neu goedwigoedd, bydd angen i chi gwblhau datganiad dull.

Datganiad dull trwydded ddatblygu

Datganiad dull coedwigaeth a choetir

Mae'r datganiad dull yn rhan o'ch cais am drwydded.

Cydymffurfiaeth ecolegol

Efallai y gofynnir i chi gyflwyno ffurflen archwilio cydymffurfiaeth ecolegol os ydych chi’n cynnig cynllun datblygu mawr, neu gynllun sydd â risg uwch ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig. Bydd y gofynion hyn yn un o amodau eich trwydded.

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf