Trwyddedu rhywogaethau planhigion a warchodir gan Ewrop

Mae rhai rhywogaethau o blanhigion wedi dirywio i’r fath raddau ledled Ewrop fel eu bod yn cael eu gwarchod gan y gyfraith erbyn hyn. Mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’) yn gweithredu Cyfarwyddeb Cynefinoedd y CE 1992 fel rhan o gyfraith y DU, sef y gyfarwyddeb sy’n rhestru’r rhywogaethau hyn.

Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod rhywogaethau prin hyn.

Rhywogaethau planhigion

Mae’r rhywogaethau canlynol sydd i’w gweld yng Nghymru yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop ac wedi’u rhestru ar Atodlen 5 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017:

  • Tegeirian y Fign, Liparis loeselii
  • Llyriad-y-dŵr arnofiol, Luronium natans
  • Rhedynen wrychog, Trichomanes speciosum
  • Tafolen y Traeth, Rumex rupestris

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n drosedd tynnu, casglu, torri, dadwreiddio neu ddinistrio planhigyn gwyllt sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trwyddedau o dan Reoliad 55 Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn galluogi gweithgareddau sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir gan Ewrop, a fyddai’n droseddau fel arall. Rydym yn eu rhoi at ddibenion penodol a nodir yn y Rheoliadau, os bodlonir y tri phrawf canlynol:

  • Mae diben y gwaith yn cyd-fynd ag un o'r dibenion sydd wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Cynefinoedd
  • Nid oes dewis boddhaol arall yn lle'r gwaith arfaethedig ac
  • Ni fydd y gweithgarwch arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y gwaith o gynnal poblogaeth y rhywogaeth ar statws cadwraethol ffafriol yn eu hystod naturiol

Dibenion trwyddedu

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, gellir rhoi trwyddedau ar gyfer cyfres benodol o ddibenion yn cynnwys:

  • diogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu unrhyw reswm hanfodol arall sydd o fudd cyhoeddus tra phwysig eraill yn cynnwys rhesymau cymdeithasol neu economaidd eu natur a chanlyniadau buddiol sy’n bwysig iawn i’r amgylchedd
  • dibenion gwyddonol ac addysgol
  • gwarchod planhigion gwyllt neu eu cyflwyno i ardaloedd penodol

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf