Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon dadwreiddio unrhyw blanhigyn gwyllt oni bai eich bod wedi cael caniatâd y tirfeddiannwr. Yn ogystal, mae dros 100 o blanhigion blodeuol a thros 75 o blanhigion is wedi’u rhestru ar Atodlen 8. Mae’r rhywogaethau hyn naill ai’n brin neu’n agored i gael eu camddefnyddio.

Nid yw’r dudalen hon yn rhoi sylw i bob agwedd ar y gyfraith neu ecoleg planhigion, ond mae’n gyflwyniad i sut y gallwch chi helpu i warchod planhigion Cymru.

Mae’n drosedd gwneud y canlynol i’r planhigion hyn a warchodir:

  • Casglu, dadwreiddio neu eu dinistrio’n fwriadol
  • Gwerthu, cynnig neu eu rhoi i’w gwerthu

Mae nifer fechan o blanhigion yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.

Trwyddedu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru‘n rhoi trwyddedau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad at ddibenion penodol er mwyn i chi allu gwneud rhai gweithgareddau heb dorri’r gyfraith. Rydym yn rhoi trwyddedau ar gyfer y dibenion canlynol:

  • Gwyddonol ac addysgol
  • Gosod modrwy neu nod
  • Gwarchod anifeiliaid gwyllt neu blanhigion gwyllt, neu eu cyflwyno i ardaloedd penodol
  • Gwarchod unrhyw gasgliad sŵolegol neu fotanegol
  • Ffotograffiaeth
  • Iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd
  • Atal clefyd rhag lledaenu
  • Atal difrod difrifol i gnydau, eiddo, pysgodfeydd ac ati

Ni allwn roi trwyddedau ar gyfer gwneud gwaith datblygu o dan y ddeddfwriaeth hon. Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith datblygu a allai effeithio ar blanhigion dylech wneud yn siŵr eich bod yn aros o fewn y gyfraith.

Pwy all wneud cais am drwydded

Dysgwch pwy sy’n gallu gwneud cais ar gyfer trwydded rhywogaethau gwarchodedig

Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

Os nad oes modd i chi osgoi tarfu ar rhywogaethau a warchodir, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys, gallwch wneud cais am drwydded am ystod o wahanol weithgareddau:

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod eich cais ar gyfer trwydded.

Diweddarwyd ddiwethaf