Prynu a gwerthu tir lle ceir trwydded gwympo coed

Mae trwydded gwympo coed yn berthnasol i’r tir, pwy bynnag yw’r perchennog. Mae trwydded gwympo coed yn aros gyda’r tir, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei brynu neu ei werthu.

Gwerthu tir lle ceir trwydded gwympo coed

Os ydych yn gwerthu tir lle ceir trwydded gwympo coed yn barod, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i roi manylion perchennog newydd y tir inni.

Os ydych yn gwerthu’r tir ar ôl cwympo coed, ond cyn ailstocio’r tir, dylech roi gwybod i brynwr y tir. Bydd prynwr newydd y tir yn dal i orfod ailstocio’r safle.

Prynu tir lle ceir trwydded gwympo coed

Os ydych chi wedi prynu tir lle mae trwydded gwympo coed yn weithredol, bydd angen ichi gwblhau ffurflen ddiwygio.

Yna byddwn yn gallu ystyried newid y drwydded gwympo gyfredol.

Os oes trwydded gwympo coed yn dal i fod yn weithredol ar y tir ydych chi wedi’i brynu, efallai y bydd amodau penodol yn weithredol. Os felly, byddwn yn gadael ichi wybod.

Diweddarwyd ddiwethaf