Gwneud cais am drwydded bwrpasol ar gyfer gweithrediadau gwastraff

Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais ar gyfer trwydded bwrpasol newydd a'r nodiadau canllaw i'ch helpu i gwblhau'r ffurflenni cais. Rhaid i chi lenwi rhan A ac F a chwblhau'r adrannau priodol yn rhan B.

Nodwch:

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r bocsys priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, gallai'r wybodaeth yn y ddolen Help gyda'ch cais eich helpu. Os hoffech gyngor cyn ymgeisio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Sut i dalu

Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Trosglwyddiad BACS i:

Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP

Banc: RBS

Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA

Cod didoli: 60-70-80

Rhif cyfrif: 10014438​

Ffioedd a thaliadau

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol

Amserlen

Byddwn yn penderfynu ar eich cais cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib. Os yw’ch cais am drwydded yn fwy cymhleth oherwydd deddfwriaeth arall neu gyfyngiadau cynllunio, neu os oes gennym ni bryderon penodol am y cynnig, efallai y bydd angen i ni gytuno ar amserlen wahanol gyda chi.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ffurflen - Rhan A WORD [176.9 KB]
NODYN CANLLAW A.doc WORD [208.0 KB]
Ffurflen - Rhan B4 WORD [234.6 KB]
NODYN CANLLAW B4.doc WORD [258.5 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf