Sut i baratoi cynllun adfer gwastraff ar gyfer trwydded gwaredu gwastraff i’w adfer
Os ydych chi’n gwneud cais am drwydded gwaredu gwastraff ar gyfer ei adfer er mwyn gwaredu gwastraff yn barhaol ar dir, rhaid i chi baratoi cynllun adfer gwastraff.
Yr hyn y dylech ei gynnwys mewn cynllun adfer gwastraff
Rhaid i chi ei baratoi yn unol â’r canllawiau ar drwyddedau a chynlluniau adfer gwastraff ar GOV.UK.
Er y dylech ddefnyddio’r egwyddorion a nodir yng nghanllawiau GOV.UK, bydd angen i chi gysylltu â ni ar gyfer trafodaethau cyn ymgeisio, neu i wneud eich cais.
Asesu cynlluniau adfer gwastraff
Mae taliad sefydlog o £800 am asesu cynllun adfer gwastraff newydd neu ddiwygiedig. Mae’r taliad hwn ar wahân i unrhyw daliad i wneud cais am drwydded.
Gallwch anfon eich cynllun atom i’w asesu cyn i chi wneud cais am drwydded, neu ar yr un pryd.
Os byddwch yn anfon y cynllun atom i’w asesu y tu allan i’r broses ymgeisio am drwydded, bydd angen i chi:
- gwblhau ffurflen gais Rhan F1
- darllen y canllawiau ar gyfer Rhan F1
- atodi eich cynllun drafft i’ch e-bost
- anfon eich e-bost at permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk
- talu eich ffi
Sut i dalu
Gallwch ein ffonio ni ar 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, ddydd Llun i ddydd Gwener neu dalu drwy drosglwyddiad BACS at:
Enw’r cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Yr Adran Incwm, Blwch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, London, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif y cyfrif: 10014438
Gwneud cais am drwydded
Gallwch wneud cais am drwydded rheolau safonol ar yr amod eich bod yn gallu bodloni’r meini prawf o fewn y set rheolau canlynol:
Dysgwch fwy am:
- wneud cais am drwydded rheolau safonol ar gyfer gweithrediadau gwastraff
- gwneud cais am drwydded bwrpasol ar gyfer gweithrediad gwastraff
Gweithrediadau adfer a gwaredu
Mae adfer gwastraff yn hytrach na’i waredu yn rhywbeth rydym yn ei gefnogi’n gryf. Mae’n bwysig gwahaniaethu’n glir rhwng gweithrediadau adfer a gwaredu er mwyn sicrhau:
- bod ganddynt drwydded briodol
- eu bod yn cael eu cynnal yn unol â’r rheolaethau cyfreithiol ac amgylcheddol cywir