Cais i amrywio (newid) trwydded ar gyfer gweithrediadau gwastraff
Diweddariad: 31/03/2023
Bydd ein ffioedd am drwyddedau yn aros ar gyfraddau 2022-2023 hyd nes y bydd cynlluniau codi tâl newydd yn cael eu cytuno.
Cyn i chi wneud cais
Mae’n rhaid i chi wneud cais am amrywiad os ydych chi am wneud unrhyw newidiadau i’ch trwydded. Am ragor o gyngor ar sut i amrywio trwydded gweler y ffurflenni cais a’r nodiadau canllaw sydd ar gael drwy glicio’r dolenni isod. Rhaid i bob ymgeisydd (ac eithrio’r rhai sy’n gwneud cais am newid gweinyddol yn unig) lenwi rhan A a rhan F, a chwblhau’r adrannau priodol yn rhan C.
Sut i wneud cais
Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais i amrywio eich trwydded a’r nodiadau canllaw i’ch helpu i gwblhau’r ffurflenni cais. Rhaid i chi lenwi Rhan C0.5 oni bai eich bod yn newid cyfeiriad neu fanylion cysylltu – os felly, dylech roi’r manylion newydd yn Rhan A. Gweler y canllawiau ar gyfer Rhan C0.5 i weld beth yw amrywiad gweinyddol neu edrychwch ar yr enghreifftiau yn ein cynllun ffioedd a thaliadau.
Os oes gennych chi fwy nag un drwydded amgylcheddol yn yr un lleoliad, gallwch wneud cais i gyfuno’ch trwydded.
Os hoffech wneud hyn, ffoniwch ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid ar 0300 065 3000 i drafod eich cais.
Nodwch
Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r bocsys priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.
Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, gallai'r wybodaeth yn y ddolen Help gyda'ch cais eich helpu. Os hoffech gyngor cyn gwneud cais, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
Sut i dalu
Gallwch dalu am eich cais am drwydded yn y ffyrdd canlynol:
Ffoniwch ni at 0300 065 3000 rhwng 9 a 5, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Trosglwyddiad BACS i:
Enw'r wwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeiriad y cwmni: Adran Incwm, Bwlch Post 663, Caerdydd, CF24 0TP
Banc: RBS
Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc., 2 1/2 Devonshire Square, Lundain, EC2M 4BA
Cod didoli: 60-70-80
Rhif cyfrif: 10014438
Ffioedd a thaliadau
Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl trwyddedau amgylcheddol.
Help gyda’ch cais
Ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000
Canolfan Derbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.