Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant adroddiad blynyddol 2019-20

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015 i 2020


Cafodd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015 - 2019 ei ymestyn flwyddyn er mwyn cydamseru â sefydliadau eraill a’n galluogi ni i gydweithio mwy pan ddawn hi’n amser ailymgynghori â phoblogaeth Cymru.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb 2019 i 2020


Mae ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ar gyfer 2018/19, wedi cefnogi a helpu i gyflawni’n Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Cafwyd adroddiad yn rhoi’r diweddaraf ar gynnydd.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024


Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag unarddeg corff cyhoeddus i ddatblygu yn ysbryd y pum ffordd o weithio a amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Trwy gydweithio, datblygwyd cyfres o Amcanion Cydraddoldeb Cyffredin, i helpu i gyflawni wyth nod strategol Llywodraeth Cymru. Bwriad yr wyth nod strategol hyn yw helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau ledled Cymru a nodwyd yn adroddiad diweddar y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ‘A yw Cymru’n Decach?’.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb 2020 i 2021


Mae ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb newydd ar gyfer 2020 i 2021 yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol gyda heriau mesuradwy clir ar gyfer y sefydliad.

Hunanddatgelu


Mae ein cyfraddau hunanddatgelu trwy'r flwyddyn wedi aros yn gyson uchel ac rydym yn parhau i fod â chyfartaledd sefydliadol o dros 70%.

Byddwn yn parhau i annog staff i gofnodi gwybodaeth i gynnal neu ragori ar y cyfraddau datgelu cyfredol. Fodd bynnag, rydym yn cofio bod hunanddatgelu nodweddion gwarchodedig yn broses wirfoddol.

Ffurflenni hunanddateglu wedi’u cwblhau – Chwefror 2020

Maes y busnes  Ffurflenni Cydraddoldeb,  Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi’u Cwblhau Ffurflenni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant heb eu cwblhau Cyfanswm % o Ffurflenni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi’u cwblhau % o Ffurflenni Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant heb eu cwblhau
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) 1436 578 2014 71% 29%
Cyfathrebu, Cwsmeriad a Gwybodaeth (CCI) 36 14 50 72% 28%
Swyddfa'r Prif Weithredwr (CEO) 1 0 1 100% 0%
Strategaeth a Datblygu Corfforaethol (CSD) 29 6 35 83% 31%
Tystiolaeth Polisi a Thrwyddedu (EPP) 381 144 525 73% 27%
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol (FCS)  204 58 262 78% 22%
Gweithrediadau (OPS) 785 356 1141 69% 31%

 

Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall


Ym mis Medi 2020,  cyflwynwyd ein 8fed cyflwyniad i Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall (WEI). 

Ein hanes o ran Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall


Crynodeb o daith Cyfoeth Naturiol Cymru o ran Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall

Blwyddyn Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Gradd Cyfoeth Naturiol Cymru Nifer y cyfranogwyr yn y DU Safle Cyfoeth Naturiol Cymru
2014 296 369 dim data
2015 238 397 Up 58
2016 160 415 Up 78
2017 184 439 Down 24
2018 132 433 Up 52
2019 152 445 Down 20
2020 152 502 dim data

 

Mae’r canlyniadau’n dangos mai ni yw cyflogwr gorau rhif 152 yn y DU, ac er bod ein gradd wedi aros yr un fath gan ein bod ni yn yr un safle y llynedd, mae ein sgôr gwirioneddol wedi codi o 94.5 i 100 a chyda mwy o gystadleuaeth (roedd 445 o gyfranogwyr y llynedd o gymharu â 502 eleni), rydym yn falch o’r canlyniad hwn. Mae hyn yn golygu ein bod wedi codi i safle’r 14eg cyflogwr gorau yng Nghymru o’r 19eg safle. Gyda’r holl waith rydym wedi bod yn ei wneud ers ein cyflwyniad ym mis Medi 2019, rydym yn obeithiol y gallwn weld cynnydd eto ym mynegai 2021 ac y byddwn yn agosach at fod ymhlith y 100 cyflogwyr gorau ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle y DU.

I gau’r flwyddyn, mynychodd chwe aelod o staff a Zoe Henderson (aelod o’r bwrdd) Gynhadledd Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall ym mis Chwefror 2020. Ymysg y siaradwyr gwadd roedd Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru), a roddodd anerchiad ar sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn gyfle unigryw i gyflwyno newid cadarnhaol, hirdymor i genedlaethau heddiw ac yfory yn cynnwys arloesi cydraddoldeb i bobl LGBT+. Gan fod cynifer ohonom yno, llwyddom i fynychu pob sesiwn grŵp ar bynciau fel deall y berthynas groesdoriadol o fod yn BAME (Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) a LGBT, ymwybyddiaeth o ddeurywioldeb, cefnogi iechyd meddwl a llesiant eich gweithwyr LGBT a grymuso’r holl staff i hyrwyddo cynhwysiant ar gyfer pobl draws. Cafodd pawb lawer o fudd o’r diwrnod, yn cynnwys rhai cysylltiadau rhwydweithio gwych gyda sefydliadau eraill, yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Aelodau staff yng Nghynhadledd Cydraddoldeb Gweithleoedd Stonewall ym mis Chwefror 2020

Cynllun y Sefydliad


Cwblhawyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb mewn perthynas â Chynllun y Sefydliad cyn lansio’r Ymgynghoriad Ffurfiol. Cynhaliwyd yr Asesiad i sicrhau nad oedd unrhyw ragfarn yn y broses, a bod y cynllun yn ystyried y naw nodwedd warchodedig yn briodol.

Nawr fod gwaith Cynllun y Sefydliad wedi’i gwblhau byddwn yn ceisio cynnal asesiad i nodi unrhyw effaith y gallai Cynllun y Sefydliad fod wedi’i chael ar grwpiau gwarchodedig.

Cyflogwr Hyderus o Ran Anabledd


Ym mis Mai eleni, llwyddom i gwblhau ein hymarfer hunanasesu ac, o ganlyniad, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ailachredu CNC fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd nes 27 Mai 2020.

 

logo hyderus o ran anabledd

Cynllun gwarantu cyfweliad “Dau Dic”


Yn ystod blwyddyn galendr 2019, gwnaethom barhau i gydymffurfio 100% gyda'n cynllun gwarantu cyfweliad 'Dau Dic', lle mae ymgeiswyr sy'n datgan bod ganddynt anabledd, yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010, ac sy’n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl y gwneir cais amdani, yn derbyn cyfweliad yn awtomatig.

Yn allanol, gwnaethom dderbyn ceisiadau gan 1704 o bobl, yr oedd 37 (2.2%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig. Cafodd 18 o'r rheini eu gwahodd am gyfweliad ac nid oedd yr 19 oedd yn weddill yn bodloni'r meini prawf sylfaenol.

Yn fewnol, gwnaethom dderbyn ceisiadau gan 833 o bobl, yr oedd 7 (0.84%) ohonynt yn gofyn am gyfweliad gwarantedig. Cafodd 5 o'r rheini eu gwahodd am gyfweliad ac nid oedd y 2 oedd yn weddill yn bodloni'r meini prawf sylfaenol.

Y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar 31 Mawrth 2019


Rydym wedi ailadrodd ein dadansoddiad o’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar gyfer 2018 ac wedi adrodd bod ein prif ffigur nawr yn 4.8% Yn y DU, mae’r bwlch cyflog wedi gostwng o 10.5% yn 2011 i 8.6% yn 2018 (Swyddfa Ystadegau Gwladol), ond mae’n parhau i fod yn bositif o ran gwerth - sy’n golygu bod dynion ar gyfartaledd yn cael eu talu’n fwy na menywod.

Crynodeb o fwlch cyflog rhwyn y Rhywiau CNC

31 Mawrth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau Gwahaniaeth
2016 7.8% Dim data
2017 5.5% I lawr 2.3%
2018 4.8% I lawr 0.7%
2019 5.3% I fyny 0.5%

 

Bydd ein data yn mynd yn fyw ar Wasanaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau Gov.UK yn ogystal â thudalennau ein gwefan ein hunain yn unol â deddfwriaeth ac mae'n cynnwys dadansoddiad o nifer y menywod a dynion fesul chwartel.

Chwartel cyflog Nifer y gweithwyr – dynion Nifer y Gweithwyr - Menywod
Uchaf 325 158
Canol uchaf 260 222
Canol isaf 243 240
Isaf 254 228

 

Polisi Cydraddoldeb


Rydym yn adolygu polisïau’n barhaus a byddwn yn parhau i sicrhau eu bod nhw, ynghyd ag unrhyw bolisïau newydd, wedi’u geirio ac yn cael eu defnyddio mewn modd cynhwysol.

Rhwydweithiau Staff


Mae ein rhwydweithiau staff Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn mynychu’r fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant chwarterol ac maent yn parhau i fod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Fel sefydliad, rydym yn parhau i gael ein herio’n gynhyrchiol ynghylch materion sy’n codi o dro i dro.

Grŵp Defnyddwyr a Gynorthwyir (TG a Teleffoni)


Mae nifer o’n staff yn defnyddio technoleg gynorthwyol fel y feddalwedd darllenydd sgrin a llais i destun JAWS, Dragon Naturally Speaking, Zoom Test Reader, Dolphin Supernova ac ati. Mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau nad yw caledwedd a meddalwedd Technoleg Gwybodaeth a systemau teleffoni yn rhoi pobl o dan anfantais. Rydym yn cyfarfod “pan fo angen”, ac wedi sefydlu grŵp ar Yammer i ddefnyddwyr allu gofyn cwestiynau neu gael atebion i broblemau sydd ganddynt.

Mae’r rhwydwaith staff hwn yn allweddol i sicrhau bod ein holl staff yn gallu defnyddio’n systemau ac i rannu arferion gorau gydag aelodau’r grŵp defnyddwyr ac mae’r defnyddwyr yn profi systemau newydd arfaethedig yn rheolaidd ar ran y sefydliad.

Byddwn yn parhau i ddarparu cyngor i staff am sicrhau bod dogfennau’n hygyrch i bawb ac rydym yn dal i weithio i ddatrys y problemau a gafwyd gyda meddalwedd cymorth a Windows 10. Rydym wedi gofyn i Destek (ein contractwr hygyrchedd) archwilio’r feddalwedd a darparu adroddiad i ddweud wrthym beth sydd angen i ni ei wneud i ddatrys hyn.

Cyfeillion Dementia

logo yn gweithio i fod yn Dementia Gyfeillgar

Mae CNC yn nesáu at ddiwedd ei drydedd flwyddyn yn gweithio i fod yn Gymuned Dementia Gyfeillgar. Rydym wedi creu ein trydydd cynllun gweithredu, ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth 2020, ac wedi penodi Cynghorydd Prosiect Dementia Gyfeillgar yn ystod mis Rhagfyr i helpu i ddatblygu’r gwaith hwn.

Rydym yn canolbwyntio ar ddau beth eleni. Yn gyntaf, parhau i nodi prosiectau dementia gyfeillgar, yn cynnwys adolygu cyfleusterau yn ein canolfannau ymwelwyr ledled Cymru a chwilio am gyfleoedd eraill i weithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid eraill yn y maes hwn. Yn ail, rydym yn cryfhau ein gwaith ymgysylltu mewnol ac allanol, i gyfeirio cydweithwyr a chwsmeriaid at adnoddau perthnasol, a rhoi mwy o sylw yn y cyfryngau i ddysgu a llwyddiant ac annog eraill i ddilyn ein hesiampl.

Wrth edrych ymlaen, rydym yn ystyried y ffordd orau o ymgorffori ein dyheadau yn y maes gwaith hwn ym mhrosesau cynllunio ac adrodd y sefydliad, i’n galluogi ni i olrhain a choladu tystiolaeth o’n cynnydd.

Cwtch, Rhwydwaith Gofal


Sefydlwyd rhwydwaith newydd i gydnabod, cefnogi a gwerthfawrogi’n cydweithwyr yn CNC sy’n gofalu am eu hanwyliaid am amryw o resymau.

Prif nod rhwydwaith Cwtch yw darparu ffocws ar gyfer newid diwylliannol yn y sefydliad i’n cydweithwyr â chyfrifoldebau gofalu a llywio gweithle mwy cynhwysol ac amrywiol yn y dyfodol, drwy:

  • Ddod â phobl at ei gilydd i gysylltu a siarad am eu cyfrifoldebau gofalu
  • Darparu amgylchedd lle mae pawb yn cefnogi ei gilydd ac yn cael eu clywed
  • Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth yn seiliedig ar brofiadau personol a’r ymchwil ddiweddaraf
  • Cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a sefydliadau eraill a all helpu
  • Annog staff a rheolwyr i ddechrau sgwrsio am ofalu i hyrwyddo gwell dealltwriaeth ac empathi ac annog gofalwyr i ofyn am gymorth

Sefydlwyd grŵp Yammer, sy’n parhau i dyfu ac sydd â 36 o aelodau ar hyn o bryd. O’r 155 unigolyn sydd wedi hunanddatgelu bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu, rydym yn cyrraedd 23% ohonynt.

Calon, y Rhwydwaith i staff LGBT+


Mae Calon, Rhwydwaith Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT+) CNC wedi bod mor weithgar ag erioed eleni. Rydym wedi cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi i staff eleni yn cynnwys rhaglenni Darparu Gwasanaeth Cynhwysol, Rôl-fodelau, Cyfeillion LGBT a Chyfeillion Traws-benodol gan Stonewall i dimau ac unigolion amrywiol.

Buom hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau mentora o chwith rhwng Samantha Carpenter a Ben Reardon gyda Julia Cherrett. Fe wnaeth Ben a Samantha rannu eu hanes o ‘ddod allan’, gan helpu Julia i ddeall sut brofiad yw hi i bobl hoyw a thrawsrywiol ddygymod gyda phwy ydynt a’r effaith mae hyn yn gallu ei chael ar eu bywydau, yn ogystal ag yn y gwaith. Bu aelod arall o’r bwrdd, Catherine Brown, yn helpu i gefnogi’r rhwydwaith drwy roi proffil o’i hun ar Ddiwrnod Dathlu Lesbiaid (26 Ebrill) ac ymunodd Zoe Henderson â ni yng Nghynhadledd Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall ym mis Chwefror 2020. Mae cael aelodau’r bwrdd yn cymryd rhan yn y rhwydwaith ac yn caniatáu ni rannu hyn gyda’r sefydliad ehangach drwy erthyglau ar y fewnrwyd ac ar Yammer, yn ogystal ag mewn negeseuon cyfathrebu allanol fel ein tudalen ar y ryngrwyd a Twitter, yn dangos gwir ymrwymiad lefel uchcel i Gydaraddoldeb LGBT+.

Aethom i ddiwrnod #TîmCNC hefyd gyda’n stondin ein hunain yn y ‘farchnad’ lle bu Ben Reardon yn dosbarthu laniardau enfys Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a phecynnau canllaw amrywiol Stonewall ar bynciau fel beth i’w wneud os ydych chi’n credu bod eich plentyn chi’n hoyw ac adroddiadau LGBT in Britain. Roedd hwn yn gyfle i ni fel rhwydwaith ymgysylltu â llawer o bobl o bob cwr o Gymru nad oeddent wedi troi at y rhwydwaith o’r blaen o bosibl. Rydym ni'n edrych ymlaen at ddiwrnodau #TîmCNC y dyfodol a datblygu’r hyn sydd gennym i’w gynnig yn y diwrnodau hyn.

Yn olaf, rydym yn bwriadu cyflwyno tystiolaeth o waith dros y tair blynedd diwethaf i’r Gymdeithas Alzheimer i gael ein hystyried fel Cymuned Dementia Gyfeillgar y Flwyddyn (categori sefydliad mawr) 2020.

Delwedd o stondin yn ystod diwrnod #TîmCyfoeth

Ym mis Awst 2019, bu Calon yn cymryd rhan ym mharêd Pride Cymru, gyda grŵp o dros 20 o staff a ffrindiau, teulu a phartneriaid. Buom yn gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd gyda’n baneri Pride CNC a’n e-gar newydd a oedd wedi’i addurno’n barhaol â baneri pride a thraws LGBT. Mae’r cerbyd hwn nawr yn ychwanegiad parhaol at y fflyd yn Nhŷ Cambria, gyda’r gobaith o gael o leiaf un car arall i Maes y Ffynnon wedi’i addurno yn yr un modd. Roedd parêd Pride yn gyfle gwych i ni ddangos i’r cyhoedd bod CNC yn falch o sefyll dros gydraddoldeb LGBT ac roedd yn gyfle cymdeithasol gwych i aelodau’r rhwydwaith. Cyfarfu’r grŵp am noson allan ychydig wythnosau’n ddiweddarach ar gyfer ein noson coctels Calon (yr unig un yn anffodus!). Rydym yn gobeithio cynnal y rhain yn fwy rheolaidd ledled Cymru lle bo’n bosibl, ond rydym wedi sylwi bod sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac anawsterau o ran lleoliad yn gwneud digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd yn anodd i’w trefnu.

e-gar a oedd wedi’i addurno’n barhaol â baneri balchder LGBT a thraws

Delwedd o ochr e-gar a oedd wedi’i addurno’n barhaol â baneri balchder LGBT a thraws

Staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru


Gweler ein dadansoddiad cydraddoldeb o #TîmCNC

Gweler ein cynllun gweithredu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwhysiant 2019-2020

Diweddarwyd ddiwethaf