A oes gan safle ganiatâd, trwydded neu esemptiad (Cofrestr Gyhoeddus)
Rydym yn ymwybodol fod problem yn effeithio ar rai defnyddwyr wrth iddynt dalu am eu cofrestriad cludwyr gwastraff.
Os ydych yn cael unrhyw broblemau rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster a achosir ac yn gweithio i ddatrys y broblem.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi trwyddedau ac eithriadau i ddiwydiant, busnesau ac unigolion gynnal rhai gweithgareddau a allai lygru neu niweidio’r amgylchedd.
Cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff
Os byddwch yn trefnu i wastraff gael ei gasglu o'ch busnes neu'ch cartref, dylech sicrhau bod y busnes sy'n ei gasglu wedi'i gofrestru. Nid oes angen i chi gael prawf wedi'i argraffu o gofrestriad cludwr.
Mae cofrestriad gyda'r rheoleiddwyr yng Nghymru (CNC), Lloegr (Asiantaeth yr Amgylchedd), neu'r Alban (SEPA) yn ddilys yn unrhyw un o'r tair gwlad hyn. Holwch eich cludwr i weld lle maen nhw wedi'u cofrestru.
Chwilio'r cofrestr cyhoeddus cludwyr, broceriaid a delwyr gwastraff.
Cofrestr gyhoeddus ar-lein
Chwiliwch am ddogfennau cais a dogfennau cydymffurfio ar gyfer trwyddedau amgylcheddol gwastraff, ansawdd dŵr a diwydiannau rheoleiddiedig; trwyddedau adnoddau dŵr; a thrwyddedau morol, a lawrlwythwch y dogfennau hyn.
Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho meddalwedd i weld rhai dogfennau ar ein system ar-lein - er enghraifft, os nad yw'ch system e-bost yn gydnaws ag Outlook. Os nad ydych chi am wneud hyn, neu os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol neu fwy hygyrch, cysylltwch â ni.
I weld dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus, ewch i'r gofrestr gyhoeddus ar-lein nawr.
Nid yw rhai o’r dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus sy'n hŷn na 1 Medi 2018 ar gael ar y porth ar hyn o bryd. Rydym ni’n gweithio i ddatrys hynny. Yn y cyfamser, defnyddiwch ein proses gofyn am wybodaeth am drwyddedau i weld copïau o’r dogfennau hyn.
I gael gwybodaeth am drwyddedau gwastraff yn unig, gallwch hefyd edrych ar ein map gwastraff trwyddedig.
Trwyddedau gwastraff, ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a gweithfeydd
Gweld y gofrestr gyhoeddus ar gyfer Gwastraff, Ansawdd Dŵr, Adnoddau Dwr a Gweithfeydd
Eithriadau gwastraff ac ansawdd dŵr
Gweld y gofrestr gyhoeddus ar gyfer eithriadau gwastraff ac ansawdd dŵr.
Cofrestriadau cynhyrchydd gwastraff peryglus
Gweld y gofrestr gyhoeddus Cynhyrchydd Gwastraff Peryglus.
Delwyr metel sgrap
Gweler y daenlen am gofrestr gyhoeddus CNC o ddelwyr metel sgrap yng Nghymru.
Cyfleusterau triniaeth awdurdodedig ar gyfer cerbydau ar ddiwedd eu hoes
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) cyfleuster trin awdurdodedig cymeradwy (AATF) ac allforwyr cymeradwy (AE)
Cofrestr gyhoeddus esemptiadau gwastraff: atgyweirio neu adnewyddu cyfarpar trydanol gwastraff (T11)
Gwiriwch y gofrestr gyhoeddus esemptiadau gwastraff: T11
Coed, coetiroedd a choedwigaeth
Ceisiadau ar gyfer cwympo coed
Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA)
Gweld yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer y gofrestr coedwigaeth
Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd (FRP)
Darganfyddwch fanylion ynglŷn â sut yr ydym yn cymeradwyo cwympo coed ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru drwy Gynlluniau Adnoddau Coedwigoedd (FRP). Mae hyn yn caniatáu inni ddangos lefel reoleiddio gyfwerth ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru.
Gweld cofrestr Cynllun Adnoddau Coedwigoedd
Cynllun cyhoeddi trwyddedau
Nod Cynllun Cyhoeddi Trwyddedau CNC yw rhoi gwybodaeth am geisiadau am drwyddedau a phenderfyniadau. Mae’r ddogfen isod yn cynnwys manylion am yr hyn sydd ar gael ar gyfer yr holl gyfundrefnau trwyddedu y mae CNC yn gyfrifol amdanynt.