2022 Dyddiadau cyfarfodydd y Bwydd
Diweddariad Coronafeirws
Mae sesiynau cyhoeddus y Bwrdd yn parhau i gael eu cynnal dros Microsoft Teams. Cliciwch ar y dyddiadau perthnasol isod am ragor o fanylion ynglŷn ag arsylwi sesiynau cyhoeddus.
Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa.
Dyddiadau cyfarfodydd y Bwrdd – 2022
Cynhelir nifer o gyfarfodydd y Bwrdd yn gyhoeddus. Ar gyfer y cyfarfodydd hyn rydym yn cyhoeddi agenda ynghyd â’r papurau a gaiff eu hystyried yn y cyfarfodydd. Caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan yma wythnos o flaen y cyfarfod. Rydym hefyd yn cyhoeddi’r cofnodion ar ôl iddynt gael eu cadarnhau yn y cyfarfod dilynol.
Mae croeso i’r cyhoedd a’n rhanddeiliaid arsylwi’r cyfarfodydd hyn. Os hoffech fynychu cyfarfod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd.
Croesewir defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein cyfarfodydd. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ym mhob cyfarfod cyhoeddus agored.
- Dydd Iau 27 a dydd Gwener 28 Ionawr 2022
- Dydd Mercher 23 a dydd Iau 24 Mawrth 2022
- Dydd Mercher 25 a dydd Iau 26 Mai 2022
- Dydd Mercher 13 a dydd Iau 14 Gorffennaf 2022
- Dydd Mercher 21 a dydd Iau 22 Medi 2022
- Dydd Mercher 16 a dydd Iau 17 Tachwedd 2022
Gall y manylion hyn newid.