Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2023
Dyddiad yr adolygiad nesaf: Medi  2024

Diben 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn Bwyllgor a sefydlwyd i roi cyngor a sicrwydd amserol i’r Bwrdd mewn perthynas â’i gylch gorchwyl, ac i wneud penderfyniadau penodol ac ymgymryd â swyddogaethau penodol fel a ddirprwywyd iddo gan y Bwrdd.

Cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid felly, yn bennaf, yw cynghori'r Bwrdd a chefnogi'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu ar gyllid, rheoli cyllideb, cynllunio busnes corfforaethol a blynyddol a’r fframwaith rheoli perfformiad.

Cwmpas

Mae’r Bwrdd yn awdurdodi’r Pwyllgor Cyllid ac yn gofyn iddo ddarparu cyngor, trosolwg a gwaith craffu ar strategaeth, rheolaeth a pherfformiad mewn perthynas â chyllid, cynllunio a pherfformiad busnes, cynlluniau codi tâl a materion masnachol (gan gynnwys gwerthu pren a gweithgaredd marchnata), cydymffurfiaeth, swyddfa rheoli rhaglenni a swyddfa rheoli contractau. Wrth gyflawni ei rôl, bydd y Pwyllgor Cyllid yn canolbwyntio ar gyfeiriad a datblygiad strategol, ac ar graffu ar berfformiad a darpariaeth.

Bydd angen i'r Pwyllgor Cyllid sicrhau wrth gyflawni ei rôl nad yw'n dyblygu rôl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg. Rôl y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yw cynghori'r Bwrdd ar risg, stiwardiaeth ac atebolrwydd ariannol, rheolaeth a llywodraethu. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg hefyd yn parhau i graffu ar welliannau a wneir mewn ymateb i adolygiadau a wneir gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol.

Mae gan y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg rolau ategol. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych ymlaen, gan wneud penderfyniadau o fewn eu cylch gorchwyl a rhoi cyngor i'r Bwrdd ar faterion ariannol a pherfformiad yn ôl y gofyn. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn craffu ac yn rhoi sicrwydd yn ôl y gofyn. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn arwain y gwaith o adolygu cynnydd ar weithgareddau masnachol, gwerthiant a marchnata (gan gynnwys pren), tra bydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yn darparu'r trosolwg. 

Cyfrifoldebau

Dyma gyfrifoldebau’r Pwyllgor Cyllid:

Rheoli Perfformiad:

  • darparu arweiniad, cyngor a her wrth ddatblygu fframwaith rheoli perfformiad CNC a’r cynllun busnes blynyddol, gan gefnogi metrigau perfformiad gweithredol a rheoli gwybodaeth i sicrhau aliniad â’r amcanion llesiant a’r weledigaeth tymor hir (hyd at 2050);

Rheoli Cyllid

  • Darparu arweiniad, cyngor a her i sicrhau datblygiad strategaethau, adroddiadau rheoli a chynlluniau ariannol priodol;
    • Craffu ar y Gyllideb flynyddol cyn ei chyflwyno i’r Bwrdd cyfan er mwyn ei chymeradwyo, gan herio tybiaethau sylfaenol a chynghori’r Bwrdd ar sut i’w mabwysiadu; a chymeradwyo unrhyw adolygiadau yn ystod y flwyddyn i’r gyllideb agoriadol;
    • Darparu trosolwg a gwaith craffu manwl ar berfformiad ariannol CNC drwy ddatganiadau ariannol rheoli misol a chwarterol i sicrhau bod arian yn cael ei ddefnyddio’n briodol ac yn effeithiol; rhoi sicrwydd manwl i’r Bwrdd ynghylch lefelau perfformiad;
    • Monitro sefyllfa ariannol a rhagolygon / cynaliadwyedd y sefydliad i’r dyfodol i sicrhau ei fod yn gallu parhau i gyflawni ei ymrwymiadau a’i amcanion strategol;
    • Hyrwyddo pwysigrwydd gwerth am arian, sicrhau bod dulliau rheoli ariannol addas yn weithredol a monitro perfformiad;
    • Adolygu a chraffu ar yr adroddiad perfformiad sydd wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon;
    • Darparu goruchwyliaeth a chyngor mewn perthynas ag ariannu aelodaeth CNC o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
    • Gan ddefnyddio awdurdod penodol a ddirprwywyd iddo gan y Bwrdd, gwneud unrhyw gymeradwyaethau ariannol anghyfyngedig fel sy’n cael ei nodi yn Rheoli ein Harian (MoM), cynllun dirprwyo ariannol CNC, gan uwchgyfeirio neu drosglwyddo cymeradwyaethau i’r Bwrdd fel y mae’n barnu’n briodol;

Caffael, contractau a chytundebau

  • Darparu goruchwyliaeth a chraffu ar gaffael, rheoli contractau, grantiau, cytundebau rheoli tir a chytundebau partneriaeth eraill fel y bo’n briodol;
    • Darparu goruchwyliaeth a chraffu o ran sicrwydd Rhaglen a Phrosiect drwy’r Swyddfa Rheoli Rhaglenni;

TGCh a Thrawsnewid busnes

  • Darparu goruchwyliaeth a chraffu ar drawsnewid busnes a thrawsnewid rhaglenni TGCh, a derbyn ac ystyried adroddiadau rheolaidd ar gynllun gwaith strategol TGCh a safle buddsoddi cysylltiedig;
  • Rhaglen Codi Tâl Strategol
    • Darparu cyngor ac arweiniad i’r rhaglen codi tâl strategol mewn perthynas â newidiadau mewn cynlluniau codi tâl cyfredol a datblygu cynlluniau newydd;
  • Gweithrediadau masnachol cynaliadwy
    • Darparu arweiniad, cyngor a her wrth ddatblygu strategiau a chynlluniau masnachol;
    • Goruchwylio a chraffu ar y gwaith o gyflawni cynlluniau masnachol a pherfformiad;
    • Craffu a herio risgiau a materion allweddol ar gyfer gwerthu a marchnata pren ac ymgorffori llywodraethu a gwelliannau proses yn y meysydd hyn; 

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn amcanu i gwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, yn nodweddiadol i gynorthwyo â’r gylched raglennu a chyllidebol.

Gallai cyfarfodydd ychwanegol gael eu galw yn ôl yr angen, yn arbennig i gefnogi’r gofynion i graffu ar berfformiad ariannol cyn cyfarfodydd Bwrdd dilynol.

Aelodaeth

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid fydd Helen Pittaway.

Bydd aelodaeth yn cynnwys pedwar aelod Bwrdd anweithredol (yn cynnwys y Cadeirydd).

Fel arfer, bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol a’r Swyddog Cyfrifyddu/Prif Weithredwr yn mynychu’r cyfarfodydd.

Diweddarwyd ddiwethaf