Mesur ein perfformiad

Fel sefydliad cyflawni, mae angen inni allu dangos pa mor dda rydym ni wedi gwneud, yn unigol ac ar y cyd â’n partneriaid, ac a yw pobl a chymunedau ar eu hennill o ganlyniad.

Mae ein sgyrsiau gyda rhanddeiliaid a staff wedi dangos yn glir inni beth mae’n cwsmeriaid am inni ei wneud, a beth mae llwyddiant yn ei olygu, ac ein galluogi i ddatblygu set o ddangosyddion i ddangos ein cyfraniad ni at y canlyniadau yr ydym yn eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun corfforaethol yn cynnwys y dangosyddion lefel uchel hyn.

Cynlluniau busnes a chorfforaethol

O’n cynllun busnes, mae gennym set o fesurau perfformiad sy’n adlewyrchu ein perfformiad - faint rydym ni wedi’i wneud, pa mor dda rydym ni wedi’i wneud, a beth yw’r canlyniadau.

Gyda’i gilydd mae’r cynllun corfforaethol, gyda’i ddangosyddion, a’r cynllun busnes, gyda mesurau perfformiad, yn darparu adroddiad perfformiad i fonitro ein gwaith a’i effaith.

Adrodd ar ein darpariaeth

Byddwn yn agored wrth roi gwybod sut yr ydym wedi cyflawni yn erbyn ein cynllun corfforaethol a’r cynllun busnes. Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau yn ein hadroddiad blynyddol a bydd ein Bwrdd yn craffu’n gyhoeddus ar ein perfformiad o leiaf dair gwaith y flwyddyn.

Dewch o hyd i'n hadroddiadau perfformiad a'n dangosfyrddau yn ein papurau cyfarfodydd Bwrdd

Gydag unrhyw sylwadau neu ymholiadau pellach, neu i gael copi o’r ddogfen hon mewn fformat amgen, cysylltwch â corporate.planning@naturalresourceswales.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf