Lleoliad Gwaith Cyflogedig Gweithrediadau Coedwig / Rheoli Tir x 2
Dyddiad cau: 9 Ionawr 2025 |Cyflog: £25,989.00 y flwyddyn | Lleoliad: Canolbarth Cymru (Llanymddyfri) / Gogledd Orllewin Cymru (Llanrwst/Bangor)
Tîm / Cyfarwyddiaeth: Tîm Gwasanaethau Coedwig / Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau
Cyflog cychwynnol: £25,898.00
Math o gytundeb: Penodiad cyfnod penodol tan 28 Awst 2026
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Dyddiad cyfweld: Wythnos sy’n cychwyn 10 Chwefror 2025 (I'w gadarnhau)
Rhifau y swyddi: 202361, 202700
Y rôl
Cyfle Coedwigaeth gyda CNC
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn falch o allu cynnig dau leoliad cyflogedig yn dechrau ym mis Medi 2025, wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn gradd israddedig, gyda lleoliad canol blwyddyn, mewn coedwigaeth neu reoli tir.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’r timau proffesiynol sy'n rheoli Ystad Coetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Mae lleoliadau ar gael naill ai yn y canolbarth, sy’n cwmpasu Mynyddoedd Cambria a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, neu yn y gogledd-orllewin, sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri.
O weithrediadau cynaeafu a rheoli cynefinoedd i adfer henebion - dyma’ch cyfle i gael profiad ymarferol o arferion rheoli tir amrywiol yn rhai o dirweddau mwyaf eiconig Cymru.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â brwdfrydedd ac angerdd dros goedwigaeth a rheoli tir sy’n gallu dangos awydd i ddysgu a chyflawni eu gwaith wrth weithio ochr yn ochr â’n timau a chwsmeriaid a chontractwyr ehangach.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Michael Cresswell ar Michael.Cresswell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn cynnal lleoliadau cyflogedig yn y timau Gweithrediadau Coedwig a Rheoli Tir ers 2020. Drwy’r broses hon, rydym wedi gweld nifer o fyfyrwyr yn ymuno ac yn cwblhau ein rhaglen, gan ddychwelyd i gwblhau eu hastudiaethau cyn ymuno â’r sector coedwigaeth.
Rydym yn hynod falch o'n cynnig, i helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau y maen nhw eisoes wedi'u dysgu yn y brifysgol a'u cymhwyso i reolaeth ymarferol bob dydd ar ein tir. Trwy'r rôl hon, byddwch yn dod i gysylltiad â nifer o dimau a gweithrediadau, a byddwch hefyd yn cael profiadau ymarferol eich hun, a fydd yn amhrisiadwy yn y dyfodol wrth ddilyn eich gyrfa ar ôl y brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynorthwyo'r gwaith o gyflawni cynlluniau gwaith, a grëir gan y tîm, sy'n cyfrannu at y gwaith o gyflawni cynlluniau busnes.
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o fonitro arolygon a'r gwaith casglu data.
- Cadw cofnodion a gwybodaeth yn unol â rheoliadau/deddfwriaethau a safonau y cytunir arnynt.
- Cyfranogi mewn cyfarfodydd tîm.
- Cyfranogi mewn cyfarfodydd allanol ag aelodau eraill o'r tîm.
- Rhyngweithio gyda chyfoedion yn Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall a chyflawni fel tîm.
- Cyfrannu at gyfrifoldebau dirprwyedig y tîm ar gyfer cyflawni rhaglenni gwaith.
- Gwaith arall yn ôl cyfarwyddyd y rheolwr llinell.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Byddwch yn ymgymryd â gradd israddedig ar hyn o bryd naill ai mewn disgyblaeth coedwigaeth neu reoli tir gan sefydliad addysg uwch. Rhaid bod eich gradd israddedig yn cynnwys lleoliad canol blwyddyn (hanfodol).
- Dealltwriaeth dda o weithio mewn disgyblaethau rheoli coedwigoedd a thir, gan gynnwys rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Y gallu i feithrin perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr a phartneriaid.
- Sgiliau TGCh da (hanfodol).
- Trwydded yrru lawn y DU (hanfodol).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel 1 – gallu ynganu Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- gweithio ystwyth a hyblyg
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.