Dyddiad cau: 30 Mehefin 2024 |Cyflog: Hyd at £38,040 y flwyddyn | Lleoliad: Hyblyg

Tîm / Cyfarwyddiaeth: TGCh / Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyflog: Hyd at £38,040 y flwyddyn gyda’r potensial am ychwanegiad recriwtio hyd at £4,300

Math o gytundeb: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Dyddiad cyfweld: wythnos dechrau 8 Gorffennaf 2024

Y rôl

Fel Peiriannydd Cwmwl, byddwch yn cydweithio â rhanddeiliaid o’r Gwasanaethau Rhybuddio a Hysbysu am Lifogydd  i ddylunio datrysiadau cwmwl effeithlon y gellir eu datblygu ymhellach yn seiliedig ar wasanaethau Azure, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gofynion busnes CNC.  

Fel rhan o Dîm Platfform TGCh, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cefnogaeth dechnegol i holl gymwysiadau a phlatfformau cwmwl byw fewn fframwaith ITIL a model gweithredu diffiniedig y tîm cynnyrch a phlatfform, i ddarparu gwasanaeth Ystwyth rhagorol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Dyma gyfle cyffrous i unrhyw un sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i wasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl, byd natur ac amgylchedd Cymru ac nad yw’n ofni rhoi cynnig ar bethau newydd a herio’r status quo.  

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae gan ein pobl ryddid i weithio ar draws CNC a swyddfeydd partner, neu o bell, yn ôl yr angen. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jaydn Harding am Yolk Recruitment ar  Jaydn.harding@yolkrecruitment.com   

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Ni fu erioed amser pwysicach i ymuno ag CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol pobl a byd natur Cymru. Rydyn ni’n canolbwyntio ar wneud ein gwasanaethau’n well ac yn symlach i ddinasyddion, busnesau a rhanddeiliaid Cymru. 

Wedi’i sefydlu yn 2013, mabwysiadodd CNC fodel cwmwl yn gyntaf heb dechnolegau etifeddol na mudo. Wedi’n gwahanu’n is-dimau, rydym yn datblygu, yn rheoli ac yn cynorthwyo sefydliad amlranbarth Azure mawr sy’n cynorthwyo gwasanaethau cynnal bywyd i’r genedl rownd y cloc. Gyda thros 100 o we-gymwysiadau, cronfeydd data cysylltiedig a rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau, modelu amgylcheddol amser real, dulliau rhybuddio ac adrodd cyhoeddus, a chasglu data IOT o dros 650 o leoliadau anghysbell – nid yw gwaith diddorol a chyffrous byth yn bell i ffwrdd.  

Ein huchelgais yw tyfu mwy o dalent ym meysydd data, digidol a thechnoleg yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod. Er mwyn gwneud hynny, rydym yn cydweithio â phartneriaid dylunio a datblygu arbenigol i wella gallu a sgiliau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Drwy greu timau cymysg o bobl o’n timau ein hunain yn CNC a’n partneriaid cyflawni, rydym yn gweithio ar y cyd i gyflawni nodau a chanlyniadau a rennir sy’n cyflawni ar gyfer cenedl Cymru yn unol â Strategaeth Ddigidol a Chorfforaethol CNC.  

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

Yn y rôl hon, byddwch yn ymuno â thîm sydd ar flaen y gad o ran gweithrediadau, gan gefnogi'r holl ddefnyddwyr terfynol a phartneriaid yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Fel Peiriannydd Cwmwl, byddwch yn: 

  • Sicrhau iechyd ac argaeledd rhaglenni a systemau yn unol â llywodraethu TGCh.
  • Sicrhau bod digwyddiadau a cheisiadau am wasanaeth yn cael eu datrys o fewn cytundebau lefel gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
  • Dilyn cynllun gwaith y Tîm Platfform a gweithio gyda'r peirianwyr arweiniol i ddatblygu a gwella rhaglenni presennol yn unol â methodoleg datblygu TGCh.
  • Gweithio gyda Pheirianwyr Arweiniol i ddatrys problemau a gwella systemau byw.
  • Cynghori a rhoi arweiniad i Ddadansoddwyr a Phrentisiaid o fewn y tîm a thu hwnt.
  • Dilyn tasgau rhagweithiol ac amserlenni cynnal a chadw a gweithredu diweddariadau rheolaidd i wasanaethau.
  • Gweithio gyda phartneriaid strategol allanol i sicrhau bod problemau o ran cymwysiadau yn cael eu datrys o fewn cytundebau lefel gwasanaeth.
  • Rhyddhau gwelliannau i raglenni a gwasanaethau yn unol â llywodraethu TGCh.
  • Cynorthwyo i gydlynu Profion Derbyn Defnyddwyr ar gymwysiadau a gwasanaethau CNC.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

  1. Rhaglenni gofynnol: Azure Cloud
  2. Rhaglenni a ffefrir: Azure DevOps Pipelines (YAML), Azure Bicep,
  3. Rhaglenni dymunol: Azure Networking, Cronfa Ddata SQL, Cynwysyddion ac amgylcheddau apiau cynnwys (neu Kubernetes), Waliau Gwarchod Apiau Gwe
  4. Profiad o reoli a chefnogi gwasanaethau trydydd parti a ddarperir trwy API
  5. Profiad o weithio mewn amgylchedd Ystwyth (SCRUM).
  6. Profiad o gefnogi a chynnal platfformau a/neu raglenni’n unol â chytundeb lefel gwasanaeth
  7. Gwybodaeth am Reoli Gwasanaeth ITIL — yn benodol sgiliau Rheoli Digwyddiadau a Phroblemau a Rheoli Prosiectau i ddiffinio, cynllunio a rheoli ffrydiau gwaith o fewn eich cylch gwaith.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: Lefel 1 – gallu ynganu Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manteision gweithio i ni

  • Ynghyd â’ch cyflog o hyd at £38,040, bydd CNC yn cyfrannu 28.97% ychwanegol, sy’n cyfateb i ryw £11,020 y flwyddyn tuag at eich aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Darganfyddwch pa fanteision y mae Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu.
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
  • Mynediad at ddysgu a datblygu 
  • Amgylchedd gwaith sy’n cefnogi ystod o opsiynau gweithio hyblyg i wella’ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith 
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Diwylliant gwaith sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd cyfleoedd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd.   Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.  

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.  Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Gwnewch gais am y rôl hon

Mae ceisiadau am y rôl hon yn cael eu rheoli gan Yolk Recruitment. Gwnewch gais yma Cloud Engineer with ref. BBBH35977 · Yolk Recruitment

Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd.


Diweddarwyd ddiwethaf