Gwirfoddolwr CNC - Gŵyr - Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gŵyr ac Ystâd Goetir Cymru

Mae hwn yn lleoliad gwirfoddol a gynigir fel cyfle i fagu sgiliau a rhannu profiad ac arbenigedd fel rhan o dîm Cyfoeth Naturiol Cymru i'n helpu i gynnal a chyfoethogi amgylchedd naturiol gwerthfawr Cymru.

Teitl y lleoliad:

Gwirfoddolwr CNC - Gŵyr

Math o leoliad:

Lleoliad Gwirfoddolwr CNC

Cyfarwyddiaeth:

Gweithrediadau Gogledd a De

Tîm: 

Rheoli Tir y De Orllewin 2

Lleoliad:

Gŵyr

Rhif y lleoliad:

NRW19.20-007

Rheolwr y Lleoliad:

Edward Tucker
Cymorth Technegol Rheoli Tir
E-bost: edward.tucker@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ffôn: 07870548834

Dyddiad dechrau:

Gorffennaf 2024

Dyddiad gorffen:

Mehefin 2025

Patrwm gwaith:

Dydd Iau olaf bob mis

Lleoliad:

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gŵyr ac Ystâd Goetir Cymru

Y Gymraeg:

Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Saesneg

Diben y lleoliad:

Helpu i ymgysylltu pobl gyda’r gwaith o Reoli’r Warchodfa Natur Genedlaethol, Iechyd a llesiant, ac ymgysylltiad cymunedol

Tasgau allweddol y lleoliad:

  • Tasgau cadwraeth ymarferol yn y Warchodfa Natur Genedlaethol e.e. casglu sbwriel, ffensio, rheoli cynefinoedd, cynnal a chadw’r safle

Cymwysterau neu wybodaeth allweddol i'r lleoliad:

Brwdfrydedd dros yr amgylchedd naturiol
Nid oes unrhyw ofynion o ran trwydded yrru

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

Cynorthwyo i reoli safleoedd y Warchodfa Natur Genedlaethol ac Ystâd Goetir Cymru yn ardal Gŵyr

Y bobl y byddwch yn gweithio gyda nhw

Gwirfoddolwyr a staff eraill CNC

Ble y byddwch yn gweithio

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich, Coetir Nicholaston, Coed y Felin a Choed y Parc

Yr wybodaeth a sgiliau y bydd eu hangen arnoch

Nid oes angen unrhyw wybodaeth na sgiliau penodol. Byddai gwerthfawrogiad o’r amgylchedd naturiol a helpu i’w gadw a’i ddiogelu at y dyfodol yn ddymunol.

Gwybodaeth arall sy'n berthnasol ar gyfer eich lleoliad

Mae’r disgrifiad hwn o’r lleoliad yn darparu amlinelliad eang o'r lleoliad a ble y saif o fewn strwythur cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni fwriedir iddo ddarparu disgrifiad manwl o'r holl dasgau a gweithgareddau.

Yn dilyn cais llwyddiannus, dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â Rhaglen Waith y Lleoliad, sy'n nodi’r gweithgareddau a thasgau penodol i'w cyflawni yn ystod y lleoliad.

Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad

Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni am gyfweliad anffurfiol.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.

Os yw'r lleoliad yn para am chwe wythnos neu fwy, bydd yn ofynnol i chi gael gwiriad sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Parhaus

I wneud cais: anfonwch eich Ffurflen Gais wedi'i chwblhau a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb i lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.  

Os hoffech ragor o fanylion: Cysylltwch â Rheolwr y Lleoliad.

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl haeddiant ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, pobl ddu ac aelodau o leiafrifoedd ethnig, a phobl ag anabledd, ac mae gennym gynllun sy'n gwarantu cynnig cyfweliad i ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dewis sylfaenol.

Rydym yn gyflogwr delfrydol am ein bod yn rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf