Lleoliad Profiad Gwaith Myfyrwyr: Peirianneg Integredig (Canolbarth Cymru)

Mae hwn yn gyfle Profiad Gwaith i Fyfyrwyr a gynigir i helpu'r myfyriwr/myfyrwyr ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.

Mae'n caniatáu i'r tîm sy’n gyfrifol am y lleoliad rannu eu gwybodaeth a chael profiad o weithio gyda phobl ifanc wrth hyrwyddo CNC a'r sector amgylcheddol ehangach.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Mehefin 2024

Teitl y lleoliad:

Peirianneg Integredig (Canolbarth Cymru)

Lleoliad:

Y Trallwng, Powys

Swyddfa/Depo:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Depo’r Trallwng
Uned 15b Stad Ddiwydiannol Fferm Hafren
Y Trallwng
Powys
SY21 7DF

Dyddiad dechrau:

15 Gorffennaf 2024

Dyddiad gorffen:

19 Gorffennaf 2024

Oriau’r lleoliad:

37 awr

Nifer y lleoliadau sydd ar gael:

2

Lefel y Lleoliad:

Israddedig

Lefel A/AS neu gyfwerth

TGAU neu gyfwerth

Pawb 15+

TGAU neu Lefel A/AS neu gyfwerth (BTEC lefel 2 neu 3)

Y Gymraeg:

Bydd y lleoliad hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Saesneg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

Byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o ffyrdd y gallwn helpu i leihau'r perygl o lifogydd. Byddwch yn treulio llawer o’r wythnos yn ennill profiad mewn meysydd fel archwilio strwythurau amddiffyn rhag llifogydd, ymchwilio i adroddiadau am rwystrau i gyrsiau dŵr a allai gynyddu’r risg o lifogydd a gweld gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar afonydd yn yr ardal. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weld y meddalwedd cyfrifiadurol a ddefnyddiwn i reoli perygl llifogydd.

Gyda phwy y byddwch chi'n gweithio

Byddwch yn gweithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr yn y timau Peirianneg Integredig a Gweithlu Integredig.

Ble byddwch chi'n gweithio

Byddwch yn treulio llawer o'ch amser allan yn y maes yn enwedig ar afonydd lleol fel yr Hafren ac Efyrnwy. Byddwch hefyd yn treulio rhan o'ch amser gyda ni yn y swyddfa.

Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad

Byddem yn annog myfyrwyr sydd â diddordeb yn yr amgylchedd a pheirianneg i wneud cais. Byddem hefyd yn annog myfyrwyr â gwahaniaethau niwrolegol fel dyspracsia, dyslecsia, awtistiaeth i wneud cais.

Gwybodaeth am yr Hysbyseb Lleoliad

Er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y lleoliad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi neu'n gofyn i chi gwrdd â ni am gyfweliad anffurfiol.

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol i chi gwblhau Cytundeb Lleoliad sy'n nodi'r cyfrifoldebau a’r disgwyliadau ar gyfer y lleoliad.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Mehefin 2024

Cyflwyno eich cais

Diolch am eich diddordeb yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Anfonwch eich Ffurflen Gais a'ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb gyflawn i Lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn y dyddiad cau, gan ddefnyddio rhif y lleoliad fel cyfeirnod

Ffurflen gais

Ffurflen monitro cydraddoldeb

I wneud cais: anfonwch eich Ffurflen Gais wedi’i chwblhau a’ch Ffurflen Monitro Cydraddoldeb i lleoliadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Am ragor o fanylion: cysylltwch â Nick Thompson (Rheolwr Lleoliadau) ar y cyfeiriad e-bost canlynol: Nicholas.Thompson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd rheolwr y lleoliad yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Gall hyn fod mewn e-bost, dros alwad ffôn neu drwy wahoddiad ar gyfer cyfweliad anffurfiol. Os byddwch yn aflwyddiannus byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi ac yn esbonio pam.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu cyfle cyfartal heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Diweddarwyd ddiwethaf