Helpu peillwyr yng Nghors Caron
Blogio o’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol!
Mae hi’n Wythnos Bioamrywiaeth Cymru yr wythnos hon, ac rydym ni hefyd yn lansio ein hymgyrch #carupeillwyr er mwyn annog pobl i weithredu er mwyn helpu i gynyddu niferoedd peillwyr, ac i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’u pwysigrwydd i’n bodolaeth ni ac i hybu enghreifftiau da o’r hyn yr ydym ni ac eraill yn eu gwneud i’w helpu.
Yng Nghors Caron fel mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol eraill, rydym ni’n rheoli’r safle mewn dull sy’n gwarchod ystod o rywogaethau a chynefinoedd arbennig, megis corsydd a mathau eraill o wlyptiroedd – mae’r rheoli hyn hefyd o fudd i beillwyr gwyllt.
Yn y blog hwn, mae Andy Polkey ac Iestyn Evans yn rhoi cip ar y gwaith cadwraethol sy’n digwydd ar y safle a sut y mae’n helpu peillwyr gwyllt, megis ieir bach yr haf, y gacynen bŵm a phryfed hofran.
Gwarchodfa natur fawr iawn sy’n ardal o wlyptir yw Cors Caron, ger Tregaron. Rydym ni’n defnyddio arferion rheoli tir traddodiadol, sensitif, i helpu gofalu am y clytwaith o gynefinoedd, planhigion ac anifeiliaid, sy’n ei gwneud yn safle mor arbennig ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r hyn yr ydym ni’n ei wneud yma hefyd o fudd i beillwyr.
Defnyddir anifeiliaid fel gwartheg a cheffylau ar sawl un o’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol fel rhan o waith rheoli’r safle. Maen nhw’n ein helpu i reoli’r safle drwy bori ardaloedd penodol o laswelltir sy’n golygu bod lle gan y rhywogaethau o blanhigion a warchodir ar y safle’n cael lle i dyfu a ffynnu o ganlyniad.
Help gan ein cyfeillion pedair coes
Dim ond drwy bori ychydig iawn, neu hyd yn oed ddim o gwbl, yn yr haf gan wartheg neu geffylau y rheolir y tair cyforgors y mae Cors Caron yn enwog amdani. Mae hyn yn golygu fod modd i lwyni bach fel llugaeron, rhosmari’r gors, grug y mêl a llus, ynghyd â phlanhigion eraill, flodeuo a hadu.
Cyn i ni ddechrau, roedd ymylon y corsydd wedi’u hesgeuluso ac roedd un planhigyn yn tra-arglwyddiaethu sef crawcwellt, a oedd yn brin iawn o fioamrywiaeth.
Drwy adfer pori ysgafn yn yr haf gan ferlod mynydd Cymreig a gwartheg gwydn, rydym wedi trawsnewid yr hen ardal ungnwd crawcwellt oedd yn brin iawn o flodau, er mwyn creu ardal sy’n llawn o blanhigion amrywiol gan gynnwys tegeirian brith y rhos, cribell goch, llysiau’r llaeth, clafrllys gwreidd-dan a’r feillionen hopysaidd fwyaf.
Mae gorlifdir afon Teifi’n cael ei bori yn ystod y gwanwyn, yr haf a’r hydref gan dda byw tenantiaid amaethyddol – gwartheg a cheffylau’n bennaf – sy’n tueddu i beidio â bwyta blodau. Maen nhw hefyd yn creu amrywiaeth strwythurol drwy sathru a chipio – mae hyn yn caniatáu i gymysgedd o blanhigion ddatblygu ac mae’n cefnogi ystod eang o beillwyr.
Am fod afon Teifi’n gorlifo’n rheolaidd bob gaeaf, caiff y ceffylau a’r gwartheg eu symud fel arfer yn yr hydref, sy’n rhoi cyfnod o adfer i’r porfeydd. Mae rhai ardaloedd isel o’r gors yn arbennig o wlyb, a dim ond ar dywydd sychaf yr haf y cânt eu pori. Mae’r ardaloedd hyn yn dapestri cyfoethog o flodau lliwgar bob haf, gan gynnwys erwain, blodau’r brain, gold y gors, gellysg a phumbys y gors. Dydyn ni na’n tenantiaid ddim yn defnyddio gwrteithiau, mae’r corsydd yn naturiol hesb, ond caiff y gorlifdir ei wrteithio’n naturiol gan y llifogydd sy’n dod drosto yn y gaeaf. Mae cynefinoedd gwlyptir fel corsydd yn amddiffynfa lifogydd naturiol, gan weithredu fel sbwng enfawr, sy’n gallu helpu i leihau perygl llifogydd mewn cymunedau lleol.
Ystod eang o neithdar i ddenu peillwyr
Oherwydd y mathau gwahanol o briddoedd a gwlybaniaeth, ceir ystod enfawr o gymunedau o blanhigion, sy’n cynnig amrywiaeth eang o ffynonellau neithdar drwy gydol y gwanwyn, yr haf a’r hydref. Mae’r rhain yn cefnogi amrywiaeth enfawr o drychfilod gwahanol ar draws tair milltir sgwâr Cors Caron, a bydd Llwybr yr Hen Reilffordd yn fyw gan si pryfed yn bwydo drwy gydol y gwanwyn a’r haf. Byddwn ni’n osgoi defnyddio plaladdwyr a chwynladdwyr am y byddai’r rhain yn lleihau’r amrywiaeth cynefinoedd a’r peillwyr gwyllt sy’n gysylltiedig â nhw.
Mae ardaloedd o brysgwydd a glaswelltir sych ar hyd prif lwybr ein hymwelwyr, hen reilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin, yn darparu ffynonellau pwysig o neithdar pan fyddant yn eu blodau, yn enwedig ar dywydd gwyntog pan fydd peillwyr yn llai tebygol o hedfan ar draws ardaloedd agored. Mae ardaloedd o brysgwydd helyg, er ei fod yn cael ei beillio â’r gwynt, yn darparu ffynhonnell o fwyd paill cynnar ar gyfer y gacynen bwm a gwenyn eraill.
Mae’r coed prysgwydd a’r perthi a’r llwyni, yn enwedig rhywogaethau sy’n blodeuo’n gynnar fel y ddraenen ddu, yr helygen, y ddraenen wen a’r ysgawen, yn darparu adnodd blagur enfawr ar gyfer peillwyr. Cânt eu torri’n ofalus mewn cylch er mwyn sicrhau bod tyfiant blagur o ryw fath ar gael.
Mae’r glaswelltir sych garw ar hyn ymylon llwybr y rheilffordd yn darparu digonedd o gynefin bridio ar gyfer y gacynen bwm a gwenyn eraill sy’n hoffi nythu mewn hen dyllau llygod a chnofilod. Ac yntau’n encil sych mewn tirwedd sydd fel arall yn wlyb, mae arglawdd ac ymylon yr hen reilffordd hefyd yn darparu cartrefi diogel dros y gaeaf ar gyfer pob math o fywyd gwyllt, gan gynnwys sawl peilliwr gwyllt.
Yn ogystal, mae’r ddau faes parcio sydd gennym yn darparu digonedd o gyfleoedd bwydo ar gyfer peillwyr. Er bod rhyw gymaint o ladd gwair yn digwydd yma, byddwn ni’n gadael rhai ymylon heb eu torri er mwyn lleihau effaith hyn. Rydym hefyd wedi plannu rhai coed a llwyni sy’n blodeuo, gan gynnwys rhywogaethau afalau traddodiadol Cymreig, yn ogystal â rheoli rhai ardaloedd fel dôl wair, er mwyn cynyddu’r budd i’r eithaf ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol hefyd yn gweithredu fel safleoedd pwysig ar gyfer dangos arfer da mewn technegau rheoli tir, sy’n gynhyrchiol ac yn llesol i fywyd gwyllt, gan gynnwys peillwyr gwyllt, ar yr un pryd.
Gellir gweithredu sawl un o’r egwyddorion y byddwn ni’n eu defnyddio wrth reoli ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ni ar raddfeydd llai ac mewn cyd-destun gwahanol ar ffermydd, mewn gerddi, ar ymylon ffyrdd. Gall pawb wneud ei ran!
Gallwch ddysgu mwy am ein peillwyr ar ein tudalen Caru Peillwyr, gan gynnwys sut i ddenu eich teulu i gymryd rhan yn ein hymgyrch Paparazzi Peillwyr.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ymweld â Chors Caron.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau ein blog; mis nesaf bydd yn dod oddi wrth ein cydweithwyr o Warchodfa Natur Genedlaethol Oxwich.