Dathlu Diwrnod Twyni Tywod y Byd
Ar 25 Mehefin bydd yr haul yn codi ar ail Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd, lle bydd cadwraethwyr ledled y byd yn manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd diogelu a gwella'r cynefinoedd arfordirol hanfodol hyn.
Sefydlwyd Diwrnod Twyni Tywod y Byd yn 2021 gan Twyni Byw a Dynamic Dunescapes, dau brosiect sydd â’r nod o ddiogelu twyni tywod a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt.
Twyni tywod yng Nghymru
Mae gan arfordir Cymru lu o safleoedd twyni tywod gan gynnwys Gronant a Thalacre, Tywyn Niwbwrch, Morfa Dyffryn, Ynys-las, Twyni Cynffig a Merthyr Mawr.
Mae twyni tywod yn fannau gwyllt ond tawel i bobl eu trysori ac yn gynefin hanfodol i fywyd gwyllt prin.
Mae twyni tywod iach yn chwarae rhan bwysig mewn diogelu'r arfordir drwy dyfu’n uwch ac yn lletach a gwarchod y cynefinoedd mewndirol rhag y môr a dinistr gwaethaf y stormydd. Maent hefyd yn diogelu rhag erydu arfordirol.
Fodd bynnag, mae twyni tywod hefyd yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys planhigion estron goresgynnol, gorsefydlogi, diffyg pori, newid yn yr hinsawdd a llygredd aer.
Beth ydym ni’n ei wneud i helpu?
Mae staff CNC yn gwneud gwaith hanfodol ledled Cymru i helpu i ddiogelu'r cynefinoedd pwysig hyn.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i roi hwb i'r twyni tywod yng Ngronant a Thalacre, sef system dwyni arfordirol Gogledd Ddwyrain Cymru a oedd ar un adeg yn rhedeg o'r Rhyl i'r Parlwr Du, gyda’r unig fwlch yn aber Gwter Prestatyn.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i reoli rhywogaethau goresgynnol fel barf-yr-hen-ŵr. Rhywogaethau goresgynnol yw un o'r pum prif ffactor wrth wraidd colli bioamrywiaeth ledled y byd ac rydym yn gweithio i gael gwared â’r rhywogaeth oresgynnol hon o dwyni tywod yr ardal i helpu i adfer bioamrywiaeth naturiol y cynefin.
Twyni Gronant a Chwningar Talacre yw'r unig safle yng Nghymru sy'n gartref i lyffant y twyni, sy’n rhywogaeth brin. Mae rhannau o'r twyni wedi'u crafu’n ddiweddar i helpu i ail-greu ardaloedd llaith sy'n cynnig y cynefin perffaith ar gyfer llyffantod y twyni, gan hefyd gynyddu rhannau o gynefin llaciau llaith y twyni, sy'n cynnwys tegeirianau a phlanhigion prin eraill.
Mae rhagor o gynefin tywod noeth hefyd wedi'i greu yn y twyni yng Ngronant a Thalacre i helpu i roi hwb i'r boblogaeth o fadfallod y tywod. Gellir gweld madfallod y tywod yn ystod misoedd yr haf yn torheulo ar ddarnau o dywod noeth, i gynhesu fel y gallant ddod yn fwy egnïol. Fodd bynnag, mae gostyngiad mewn ardaloedd o dywod noeth wedi lleihau'r ardaloedd o gynefin addas ar gyfer y rhywogaeth brin hon.
Draw yn Ynys-las, mae staff CNC yn gweithio’n agos â ffermwr lleol i roi Defaid Mynydd Cymreig i bori ar y twyni dros y gaeaf. Yn sgil hyn, mae glaswelltir y twyni wedi dod yn glytwaith o liwiau ganol haf, gyda’r llaciau isel yn frith o degeirianau’r gors.
Mae staff hefyd yn gwarchod cynefin magu’r cwtiad torchog - aderyn hirgoes bychan sy’n nythu uwchben llinell y penllanw ar raean a thywod.
Mae ardal magu fawr a nifer o rai llai wedi'u creu i helpu i leihau aflonyddwch gan bobl. Mae’r ardaloedd hyn ynghyd â gwaith cyfathrebu staff y ganolfan ymwelwyr wedi cael effaith positif iawn, gyda nifer y parau sy’n magu un cyw neu fwy yn llwyddiannus yn cynyddu o un pâr yn 2018 i saith pâr yn 2021.
Ymhlith y gweithgareddau eraill a gynhaliwyd yn Ynys-las mae crafu ardaloedd bas yn y twyni i helpu’r poblogaethau o lysiau’r afu petalog prin ledled y warchodfa – mae hwn yn un o nifer o blanhigion prin, tebyg i fwsogl sydd dan fygythiad ac yn dibynnu ar dwyni tywod ar gyfer eu cynefin.
Mae staff hefyd wedi bod yn rheoli rhywogaethau estron goresgynnol sy’n gallu ymledu drwy’r twyni – un o’r rhai mwyaf trafferthus yw corchwyn Seland Newydd.
Ym mis Mai 2022, llofnododd CNC ac Ymddiriedolaeth Corfforaeth Cynffig gytundeb rheoli pum mlynedd i ddiogelu'r rhywogaethau prin niferus yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cynffig. Gellid dadlau bod GNG Cynffig yn cefnogi un o'r systemau twyni tywod pwysicaf yn y DU, gyda phoblogaeth sylweddol o degeirian y fign galchog, sy’n rhywogaeth hynod brin.
Mae CNC a’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cytuno i godi ffens da byw newydd 5km o hyd ar y warchodfa er mwyn caniatáu i 200 hectar ychwanegol o laswelltir y twyni gael ei bori'n gynaliadwy. Mae pori'n helpu i reoli glaswellt bras, rhedyn a phrysgwydd, a gall anifeiliaid sy'n pori hefyd greu darnau bach o dir moel sy'n hanfodol i'r fflora a'r ffawna arbenigol a geir ar y twyni.
Diwrnod o ddathlu
Cynhaliwyd sawl digwyddiad cyn y dathliad heddiw. Mae'r rhain wedi cynnwys teithiau tywys, sesiynau ioga yn y twyni, sgyrsiau ynglŷn â chadwraeth a digwyddiadau Bioblitz yn y twyni.
Bydd timau Twyni Byw a Dynamic Dunescapes ynghyd â staff o GNG Cynffig a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn dod ynghyd yng Nghynffig y bore yma i ddathlu'r diwrnod. Bydd teithiau cerdded am ddim i fynd ar drywydd tegeirianau, gweithgareddau celf a chrefft a sgyrsiau drwy gydol y dydd. Bydd yr holl weithgareddau y tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr ac yn cael eu cynnal rhwng 10:00 a 15:00.