Cydweithio i achub cen
Blog gan Paul Williams yn trafod un o blanhigion mwyaf prin Cymru.
Efo dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, mae pob un ohonom o fewn ychydig filltiroedd i safle arbennig ar gyfer darganfod bywyd gwyllt.
Mae’n cydweithwyr yn y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol wedi dod at ei gilydd i ysgrifennu blog gan ddod â’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf i chi o wahanol safle bob mis.
Daw blog y mis hwn gan Paul Williams, Uwch Reolwr Gwarchodfeydd yn ucheldir Meirionnydd.
Gwarchod planhigion prin, ffyslyd; clônio coed; a chwilio am hen fynachlog. Diwrnod cyffredinarall ar un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol lleiaf Cymru.
Mae cen mynachlog (Biatoridium monasteriense) yn beth bach, digon disylw. Bach iawn a dweud y gwir; mae’n rhaid cael chwydd-wydr i’w weld o, ac amynedd sant i chwilio amdano hefyd!
Mae o’n un o’r planhigion prinnaf yng Nghymru, ac wedi achosi cryn gyffro yn yr unig lle y gwyddom amdano, sef Gwarchodfa Natur Genedlaethol Allt y Benglog, ger Rhydymain ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Dwi’n dweud ‘planhigyn’, ond nid dyna ydi cen mewn gwirionedd. Mae’n ddau organeb gwahanol, sy’n cydweithio efo’u gilydd i dyfu’n gytûn.
Ffwng ydi un hanner y berthynas: mae’n cynnig amodau byw perffaith ar gyfer y partner arall, sef alga neu cyanobacteria. Rhan yr alga yn y fargen ydi cynhyrchu siwgr trwy’r broses ffotosynthesis.
Yn lle mae cen mynachlog yn tyfu?
Mae’n anodd iawn ei blesio, a dim ond coed efo math arbennig o risgl wna’r tro. Yn Allt y Benglog, dim ond ar goed llwyf llydanddail mae’n tyfu, a’r rheiny yn goed aeddfed, efo rhisgl garw, rhychog.
Rhaid i’r rhisgl hwnnw wynebu’r de, ond mae angen rhywfaint o gysgod. Rhaid hefyd i’r rhisgl gael cyfansoddiad cemegol penodol, efo pH sydd ddim yn rhy isel. O, ac mae’n rhaid i’r rhisgl fedru dal dŵr hefyd... Does dim rhyfedd mae dim ond ar dair coeden mae o’n tyfu trwy Gymru gyfan!
Mae coed llwyf Ynysoedd Prydain (a thu hwnt) wedi dioddef yn arw efo clefyd llwyfen yr Iseldiroedd, a miliynau o goed wedi marw.
Er gwaethaf hyn mae’r dair coeden yma yn Allt y Benglog wedi cadw’n iach, gan awgrymu bod ganddynt imiwnedd, neu’n medru gwrthsefyll y clefyd.
Tro mwy dramatig i’r hanes
Yn ddiweddar wrth i’r goeden hynaf o’r dair ddisgyn mewn gwynt, gadawyd tua tri chwarter o holl gen mynachlog Cymru mewn tywyllwch ar lawr, gan fygwth ei ddyfodol fel rhywogaeth yma.
Bu’n rhaid gweithredu ar frys! Torrwyd ganghennau uchaf y goeden a’i chodi’n ôl ar ei sefyll, gan dîm y gwarchodfeydd a chwmni arbenigol. Roeddwn yn dal fy ngwynt ac yn croesi bysedd nes inni fedru cadarnhau yn ddiweddarach fod rhywfaint o’r cen wedi’i achub, a diolch i’r drefn, mae’r goeden yn ffynnu hyd heddiw.
Mae sefyllfa fregus cen mynachlog, sy’n dibynnu ar iechyd tair coeden yn unig, yn golygu fod angen gwneud rhywbeth i roi dyfodol hir dymor iddo.
Gwarchod y cen i’r dyfodol
Rydym bellach yn cydweithio efo Gerddi Botaneg Treborth ym Mangor, er mwyn magu coed ifanc, o doriadau o’r llwyfenni yn Rhydymain.
Wrth dyfu o doriadau, gallwn sicrhau nid yn unig y bydd y rhisgl yn addas i’r cen, ond bod gwell gobaith i’r coed dyfu’n hen heb ddioddef afiechyd.
Hefyd, mae myfyrwraig o adran Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yn gwneud ymchwil ar rinweddau rhisgl y llwyfen wreiddiol, a'r amodau amgylcheddol -fel lefelau lleithder a goleuni - sy'n addas i gynnal cen y mynach.
Y bwriad wedyn yw plannu'r coed ifanc newydd yn y mannau mwyaf addas ar y warchodfa er mwyn sicrhau dyfodol hir i’r cen mynachlog.
Partneriaeth arall fu’n allweddol yn y stori ryfeddol hon ydi’r un rhwng byd cadwraeth a byd amaeth. Heb gymorth y rhai sy’n ffermio cyrrion y warchodfa, ni fyddai wedi bod yn bosib mynd â cherbydau a pheiriannau at y safle er mwyn achub y goeden a ddisgynnodd.
Am eu bod nhw wedi gweld gwerth mewn gwaith cadwrwaeth, mae dyfodol mwy disglair i un o rywogaethau prinnaf Cymru.
Yr enw?
Mae’n debyg bod y disgrifiadau cyntaf o’r cen arbennig yma wedi dod o safle mynachlog ar y cyfandir, felly rhoddwyd yr enw monasteriense arno.
Yr hyn sy’n ddifyr heddiw, er yn gyd-ddigwyddiad llwyr- yw bod rhaeadr ar Afon Eiddon sy’n llifo trwy Warchodfa Allt y Benglog o’r enw Pistyll Hen Fynachlog, er nad oes golwg o’r fynachlog hwnnw bellach, ac enw’r tŷ agosaf at y coed llwyf ydi Hendre Ffridd y Mynach.
Mae’r enw cen mynachlog yn gweddu i’r dim felly tydi! Be’ ydych chi’n feddwl?
Dilynwch Paul ar Twitter a facebook!
Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith yn gwarchod y cyfoeth o fywyd gwyllt amrywiol a gwerthfawr yng Nghymru, trwy ddilyn Paul ar Twitter @WardenCadair neu ddilyn ‘Canolfan Ymwelwyr Cadair Idris Visitor Centre’ ar Facebook.