COP15 - Nawr yw'r amser i weithredu dros natur
Mae trafodaethau Cynhadledd Hinsawdd COP27 y Cenhedloedd Unedig wedi dod i ben, ac mae sylw bellach yn troi at COP15 ym Montreal sy’n canolbwyntio ar natur, lle mae arweinwyr y byd yn ymgynnull i drafod a chytuno ar y camau brys sydd eu hangen i droi’r llanw ar golli bioamrywiaeth yn fyd-eang.
Yn ystod y degawd tyngedfennol hwn o weithredu, mae Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn tanlinellu sut mae’n rhaid i’r byd newid trywydd nawr i atal dirywiad byd natur a helpu i ddiogelu ein planed rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd er lles cenedlaethau’r dyfodol.
Natur yw gwe bywyd sy'n cysylltu ein bywydau i gyd - rhwydwaith diddiwedd lle mae pawb a phob peth byw yn dibynnu ar eraill i oroesi. Dyma’r galon sy’n cynnal pob agwedd ar ein bywyd modern – o’n hiechyd a’n lles, y bwyd rydym yn ei fwyta, i ffyniant ein cymdeithasau.
Ac eto mae curiad calon natur yn gwanhau. Mae gweithgarwch dynol yn gwthio natur tuag at gwymp, ac mae’r caneuon a’r synau sy’n gyfeiliant i’n bioamrywiaeth a’n hecosystemau yn pylu’n gyflym.
Pan fo bioamrywiaeth ar drai, nid yn unig ydym ni’n bygwth ein bywyd gwyllt, ond rydym hefyd yn bygwth ein cyflenwadau bwyd a dŵr, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi a’n hymdeimlad o le.
Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir bod cysylltiad annatod rhwng argyfwng natur ac argyfwng yr hinsawdd – mae’n rhaid mynd i'r afael â'r ddau neu fyddwn ni ddim yn mynd i'r afael â'r naill na'r llall.
Mae planed iach a diogel i ni a chenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar natur ac ecosystemau sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau hinsawdd sy’n newid. Nawr yw'r amser i newid trywydd, i atal y difrod a dechrau'r broses atgyweirio i sicrhau y gallwn addasu i'r ergydion enbyd sydd o'n blaenau.
Heriau natur a’r hinsawdd
Dyma’r her y mae angen i arweinwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ym mhob rhan o’r byd roi sylw iddi wrth iddynt ymgynnull ar gyfer Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) y mis hwn.
Dyma lle mae'n rhaid cytuno ar yr atebion i'r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang. Mae’r fframwaith ar gyfer hynny eisoes yn bodoli: y Confensiwn rhyngwladol ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD), sydd wedi dwyn ymrwymiad gan ei holl lofnodwyr i ddiogelu ein hamrywiaeth naturiol, a’i gwella lle bynnag y bo modd. Mae dros 90 o Benaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau o bob rhan o’r byd hefyd wedi cymeradwyo Addewid yr Arweinwyr dros Natur, sy’n cynrychioli agenda uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid sut mae dynolryw yn amddiffyn, yn gwerthfawrogi ac yn defnyddio byd natur.
Yn COP15, mae'n rhaid cytuno ar set newydd o nodau uchelgeisiol ar gyfer y degawd nesaf gyda monitro cadarn ar lawr gwlad i fesur cynnydd yn y broses o wrthdroi dirywiad byd natur. Yn syml, nid yw gohirio camau gweithredu yn opsiwn.
Dyma’r neges a oedd yn sail i’r alwad i weithredu yn y datganiad gan holl asiantaethau natur y DU fis diwethaf a oedd yn pwysleisio bod yn rhaid inni ehangu ein huchelgais i gyflawni ymrwymiad y DU i atal dirywiad rhywogaethau, mynd ymhellach ac yn gyflymach ar adferiad byd natur a gwneud llawer mwy i alinio camau gweithredu i atal a gwrthdroi colledion bioamrywiaeth, a mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Bydd y rôl gadarnhaol y mae Cymru eisoes yn ei chwarae i gyflawni’r uchelgeisiau hyn yn cael ei hamlygu yn COP15 gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, a fydd yn amlygu sut mae’r camau pendant yr ydym yn eu cymryd yma eisoes yn cyflawni gwelliannau amgylcheddol er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Troi’n Natur Bositif yng Nghymru
Diffinnir y gair adfer fel dychwelyd rhywbeth yn ôl i'w gyflwr gwreiddiol. Mae’n air sy’n ymgorffori sut rydym yn cyflawni ein gwaith ar draws cymunedau Cymru a’r lleoedd arbennig yr ydym yn eu rheoli.
O gyflawni prosiectau adfer mawndiroedd uchelgeisiol hyd at wella potensial carbon glas ein moroedd, mae dulliau naturiol, cost-effeithiol CNC yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mwyaf, ac yn dangos sut y gall adeiladu gwytnwch yn ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Ac nid dyna’r cyfan.
Dros yr haf, bu Gweinidog Hinsawdd Cymru yn arwain ‘Archwiliad Dwfn’ Bioamrywiaeth gydag arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol - gan gynnwys CNC. Roedd y ffocws ar gamau i ddiogelu a rheoli o leiaf 30% o’n tir, dŵr croyw a moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030 (30 erbyn 30).
Cyhoeddwyd yr argymhellion ym mis Hydref ac maent yn cynnwys amcanion i drawsnewid ein portffolio o safleoedd gwarchodedig fel ei fod yn well, yn fwy, ac wedi’i gysylltu’n fwy effeithiol. Maent yn cynnwys uchelgeisiau i gynyddu ôl troed ein rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, sicrhau bod penderfyniadau cynllunio ar y tir a’r môr yn ystyried bioamrywiaeth, a chefnogi’r uchelgais i gyflymu targedau adfer mawndiroedd Cymru yn gyflym.
Mae gan CNC rôl hollbwysig i’w chwarae o ran sicrhau bod argymhellion yr Archwiliad Dwfn yn cael eu rhoi ar waith ar fyrder i adfer ac adeiladu Cymru sy’n natur bositif.
Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn cynnal menter genedlaethol, Natur a Ni, i glywed beth sydd gan bobl Cymru i’w ddweud am ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru fel y gallwn nid yn unig glywed eu lleisiau, ond hefyd harneisio eu hegni i weithredu.
Drwy ein prosiectau a’n hymgyrchoedd ein hunain, ac fel y gwelir yn ein Hadroddiad Natur Bositif 2030, rydym wedi dangos y gellir adfer byd natur, ei fod yn fforddiadwy, ac y gall gwneud hynny wneud cyfraniad hollbwysig i’r ymateb i newid hinsawdd hefyd.
Fel un o ofynion Deddf yr Amgylchedd, mae CNC yn cyhoeddi adroddiad ar gyflwr ein Cyfoeth Naturiol yng Nghymru (SoNaRR). Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ansawdd ein hafonydd a’n moroedd, yr aer yr ydym yn ei anadlu, gwerth ein pridd a’n coedwigoedd a chyfoeth planhigion, anifeiliaid a thrychfilod.
Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop sy’n gwneud y gwaith cloriannu amgylcheddol hwn, ac mae’n darparu tystiolaeth bwerus i arwain ein llwybr yn y dyfodol.
Ond er bod gobaith gwirioneddol a thystiolaeth bod gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth yn bosibl, mae diflaniad rhywogaethau yn beth parhaol.
Yn ôl adroddiad Cyflwr Byd Natur 2019, mae bywyd gwyllt yng Nghymru yn parhau i ddirywio, gyda’r canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod 17% o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.
Felly, er bod ein timau arbenigol yn gweithio’n galed i gynyddu ein hymdrechion i gadw carbon dan glo mewn dyddodion mawn a chynyddu canopi gwyrdd Cymru, rydym hefyd yn adfer ac yn gwella cynefinoedd ar gyfer ein rhywogaethau brodorol, ac yn gweithio i gynyddu poblogaeth rhai o’n rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf, gan gynnwys y gylfinir, yr eog a’r siwin, yr wystrys brodorol, britheg y gors, y gardwenynen feinlais a’r wiwer goch.
Mae rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru yn ein galluogi i ddylunio a chyflawni prosiectau a all wella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd gwarchodedig gan greu rhwydweithiau ecolegol cydnerth a fydd yn caniatáu i’n cynefinoedd a’n rhywogaethau sydd yn y perygl mwyaf ffynnu.
Mae partneriaeth Natur am Byth hefyd yn helpu i warchod ein bywyd gwyllt sydd yn y perygl mwyaf. Mae’n uno naw elusen amgylcheddol gyda CNC i ddarparu rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i arbed rhywogaethau rhag difodiant ac ailgysylltu pobl â byd natur.
Cenedlaethau’r dyfodol
Tra bod y weithred o ‘adfer’ yn golygu dychwelyd rhywbeth i’w gyflwr gwreiddiol, mae hefyd yn weithred o ddychwelyd rhywbeth yn ôl i’w berchnogion.
Ar hyn o bryd, rydym i gyd yn gofalu am fyd natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, er mwyn sicrhau fod ganddynt hwythau hefyd y system gynhaliol, gydnerth y bydd ei hangen arnynt i’w meithrin, a’u hamddiffyn rhag unrhyw heriau y gallent eu hwynebu yn y dyfodol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd yn rhoi’r adnoddau inni wneud hynny, a bydd cynllun corfforaethol newydd CNC, y byddwn yn ei lansio’r flwyddyn nesaf, hefyd yn dangos sut y bydd mynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur yn rhan annatod o’r holl waith rydym yn ei wneud i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol dros weddill y degawd tyngedfennol hwn.
Efallai fod yr her yn fawr, ond dim ond ni all fynd i’r afael â hi – pob un ohonom.
Tîm Cymru
Yn union fel y rhywogaethau rhyngddibynnol sy'n rhan o'n hadnoddau naturiol, rydym ni fel bodau dynol yn dibynnu'n fawr ar ein gilydd i oroesi ac i lwyddo.
Drwy ddull Tîm Cymru sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y llywodraeth, y sector busnes a chymdeithas, mae’r mecanweithiau cyflawni rydym eisoes yn eu rhoi ar waith yn dangos ein bod yn benderfynol o oresgyn yr heriau hyn, a chreu cenedl llawn natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ond mae’n rhaid i ni hefyd alluogi eraill ar draws pob sector a sefydliad i harneisio eu gallu eu hunain ac ymgorffori meddylfryd a chamau sy’n llesol i natur i gefnogi adferiad byd natur.
Dim ond fel hyn y gallwn gyflawni'r portffolio enfawr o atebion sy'n seiliedig ar natur y mae mawr eu hangen i sicrhau cydbwysedd, i ddechrau'r broses atgyweirio ac i achub ein system cynnal bywyd.
Mae’n rhaid i COP15 fod yn foment lle mae pob gwlad a phob rhan o gymdeithas yn cofleidio eu cyfrifoldeb i gefnogi bioamrywiaeth ac amddiffyn ein planed. Rydym ni'n gwybod beth sydd angen i ni ei wneud a sut i'w wneud. Nid yw oedi yn opsiwn. Nawr yw'r amser i weithredu.