‘Top trumps’ mwsogl y gors – migwyn Cors Fochno

O bryd i'w gilydd, mae ein timau'n ysgrifennu blog am y lleoedd arbennig maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Yma, mae Justin Lyons, Rheolwr Tir yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi Ynyslas, yn siarad am figwyn (mwsoglau'r gors) a pham eu bod mor bwysig.

Mae cyforgors Cors Fochno ger Borth yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Mae'n un o'r enghreifftiau gorau o gynefin gyforgors yn unrhyw le yn y DU.

Mae cyforgorsydd yn cael eu henw oherwydd eu siâp cromennog. Maent yn ardaloedd o fawn sydd wedi cronni dros gyfnodau cyhyd â 12,000 o flynyddoedd a gallant fod mor ddwfn â 12 metr. Mae gan Gors Fochno fawn hyd at wyth metr o ddyfnder.

Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ac, oherwydd eu diddordeb a'u pwysigrwydd amgylcheddol, fe'u dynodir yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy'n golygu eu bod o bwysigrwydd Ewropeaidd.

Mae Cors Fochno yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt dros ardal fawr. Mae hyn yn cynnwys llawer o bryfed prin fel gwrid y gors a’r ‘bog bush-cricket’ a llu o adar gwlyptir a rydwyr fel gïach cyffredin a pibydd coesgoch i nifer o fathau o deloriaid ac arddangosfa liwgar drawiadol o flodau gan gynnwys pigau melyn hyfryd llafn y bladur, a blodau hyfryd siâp llusern pinc andromeda’r gors.

Pwysigrwydd mwsoglau'r gors

Os cerddwch ar wyneb sbwnglyd y gors heb ei ddifrodi, y planhigion mwyaf niferus sydd i'w gweld yw'r migwyn (sphagnum) rhyfeddol.

Maent yn enwog am eu gallu anhygoel i ddal dŵr oherwydd eu morffoleg a'u strwythur o gelloedd. Gallant ddal mwy nag wyth gwaith eu pwysau eu hunain mewn dŵr ac maent yn cynnwys bron i 95% o ddŵr.

Migwyn (mwsogl y gors) yw prif blociau adeiladu cyforgorsydd, wrth iddo ddadelfennu'n araf mae'n ffurfio mawn ac mae mawn yn storio carbon o'r atmosffer.
Mae'r mawn sydd yn cael ei greu yn storfa garbon, ac yn golygu fod mawndiroedd fel Cors Fochno yn un o'r sbyngau carbon mwyaf effeithiol ar y Ddaear.

Amrywiaeth

Mae yna lawer o wahanol rywogaethau (mathau) o figwyn. Yng Nghors Fochno mae yna 16 o rywogaethau ac maen nhw'n llu o liwiau gan gynnwys coch, brown a melyn euraidd.

Mae'n well gan bob rhywogaeth amodau ychydig yn wahanol, mae rhai'n tyfu mewn twmpathau isel, rhai twmpathau uchel a rhai mewn lawntiau. Mae un rhywogaeth o'r enw sphagnum cuspidatum yn hoffi tyfu mewn pyllau ac yn aml cyfeirir ato fel ‘cathod bach gwlyb’ gan ei fod yn debyg i ffwr gwlyb pan gaiff ei dynnu o'r dŵr.

Un o’r nodweddion mwyaf nodedig yn ardal ganolog Cors Fochno yw presenoldeb ‘lawntiau’ o figwyn euraidd (sphagnum pulchrum) prin - ond yma yn doreithiog.

Mae ei enw gwyddonol yn cyfieithu fel ‘migwyn hardd’. Y ‘lawntiau’ hyn yw’r prif gartref i planhigion prin arall yng Nghymru, y planhigyn trawiadol sy’n bwyta pryfed, y gwlithlys mawr.

Mae gwlithlys yn caethiwo eu hysglyfaeth gyda sylwedd gludiog ar blew eu dail. Mae'r sylwedd gludiog yn cynnwys ensymau sy'n treulio'r pryfyn ac yn galluogi'r planhigyn i amsugno'r maetholion sydd eu hangen sydd mor brin o'r cynefin anarferol hwn.

Effeithiau tywydd eithafol

Mae'r tywydd sych eithafol diweddar wedi rhoi straen enfawr ar gapasiti dal dŵr migwyn, gan eu troi'n lawntiau a thmpathau creisionllyd, wrth i lefel y dwr gael ei dynnu i lawr.

Felly, roedd yn syndod mawr yn ystod y sychdwr hwn gweld un o bethau prin y warchodfa, sphagnum beothuk, rhywogaeth twmpathog sydd yn byw yn uwch na lefly dwr, yn dal i edrych a theimlo'n wlyb. Roedd hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â'r holl fiwgyn eraill o'i gwmpas (gweler y llun).

Migwyn beothuk yn ystod y tywydd sych diweddar

Pe byddech chi'n chwarae ‘top trumps’ migwyn, yna byddech chi'n bendant eisiau sphagnum beothuk am ei bwerau arbennig ar gyfer dal dŵr!

Llosgi hanesyddol y gors

Yn ystod hanes 4500 mlynedd Cors Fochno, bu llawer o ddigwyddiadau sydd wedi effeithio ar ei dwf, megis cyfnodau sychach lle bydd ei dwf wedi cael ei arafu, i gyfnodau gwlypach lle bydd creu y mawn wedi cynyddu.

Bu'r newidiadau mwyaf dramatig yn ystod y 300 mlynedd diwethaf wrth i bobl ddefnyddio'r cynefin at wahanol ddibenion o drawsnewid i borfa i gloddio mawn am danwydd. Byddai pobl yn aml yn llosgi'r llystyfiant i'w helpu yn y gweithgareddau hyn.

Mae yna lawer o gyfeiriadau hanesyddol at y tanau hyn ac weithiau byddent yn mynd allan o reolaeth fel y disgrifir mewn erthygl papur newydd (The Welshman) o Fehefin 10fed, 1864. Mae'r erthygl yn ffenestr hynod ddiddorol i'r cyfnod hwnnw o hanes y gors. Dyma ychydig o bytiau o'r erthygl:

“Borth Bog Ablaze – Miles of Country on Fire”

“Where the wild beauties of nature were formerly seen at their best, nothing now remains but a black, desolate expanse of country.”

“The principal sufferers undoubtedly are the peasants living on the outskirts of the bog. Several of these had just completed their peat harvest, and the fuel, which had been stacked on the bog to dry, was completely destroyed.”

“Another young person who was the support for her aged parents, after having many a weary day in digging the peat, has had her labours rendered useless by the fire.”

The call out of the fire brigade - “The distance of 10 mile to the scene of the fire was quickly covered, being performed in an hour and five minutes.”

Adferiad migwyn

O ganol yr 20fed ganrif, dechreuodd Cors Fochno gael ei gydnabod fel cynefin prin ac arbennig trwy ymweliadau gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth gerllaw.

Fe wnaethant fynegi pryder am effeithiau niweidiol y tanau rheolaidd. Parhaodd y llosgi i'r 1970au a dangosodd astudiaeth o'r cyfnod hwnnw gan Dr. FM Slater fod disgwyl i ddau o'r migwyn mwyaf prin ddiflannu yn y dyfodol agos pe bai'r llosgi yn parhau.

Diolch byth bod dynodiad Cors Fochno fel rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi wedi helpu i leihau nifer y tanau ac ni fu unrhyw rai mawr ers 1985. Rhoddodd diffyg tanau, ynghyd ag ail-wlychu'r safle trwy brosiectau fel LIFE y cyfle gorau posibl i’r warchodfa i ffynnu, gyda’i holl fywyd gwyllt arbennig gan gynnwys y migwyn.

Yn fras bob 10 mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn monitro ffawd y migwyn prin hwn. Ar hyn o bryd rydym ar ganol monitro gyda chymorth arbenigwr migwyn.

Yr arwyddion cynnar yw bod sphagnum beothuk yn gwella'n dda gyda llawer o gytrefi newydd. Mae arwydd cynnar ar gyfer migwyn prin arall, sphagnum austinii, er nad yw'n cynyddu'n fawr, yn dal ei dir.

Ar hyn o bryd mae Cors Fochno yn cael ei adfer fel rhan o Brosiect Cyforgorysdd Cymru LIFE a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae saith safle yn cael eu hadfer fel rhan o'r prosiect ac mae pob un yn cael ei ystyried yn ACA. Dim ond saith ACA cyforgors sydd yn bodoli yng Nghymru, gan fod bron i 98% o'r cynefin wedi'i golli.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Corsydd Codi Cymreig LIFE dilynwch ni ar Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu Twitter @Welshraisedbog

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru