Gweithdrefn Dyrannu Trwyddedau newydd 2024 ar gyfer Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy i agor ar 22 Ionawr
Mae pysgotwyr cocos masnachol sy’n dymuno ymuno â rhestr i fod â chyfle i gael trwydded barhaol neu dymor byr a/neu bennu unigolyn ardystiedig ar gyfer Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu ceisiadau o 22 Ionawr ymlaen.
Caiff y rhestr ei defnyddio i flaenoriaethu ymgeiswyr mewn perthynas â’u cymhwysedd i hel cocos yn fasnachol.
I ymuno â’r rhestr, rhaid i’r rhai sy’n gwneud cais gyflwyno ystod lawn o dystiolaeth sy’n dangos eu haddasrwydd yn ogystal â dogfennu eu galluoedd masnachol.
Os bydd y dystiolaeth a gyflwynir yn bodloni’r meini prawf ac os bydd y cais yn llwyddiannus, rhoddir safle iddynt ar y rhestr a fydd yn parhau’n ddilys tan 31 Rhagfyr 2027.
I weld canllaw ar sut i wneud cais, ewch i’n gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cais am drwydded pysgodfa gocos aber Afon Dyfrdwy: beth i’w baratoi
Yma mae’r wybodaeth lawn am beth fydd ei angen fel rhan o’r cais, ac mae angen cyflwyno’r holl geisiadau erbyn 1 Mawrth 2024.
Bydd y cais yn cael ei asesu gan dîm rheoli cocos CNC.
Mae rhagor o wybodaeth am Bysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynllun rheoli Gorchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy (2008)