Rhowch Anrheg i'r blaned i helpu natur a phobl i ffynnu
Mae natur yn rhoi i ni bopeth sydd arnom ei angen i ffynnu, ond mae angen ein help ni arni. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddwn ni’n rhoi i eraill ac mae’n amser perffaith i feddwl beth allwn ni ei roi yn ôl i’r blaned.
Mae llawer o newidiadau bach y gallwn ni i gyd eu gwneud yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur sy’n bygwth ein dyfodol.
Dyma 10 bethau syml i chi roi cynnig arnynt fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’r amgylchedd.
1. Helpu bywyd gwyllt yr ardd
Gwnewch eich gardd yn lle braf i fywyd gwyllt trwy gynnig amrywiaeth o gynefinoedd i greaduriaid gysgodi, bridio a bwydo. Fe allech chi:
- roi bwyd adar mewn porthwyr glân
- gosod blychau ar gyfer adar, ystlumod a draenogod
- gwneud pwll dŵr ar gyfer brogaod a phryfed
- tyfu rhagor o goed a phlanhigion sy’n blodeuo
Gallai llawer o’r pethau hyn fod yn anrhegion Nadolig gwych sydd hefyd yn helpu’r amgylchedd.
Rhan bwysig o’n gwaith yn CNC yw cynyddu poblogaethau rhywogaethau sydd mewn perygl ac adfer cynefinoedd.
Yn gynharach ym mis Rhagfyr, rhyddhawyd 200 o lygod pengrwn y dŵr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich ym Mhenrhyn Gŵyr fel rhan o brosiect i ailgyflwyno’r mamal hwn sydd mewn perygl.
Yn ddiweddar rydym wedi adfer glaswelltir calchfaen pwysig yng ngogledd Cymru sy’n gyfoeth o rywogaethau ac yn gartref i ieir bach yr haf a phlanhigion prin:
Rydym hefyd wedi adfer cynefin mewn afon yn y Gogledd ar gyfer un o’r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru, sef misglod perlog dŵr croyw, sy’n tynnu maetholion allan o’r dŵr ac yn creu cynefin da i bysgod silio.
Dysgwch am y Rhaglen Rhwydweithiau Natur i wella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd gwarchodedig a'u gwneud yn fwy gwydn yn sgil newid yn yr hinsawdd.
2. Ailddefnyddio, adnewyddu ac ailgylchu
Gwastraffwch lai o bethau a chynilwch fwy o £ yn eich poced trwy beidio prynu gormod neu brynu llai, ailddefnyddio, adnewyddu ac ailgylchu.
Mae ailgylchu yn wych, a Chymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am wneud hynny. Ond mae ailgylchu hyd yn oed yn defnyddio ynni ac adnoddau. Mae’n well i’r amgylchedd os byddwch chi’n gwrthod prynu eitemau gyda llawer o ddeunydd pacio ac yn rhoi anrhegion ail-law. Dyma fwy o awgrymiadau Nadolig diwastraff.
Mae CNC yn ymdrechu’n galed i leihau gwastraff plastig trwy ddewis cyflenwyr a chynhyrchion sy’n defnyddio llai o blastig. Mae caffi Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant Yr Arian wedi rhoi’r gorau i werthu poteli dŵr plastig untro ac wedi gosod peiriant llefrith. Rydym hefyd ar ganol profi gwarchodwyr coed bioddiraddadwy yn ein coetiroedd yn lle’r rhai plastig.
Os ydych yn cael dodrefn neu eitemau trydanol newydd y Nadolig hwn, gwaredwch yr hen rai yn y ffordd gywir er mwyn helpu i wrthsefyll tipio anghyfreithlon ac osgoi dirwy.
Ydych chi'n gwybod sut i ailgylchu eich calendr adfent a chracers Nadolig? Dysgwch beth i'w wneud â'ch eitemau Nadolig ar wefan Cymru yn Ailgylchu
3. Tyfu coed a blodau gwyllt
Mae coed yn un ateb pwysig i’r argyfyngau hinsawdd a natur - maen nhw’n storio carbon o’r atmosffer, glanhau’r aer, cynnal bywyd gwyllt, a lleihau llifogydd.
Plannwch goeden er mwyn helpu Coedwig Genedlaethol i Gymru i dyfu er budd cenedlaethau’r dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru a Choed Cadw, y Woodland Trust yng Nghymru yn cynnig coeden i bob cartref yng Nghymru, am ddim
Os oes gennych ddiddordeb mewn creu eich coetir eich hun, gallwch ddod o hyd i gyngor a chymorth ariannol ar ein gwefan
Os nad oes gennych ardd, gallwch dyfu blodau gwyllt mewn bocs ffenestr er mwyn mwynhau blodau tlws sy’n dod â chi’n nes at natur, yn ogystal â rhoi bwyd hanfodol i wenyn a phryfed peillio eraill.
I’r sawl sy’n berchen lawnt, rhowch #NoMowMay yn nyddiadur 2023 nawr a mwynhewch flodau gwyllt yn eich gardd heb unrhyw ymdrech!
Rydym ni'n creu ystod o goetiroedd newydd amrywiol a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a sicrhau amrywiaeth o fanteision i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a chymunedau lleol.
Mae ein rheolaeth o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru yn cael ei harchwilio'n allanol yn unol â Safon Sicrhau Coetir y DU (UKWAS) bob blwyddyn.
Mae cyflawni UKWAS yn dangos ein bod yn cyrraedd safonau Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC®) a safonau rhyngwladol rheoli coedwigoedd cynaliadwy Rhaglen ar gyfer Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).
Rydym yn falch o gael gofalu am gyfran Cymru o'r coedwigoedd gwladol ardystiedig sydd wedi bodoli hwyaf yn y byd. Pan ardystiwyd y coedwigoedd gyntaf yn 2001, derbyniwyd gwobr "Rhodd i'r Ddaear" gan Gronfa Fyd-eang ar gyfer Natur.
4. Fflyshio papur – a dim ond papur!
Helpwch i leihau rhwystrau sy’n cyfrannu at lygredd afonydd trwy roi dim ond y pethau iawn i lawr y draen.
Peidiwch ag arllwys braster coginio eich cinio Nadolig i lawr y sinc yn eich cegin, a dim ond papur sy’n mynd yn y toiled - dim weips nac eitemau mislif.
Gallwch hefyd wneud yn siŵr nad ydych yn ddiarwybod yn gollwng dŵr budr i mewn i afonydd a nentydd trwy wirio’r gwaith plymio yn eich eiddo.
Ewch i wefan Connect Right i ddysgu sut i wirio eich cysylltiadau plymio dŵr arwyneb a dŵr budr: www.connectright.org.uk
Dysgwch am ein gwaith yn lleihau llygredd oherwydd camgysylltiadau
5. Cefnogi busnesau sy’n cefnogi’r hinsawdd
Gall gwneud dewisiadau gwybodus am yr hyn rydych chi’n ei brynu arbed arian i chi, cefnogi’ch cymuned a helpu’r blaned.
Er enghraifft, yn aml, dewis ffrwythau a llysiau tymhorol yn hytrach nag eitemau wedi’u mewnforio yw’r dewis rhataf; mae’n helpu pobl sy’n tyfu’n lleol ac mae’r ôl troed carbon yn llawer is.
Gall eich dewisiadau gwario gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd trwy newid i gynhyrchion a gwasanaethau sy’n defnyddio llai o ddŵr, ynni a deunyddiau crai, a lleihau eu hallyriadau carbon a’u gwastraff.
Rydym yn cynnig grantiau sy’n helpu i gefnogi amrywiaeth eang o brosiectau a sefydliadau natur-gyfeillgar ledled Cymru.
Trwy ein grantiau, ein nod yw:
- diogelu a gwella stociau o adnoddau naturiol
- gwneud ecosystemau yn wydn i newidiadau
- creu mannau iach i bobl, wedi’u hamddiffyn rhag risgiau amgylcheddol
- cyfrannu at economi gylchol
Dysgwch am ein rhaglen grantiau a chyfleoedd ariannu presennol
6. Mwynhau’r awyr agored
Mae hwn yn un hawdd! Yn syml, ewch allan i fannau naturiol a mwynhewch yr awyr agored.
Sut mae hyn yn helpu’r blaned? Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n treulio amser yng nghanol byd natur yn fwy tebygol o’i werthfawrogi a chymryd camau i’w warchod.
Mae bod allan yn heulwen y gaeaf yn dda i’ch iechyd hefyd, gan ychwanegu at eich lefel Fitamin D, atal annwyd a’ch helpu i gysgu’n dda.
Rydym yn gofalu am goetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ledled Cymru lle gallwch fwynhau rhai o’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt gorau.
Beth am losgi peth o galorïau’r Nadolig ar un o’n llwybrau – maen nhw’n agored bob dydd, ond edrychwch ar ragolygon y tywydd cyn i chi gychwyn oherwydd efallai y bydd angen i ni gau meysydd parcio mewn tywydd gwael.
Efallai y gallai archwilio #LlwybrauCymru, gan herio eich hun i daith gerdded bell ar Llwybr Arfordir Cymru neu un o dri Llwybr Cenedlaethol Cymru fod yn adduned blwyddyn newydd.
Wrth i chi fwynhau’r awyr agored, dilynwch y Cod Cefn Gwlad a pheidiwch â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad.
7. Dysgu am natur
Allwch chi ddim amddiffyn rhywbeth na wyddoch chi amdano. Cymerwch amser i ddysgu am natur a rhannwch eich gwybodaeth gyda’ch teulu fel nad yw gwybodaeth amgylcheddol yn cael ei cholli o genhedlaeth i genhedlaeth.
Helpwch blant i ddysgu am y byd o’u cwmpas, eu lle ynddo, ac adeiladu eu cysylltiad â byd natur trwy eu hannog i chwarae yn yr awyr agored.
Gallech roi cynnig ar ein syniadau ar gyfer chwarae natur a hwyl i’r teulu dros wyliau’r ysgol i gael eich teulu i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored a dysgu am fyd natur.
Dangoswch i blant sut i amddiffyn byd natur a mwynhau’r awyr agored yn gyfrifol gyda’r Cod Cefn Gwlad. Anogwch nhw i:
- fynd â’u sbwriel adref
- gadael creigiau, planhigion a choed fel y daethant o hyd iddynt
- bod yn ofalus rhag tarfu ar fywyd gwyllt
Rydym wedi creu llawer o adnoddau addysgol i helpu dysgwyr i ddeall yr argyfwng hinsawdd a sut y gallwn fyw yn fwy cynaliadwy
8. Garddio heb fawn
Trwy addo defnyddio dim ond compost di-fawn yn eich gardd, byddwch yn helpu i warchod mawndiroedd hanfodol.
Mae mawndiroedd yn storio mwy o garbon na choedwigoedd y byd ond, os caiff ei aflonyddu, mae’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr i’r atmosffer sy’n ychwanegu at yr argyfwng hinsawdd.
Mae adfer mawndiroedd i gyflwr iach yn cadw’r carbon dan glo yn ddiogel er mwyn helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Ond ceir mwy o fuddion na hynny. Mae mawndiroedd iach yn gartref pwysig i fywyd gwyllt prin, yn helpu i gadw dŵr yn lân, ac yn lliniaru risgiau llifogydd a thân.
Gall mawndiroedd fod yn fannau gwych i ymweld â nhw a gwylio bywyd gwyllt hefyd. Gallwch fwynhau un o’r cyforgorsydd mawn mwyaf a gorau sydd ar ôl ym Mhrydain yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Fochno yn Y Canolbarth
Mae ein tîm Rhaglen Weithredu Ar Fawndiroedd Cymru yn gweithio’n galed i adfer mawndiroedd y genedl. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mewn partneriaeth, rydym wedi adfer ardal o faint dinas Wrecsam, sy’n cyfateb i 2,310 o gaeau pêl-droed!
9. Trawsnewid trafnidiaeth
Mae sut rydym yn symud o le i le yn cael effaith fawr ar yr hinsawdd. Helpwch i leihau llygredd aer trwy adael eich car gartref a cherdded, mynd ar feic neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os oes modd.
Bydd yr ymarfer corff ychwanegol a gewch yn helpu i waredu effaith y mins peis hefyd - gan ei wneud yn ddewis iach i chi, y blaned, a’ch poced.
Defnyddiwch gynlluniwr taith Traveline Cymru i weld faint o garbon fyddwch chi’n ei arbed wrth deithio ar feic yn hytrach nag mewn car.
Mae’r Llwybr Arfordir Cymru yn helpu pobl i deithio at y Llwybr ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda’u canllaw newydd defnyddiol.
Er mwyn ei gwneud yn haws i’n staff yrru llai, rydym wedi ymrwymo i’r Siarter Teithio Iach ac wedi croesawu gweithio hybrid.
10. Glanhau traethau
Mwynhewch daith gerdded ar draeth yn y gaeaf a #LeaveAPositiveTrace trwy gasglu sbwriel a fyddai fel arall yn mynd i’r môr ac yn niweidio bywyd gwyllt.
Ymunwch â digwyddiad cymdeithasol glanhau traeth wedi’i drefnu gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol
Darganfyddwch sut i fwynhau’r bywyd gwyllt o amgylch yr arfordir heb achosi aflonyddwch gyda’r ap Crwydro Arfordir Cymru
Mae cadw’r môr yn iach yn bwysig wrth ymdrin â newid yn yr hinsawdd a cholli byd natur, gyda gwelyau morwellt a morfa heli yn meddu ar allu rhyfeddol i ddal a storio carbon.
Rydym yn gweithio ar sawl prosiect Carbon Glas sy’n cynyddu gallu cynefinoedd morol i storio carbon, cynyddu bioamrywiaeth a gwella ansawdd dŵr, ac rydym wedi nodi lle y dylid gwneud mwy o waith adfer.