Morloi llwyd: Sut i'w gwylio, bod yn agos atyn nhw, a stormydd hydrefol

Mae bywyd gwyllt ar arfordir Cymru yn amrywiol ac yn gyfoethog. Nid yn aml y cawn gyfle i fwynhau gwylio mamaliaid gwyllt yn eu hamgylcheddau naturiol, sy'n rhan o'r hyn sy'n ei wneud mor arbennig.

Mae hi’n dymor geni morloi llwyd ar hyn o bryd. Ond, os ydym yn ddigon ffodus i gael y cyfle i'w gweld, mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau a'r codau ymddygiad sydd wedi'u cynllunio i roi'r lle a'r heddwch sydd ei angen arnynt i dyfu.

Gwylio morloi: canllaw i arsylwi morloi a  lloi bach

"Mae morloi'n greaduriaid swil ac mae’n hawdd tarfu arnyn nhw. Os dech chi ar draws morlo, cofiwch gadw mor llonydd, mor dawel ac mor anamlwg â phosibl.

Peidiwch byth â mynd yn agos at forloi – os cânt eu tarfu, bydd y mamau'n cadw draw a bydd y rhai bach yn colli amser bwydo pwysig. Mae'r lloi hyn yn dibynnu ar eu mamau i'w bwydo am wythnosau cyntaf eu bywydau. Weithiau, gall mamau fod yn ymosodol pan aflonyddir arnyn nhw, neu gallan nhw gefnu ar y lloi yn gyfan gwbl. Ceir manylion llawn am sut i osgoi ymyrryd â morloi mewn codau ymddygiad rhanbarthol neu genedlaethol.

Mae tymor geni morloi llwyd yn ymestyn o ganol mis Awst i fis Rhagfyr, gyda’r adegau prysuraf ym mis Medi a mis Hydref ledled arfordir Cymru."

Beth sy'n digwydd ar ôl y tymor geni?

Mae morloi fwyaf cartrefol yn y môr ac fel arfer maent yn dod i'r lan ar gyfer y tymor geni a bridio yn yr hydref ac i orffwys ar greigiau neu draethau tawel.  Yn ystod y tymor geni, mae llanw mawr uchel yr hydref a stormydd hydrefol yn gallu golchi’r lloi o’r traethau neu o'r tu mewn i ogofâu. 

Yn dilyn y tymor geni, mae llawer o'r morloi ifanc newydd ynghyd â'r oedolion orwedd mewn niferoedd mawr ar draethau tawel o fis Tachwedd i ddechrau mis Mawrth. Yn ystod y cynfodau hyn o orwedd yn ystod y gaeaf, mae'r morloi hŷn yn gorffwys ac yn colli eu blew i ganiatáu i'w côt ffwr dwbl fod yn barod am deithiau hir i chwilio am fwyd yn y gwanwyn.

Mamaliaid y môr yng Nghymru

Mae amrywiaeth ryfeddol o rywogaethau yn nyfroedd Cymru. O'r 29 o wahanol rywogaethau morfilod a dolffiniaid sydd wedi’u cofnodi yn y DU, mae 18 wedi'u cofnodi yn nyfroedd Cymru ers 1990, ynghyd â dwy rywogaeth o forloi. Mae gan Gymru safleoedd gwarchodedig ar gyfer y tair rhywogaeth fwyaf cyffredin, llamhidyddion, dolffiniaid trwyn potel, a morloi llwyd. Ymhlith y rhywogaethau eraill sy'n gyffredin mae dolffiniaid Risso, morfilod pigfain a dolffiniaid cyffredin. Weithiau fe welwn ni forloi cyffredin yng Nghymru, ond mae'r rhain yn digwydd mewn niferoedd isel ac nid yw’n hysbys eu bod yn bridio yma. Ymhlith yr ymwelwyr prin neu achlysurol eraill mae orcaod, morfilod pengrwn a morfilod cefngrwm.

Rhaglen Ymchwil y DU i Forfilod wedi Tirio (CSIP)

Mae Rhaglen Ymchwil y DU i Forfilod wedi Tirio (CSIP) yn cydlynu'r gwaith o ymchwilio i bob morfil, dolffin, llamhidydd, crwban y môr a siarcod sy'n tirio o amgylch arfordir y DU. Nid yw CSIP yn cynnal post-mortemau ar forloi bob tro, ond maen nhw’n cofnodi pob adroddiad o forlo marw o amgylch arfordir Cymru.

Wrth i ni fynd i mewn i'r adeg o'r flwyddyn lle gall tywydd stormus olchi anifeiliaid ar yr arfordir, os byddwch chi'n dod ar draws unrhyw forfil, dolffin, siarc neu forlo marw, cysylltwch â'r llinell tirio ar 0800 652033 ar unwaith. Os gallwch, tynnwch luniau a chofnodi union leoliad yr anifail, a fydd yn galluogi CSIP i adnabod yr anifail, cydlynu ymateb, a helpu gyda'r rhaglen ymchwilio ehangach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y prosiect ar www.ukstrandings.org.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru