Helpu mwy o bobl i gael mynediad i’r awyr agored

Dyma Rachel Parry, ein Cynghorydd Mynediad Awyr Agored a Hamdden, i esbonio sut rydym yn gwella hygyrchedd ein llwybrau er mwyn i fwy o bobl allu mwynhau ac elwa o fod yn yr awyr agored.

Gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru

Er mwyn gwneud Llwybr Arfordir Cymru yn fwy hygyrch i bobl o bob gallu, rydym yn gweithio gyda saith awdurdod lleol ar hyd a lled Cymru i bennu rhannau o’r Llwybr ar gyfer gwelliannau.

Edrychodd ein partneriaeth gyntaf, gyda Chyngor Gwynedd, ar gyfleoedd hygyrch yng ngogledd Gwynedd. Dewiswyd pum rhan o’r llwybr i wneud gwelliannau iddynt, sy’n cynrychioli amrywiaeth o dirweddau, o lwybrau beicio amlwg hygyrch i arfordir creigiog.

Mae’r gwelliannau eisoes wedi’u cwblhau ar y rhannau rhwng Caernarfon a Threborth ger Bangor, sydd rhwng 2km a 4km o hyd ac sy’n cynnig rhywfaint o her ond sy’n rhydd o rwystrau.

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r chwe awdurdod lleol arall i bennu’r adrannau ble gellir gwneud gwelliannau.

Darparu gwybodaeth weledol

Nid mater o newid y llwybrau yn unig yw ehangu mynediad. Gall darparu gwybodaeth fanwl am fannau cyfyng posibl wella hygyrchedd llwybr trwy ganiatáu i bobl wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a yw’r llwybr yn addas ar eu cyfer.

Rydym yn treialu Phototrails ar y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sydd wedi cael gwelliannau, fel ffordd o ddangos i bobl beth i’w ddisgwyl ar y Llwybr. Mae’r Phototrails yn defnyddio mapiau, delweddau a thestun i amlygu rhannau o’r Llwybr y mae angen i ddefnyddwyr wybod amdanynt cyn cychwyn.

Mae fideo yn ffordd wych arall o ddarparu’r wybodaeth weledol hon. Mae gan ein gwefan gasgliad o fideos sy’n dangos rhywun anabl yn teithio ar hyd ein llwybrau. Yn ddiweddar rydym wedi ychwanegu fideo o Daith Coed Nercwys yng ngogledd ddwyrain Cymru at y casgliad hwnnw.

Yn ôl ymchwil gan Natural England, mae dangos amrywiaeth mewn delweddau yn allweddol i annog grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli i fynd i leoliadau awyr agored. I fynd i’r afael â hyn, rydym yn cynhyrchu delweddau mwy amrywiol ar gyfer ein cronfa o ddelweddau i’n helpu i gyfathrebu mewn ffordd fwy cynhwysol.

Hyfforddiant ac arweiniad ar fynediad cynhwysol

Er mwyn helpu staff i ganfod mwy o gyfleoedd i wneud ein lleoedd i ymwelwyr yn groesawgar i ystod amrywiol o bobl, fe wnaethom gomisiynu’r arbenigwyr anabledd Sensory Trust ac Experience Community i gynnal hyfforddiant mynediad cynhwysol.

Daeth tua 50 o staff a chydweithwyr o sefydliadau partner i’r sesiynau hyn. Cafodd y mynychwyr gipolwg ar yr amrywiaeth o rwystrau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wrth ymweld â’r awyr agored, sut gallwn wneud ein safleoedd yn fwy cynhwysol a’r hyn sydd ei angen ar wahanol gymunedau wrth ymweld. Cawsant gyfle hyd yn oed i roi cynnig ar offer addasol.

Roedd yr hyfforddiant yn ymdrin ag egwyddorion y ‘mynediad lleiaf rhwystrol’ sy’n llywio ein gwaith, fel y cyflwynir yn Trwy Bob Modd Rhesymol. Pecyn cymorth yw hwn sy’n ymdrin â chydraddoldeb mynediad i gefn gwlad a mannau agored. Cynhyrchwyd y pecyn gennym ni ar y cyd â’r Sensory Trust, ac mae’n cyd-fynd â’r Canllawiau Hygyrchedd Awyr Agored | Paths for All sy’n berthnasol i’r DU gyfan.

Lleoedd hygyrch i ymweld â nhw

Gallwch ddysgu mwy am y cyfleusterau a’r llwybrau hygyrch rydym yn eu cynnig yma:

 

Lluniau:

1. Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn
2. Ardal Caernarfon o Lwybr Arfordir Cymru (Antur Waunfawr)
3. Sesiwn hyfforddi gynhwysol yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynyslas

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru