Helpu ymwelwyr ag anableddau i benderfynu a yw llwybr yn addas iddyn nhw
Ein nod yng Nghyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod yr awyr agored yn gynhwysol ac yn hygyrch fel bod pawb yn gallu mwynhau tirweddau amrywiol Cymru.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r tîm Mynediad a Hamdden Awyr Agored wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, o gyflogi sefydliadau anabledd i gynnal asesiadau safle a llwybrau, i gynhyrchu canllawiau ar gyfer rheolwyr tir.
Yma, mae Rachel Parry o’r tîm yn sôn am brosiect diweddar i wella’r wybodaeth a ddarparwn am ein llwybrau er mwyn rhoi’r hyder i bobl ag anableddau archwilio lleoedd a llwybrau newydd.
Am gyfnod roeddwn i’n meddwl ’mod i’n gwybod beth oedd ystyr ‘hygyrch’ a beth oedd yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer galluogi hygyrchedd. Achos mae e’n ddigon syml, on’d yw e? Hygyrchedd - mae’n golygu dim mwy nag arwynebau o ansawdd da, llwybrau gwastad, dim graddiant, iawn? Ddim yn hollol, ddim bob amser.
Gall offer fel sgwteri symudedd oddi ar y ffordd a beiciau a threiciau addasedig helpu pobl i allu defnyddio llwybrau mwy heriol ac anturus, sy'n golygu bod y diffiniad o'r hyn sy'n hygyrch yn un personol ac yn rhywbeth sy’n newid yn gyson.
Cyn y pandemig, deuthum ar draws sefydliad o'r enw Experience Community sy'n ymroi i wella cyfleoedd i bobl anabl fynd allan i'r awyr agored - ac mae hynny'n golygu tynnu sylw at, hyrwyddo a darparu gwybodaeth am lwybrau â rhywfaint o raddiant, arwynebau anwastad ar adegau ynghyd â llwybrau â lefel o her.
Mae hygyrchedd yn benderfyniad unigol
Dull gweithredu Craig Grimes yn Experience Community yw gwneud ffilmiau o bobl anabl yn defnyddio offer addasedig i fynd ar daith ar hyd llwybr.
Yn ei ffilmiau, nid yw Craig mewn gwirionedd yn dweud beth sy'n hygyrch neu heb fod yn hygyrch, y cyfan a wna yw creu ffilm onest am sut brofiad yw rhywbeth fel y gall pobl wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn ag a yw hynny'n addas ar gyfer eu hanghenion unigol ai peidio. Nid yw ychwaith yn argymell pa offer y dylai rhywun ei ddefnyddio nac yn dweud beth sy'n cael ei ddefnyddio ym mhob ffilm, gan adael y penderfyniad hwn i ddewis personol ac amgylchiadau unigol. Disgrifiad nid presgripsiwn!
Wedi'r cyfan, mae pawb yn wahanol ac efallai nad yw'r hyn allai fod yn addas ac yn ddymunol i un person yn gweddu i un arall.
Yn y modd hwn gall ymwelwyr ag anableddau, a'u teulu a'u ffrindiau, gael syniad clir a yw'r llwybr a'r safle hwnnw'n hygyrch iddyn nhw. A thrwy ddarparu gwybodaeth weledol felly y daw'r llwybrau hyn, sy'n llai amlwg o ran eu hygyrchedd, yn opsiwn i fwy o bobl eu profi.
Sicrhau bod mwy o lwybrau CNC ar gael i bobl ag anableddau
Fe benderfynon ni gynnal prosiect peilot gyda Experience Community er mwyn creu ffilmiau am rai o'n llwybrau, gan ychwanegu at y wybodaeth rydym ni eisoes yn ei darparu i ymwelwyr. Drwy weithio gyda rheolwyr safleoedd lleol, fe wnaethom ni lunio rhestr fer o lwybrau nad oedden nhw’n perthyn i’r categori amlwg hygyrch, ond rhai allai gynnig rhywfaint o her i bobl ag anableddau ac agor mwy o dirwedd Cymru.
Aeth Experience Community allan i bob safle gyda’r rheolwr lleol er mwyn asesu pa lwybrau oedd yn addas i’w ffilmio, gan setlo ar gyfanswm o saith llwybr mewn pedwar o’n safleoedd (Coedwig Niwbwrch, Parc Coedwig Coed y Brenin, Coedwig Beddgelert a Pharc Coedwig Afan).
Ar ôl sawl her (yn enwedig cryn dipyn o dywydd echrydus a olygodd nad oedd modd defnyddio peth o’r hyn a ffilmiwyd, ac yna pandemig i ddilyn!) cyflwynodd Experience Community y ffilmiau gorffenedig.
Mae pob ffilm yn dangos un o'r llwybrau hirach a mwy heriol hyn y gall pobl ag offer addasedig eu defnyddio. Mae’r ffilmiau’n dangos arwynebau llwybrau, llethrau i fyny ac i lawr allt a drychiad – a phob un wedi’u disgrifio gan berson anabl wrth iddo ddilyn y llwybr.
Cafodd y ffilmiau eu cynnwys mewn adran ‘ymweliadau hygyrch’ newydd ar ein gwefan ac mae troslais ac isdeitlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer pob un, sy’n eu gwneud yn hygyrch yn ddigidol hefyd.
Mae’r adran newydd hon ar y wefan hefyd yn cynnwys manylion llawn am ein llwybrau cerdded hygyrch, sy’n llwybrau di-rwystr, addas ar gyfer cadeiriau olwyn ac sy’n addas i bawb.
Helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus
Rydym am rymuso pobl i wneud y penderfyniad ynghylch a yw llwybr yn addas iddyn nhw a’u hoffer, yn hytrach na’n bod ni’n dweud wrthyn nhw fod rhywbeth yn addas ai peidio.
Mae ein ffilmiau newydd yn galluogi ymwelwyr i weld y mathau o arwyneb, graddiant, drychiad a chyflwr llwybr y gallan nhw ddisgwyl dod ar eu traws cyn gwneud y penderfyniad i ymweld. Yna mae modd iddyn nhw weithio allan a fyddai eu hoffer yn addas iddyn nhw ar y llwybr hwnnw ac a fydd angen cymorth arnyn nhw ar rai adrannau.
Gobeithiwn y bydd y math hwn o wybodaeth weledol yn rhoi’r hyder i bobl roi cynnig ar leoedd a llwybrau newydd.
Parhau i wella mynediad i bawb
Rydym yn bwriadu creu gwybodaeth weledol ar lun ffilmiau a llwybrau lluniau mewn lleoliadau eraill, er mwyn sicrhau bod mwy o'n llwybrau ar gael i bobl ag anableddau.
Os hoffech wybod mwy am ein gwaith i wella mynediad i bawb, gallwch:
- gweld crynodeb o'n gwaith gwella mynediad i bawb
- darllen Drwy Bob Ffordd Resymol - pecyn cymorth am fynediad cyfartal i gefn gwlad a mannau agored a gynhyrchwyd gan y Sensory Trust mewn cydweithrediad â, ac ar ran, CNC
- mynd i'n hadran ymweliadau hygyrch ar ein gwefan i wylio ein fideos newydd am lwybrau ar gyfer defnyddwyr offer addasedig a chael gwybod am ein llwybrau hygyrch a'n canolfannau ymwelwyr
Os hoffech wybod mwy am waith Eperience Community, edrychwch ar wefan Experience Community i weld rhai o’r ffilmiau a grëwyd ganddyn nhw ar gyfer sefydliadau eraill fel Yorkshire Water, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Parciau Cenedlaethol.