Sut y gall busnesau atal llygredd ar safleoedd diwydiannol

Gwyddom oll pa mor bwysig yw afonydd glân i’r amgylchedd, i fywyd gwyllt ac i bobl. Ac eto, ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, mae afonydd mewn perygl o lygredd a achosir gan ollyngiadau damweiniol o ystadau diwydiannol lleol.

Mewn ymdrech i ddiogelu cyrsiau dŵr lleol, bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymweld â busnesau ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn fuan i gynnig cyngor a sicrhau bod mesurau atal llygredd ar waith.

Hwn fydd yr ymweliad diweddaraf ag ystadau diwydiannol Gogledd-ddwyrain Cymru, yn dilyn ymweliadau blaenorol ag ystadau diwydiannol Whitegate a Ty’n y Llidiart.

Mae’r nod yn syml: helpu busnesau i nodi risgiau a chymryd camau i atal sylweddau niweidiol rhag mynd i mewn i afonydd a nentydd cyfagos. Gall canlyniadau llygredd fod yn ddifrifol, gan effeithio ar fywyd gwyllt, rhywogaethau planhigion ac ansawdd dŵr – yn enwedig mewn ardaloedd mor sensitif ag afon Dyfrdwy, sy’n ddyfrffordd hanfodol i fywyd gwyllt a phobl.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae afon Dyfrdwy yn fwy na dyfrffordd hardd yn unig. Mae wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae'r dynodiadau hyn yn amlygu ei phwysigrwydd i wahanol rywogaethau a warchodir, megis eogiaid, dyfrgwn, a phlanhigion prin. Mae'r afon hefyd yn ffynhonnell bwysig o ddŵr yfed i’r rhanbarth.

Fodd bynnag, mae'r ystadau diwydiannol cyfagos wedi bod yn ffynhonnell digwyddiadau llygru dros y blynyddoedd. Mae sylweddau sy’n llygru, fel olewau a chemegion, wedi mynd i mewn i system yr afon yn ddamweiniol, yn aml trwy systemau draenio dŵr wyneb na fwriadwyd erioed i gludo'r deunyddiau niweidiol hyn.

Dyna pam mae mesurau atal llygredd mor hanfodol ar gyfer ystadau diwydiannol sydd wedi’u lleoli ger afonydd, fel Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Mae nifer o gyrsiau dŵr yn rhedeg trwy'r ystad cyn ymuno ag afon Clywedog, un o isafonydd afon Dyfrdwy, sy'n sensitif iawn i halogiad.

Yr hyn y gall busnesau ei wneud

Mae busnesau yn chwarae rhan hanfodol wrth atal llygredd. Bydd swyddogion sy'n ymweld ag Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn helpu cwmnïau lleol i asesu eu risgiau o ran llygredd a byddant yn rhoi cyngor ar fesurau lliniaru angenrheidiol iddynt. Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaethau ynghylch a oes angen cydsyniad arbennig ar fusnesau o dan reoliadau Parth Diogelu Dŵr Afon Dyfrdwy, sy’n gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer defnyddio neu storio sylweddau penodol ar safleoedd penodol.

I’ch helpu i sicrhau bod eich busnes yn gweithredu mewn modd sy’n ddiogel yn amgylcheddol, dyma restr wirio deg pwynt gyflym i’ch arwain trwy’r broses o atal llygredd: 

Draeniau’r safle:

1/ A ydych chi'n gwybod i ble mae'ch draeniau'n mynd?

  • Gwnewch yn siŵr mai dim ond dŵr glân, fel dŵr sy’n draenio o doeau, sy'n mynd i mewn i ddraeniau dŵr wyneb. Dylai dŵr halogedig, fel carthion neu elifion masnach, fynd i mewn i ddraeniau budr bob amser.

2/ A oes gennych gynllun draenio cyfredol?

  • Mae deall eich system ddraenio yn hanfodol er mwyn atal llygredd damweiniol.

Storio olewau, cemegion a deunyddiau sy’n llygru:

3/ A yw eich cynwysyddion storio yn addas i’r diben?

  • Archwiliwch a chynhaliwch gynwysyddion yn rheolaidd i atal diferiadau a gollyngiadau.

4/ A yw mannau storio i ffwrdd o gyrsiau dŵr a draeniau wyneb?

  • Cadwch ddeunyddiau peryglus ymhell o ffynonellau dŵr i leihau'r risg o halogiad.

5/ A ydych chi'n defnyddio system atal eilaidd?

  • Gall system atal eilaidd, megis byndiau, ddal diferiadau neu ollyngiadau a'u hatal rhag mynd i mewn i'r system ddraenio.

6/ A oes gennych weithdrefnau diogel ar gyfer dosbarthu a thrin deunyddiau?

  • Gall trin deunyddiau’n gywir atal damweiniau a gollyngiadau.

Rheoli gwastraff:

7/ A ydych yn rheoli eich gwastraff yn ddiogel ac yn gyfreithlon?

  • Mae rheoli gwastraff yn gywir yn allweddol i leihau llygredd.

8/ A ydych chi'n gwybod i ble mae'ch gwastraff yn mynd?

  • Dylech bob amser allu profi bod eich gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithlon.

9/ A ydych chi’n lleihau eich gwastraff a’i ailgylchu?

  • Mae cynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosibl yn lleihau effaith amgylcheddol eich busnes.

Ymateb i argyfwng:

10/ A oes gennych gynllun ar gyfer argyfwng ar waith?

  • Sicrhewch fod gennych yr offer a hyfforddiant cywir i ddelio ag argyfyngau llygru neu dân, a phrofwch eich cynllun yn rheolaidd.

Os ateboch yn nacaol i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, nawr yw'r amser i weithredu. Gallwch gael cyngor drwy ein ffonio ar 0300 065 3000 i sicrhau eich bod yn gweithredu’n ddiogel ac yn gyfrifol.

Byddwch yn wyliadwrus a gwarchodwch ein dyfrffyrdd

Cofiwch, nid yw’n ymwneud â chydymffurfio â rheoliadau yn unig – mae’n ymwneud â diogelu’r amgylchedd a sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r gymuned. P'un a ydych yn storio cemegion neu'n rheoli gwastraff, mae pob cam rydych yn ei gymryd i atal llygredd yn gwneud gwahaniaeth. Gall adolygu eich safle a'ch gweithdrefnau'n rheolaidd gyda'r rhestr wirio hon eich helpu i sylwi ar unrhyw problemau posibl cyn iddynt ddod yn broblemau mawr.

Mae ein swyddogion yma i gefnogi busnesau i atal llygredd a gwarchod yr afonydd sy’n hanfodol i Ogledd-ddwyrain Cymru.

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma:

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru