Rhowch hwb i’ch gyrfa gydag un o’n lleoliadau
Rhowch hwb i’ch gyrfa gydag un o’n lleoliadau
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod wedi ymuno â chynllun Kickstart llywodraeth y DU ac y byddwn yn darparu cyfleoedd lleoliadau gwaith â thâl i bobl ifanc ledled Cymru.
Mae'r lleoliadau hyn am gyfnod o 6 mis ac maent yn agored i bobl 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol y mae eu cyfleoedd gwaith a gyrfa wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng economaidd ac iechyd cyhoeddus presennol.
Pam ymuno â #TîmCyfoeth?
Fel corff amgylcheddol mwyaf Cymru, mae gennym gylch gwaith enfawr a rôl hanfodol i’w chwarae o ran gofalu am yr amgylchedd – o’r môr, coedwigaeth a physgodfeydd, i’n timau llifogydd, addysg, gwastraff diwydiannol a rheoleiddio.
Mae llawer o gyfleoedd i ddod i weithio gyda ni wrth i ni fynd i’r afael â rhai o faterion mwyaf ein hoes a helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r amgylchedd a phobl Cymru.
Rydyn ni hefyd yn frwdfrydig dros helpu pobl i ddatblygu. Pan fyddwch yn ymuno â #TîmCyfoeth, byddwn yn eich helpu i adeiladu ar eich sgiliau a’ch cymwysterau presennol, a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa ar gyfer y dyfodol.
Pa fath o leoliadau Kickstart sydd ar gael?
Isod fe welwch restr o’r lleoliadau Kickstart sydd ar gael i ymgeisio amdanynt ar hyn o bryd. Os ydych chi’n awyddus i roi cynnig arni, yna trafodwch gyda’ch hyfforddwr gwaith Kickstart i ddarganfod mwy.
Byddwn yn diweddaru’r blog hwn wrth i ragor o leoliadau Kickstart ddod ar gael, felly cadwch lygad am wybodaeth ar dudalennau ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau, neu gallwch danysgrifio i’n cylchlythyr.
Cofiwch – nid oes angen llwyth o brofiad arnoch er mwyn gwneud cais – rydyn ni’n chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig sy’n barod i ddysgu, sy’n frwfrydig dros yr amgylchedd ac sydd eisiau helpu ein timau i wneud gwahaniaeth go iawn.
Cynorthwyydd Gwarchodfa – (Gwarchodfa Natur Cors Caron) ger Aberystwyth
Yn y swydd hon byddwch yn gweithio gyda Paul a'i dîm sy'n gofalu am gorsydd mawn Cors Caron. Mae'r lle unigryw ac arbennig hwn yn un o'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Mae'r swydd yn ymarferol, yn gorfforol ac wedi’i lleoli yn y maes. Byddwch yn gweithio yn y warchodfa yn Nhregaron, Ceredigion, SY25 6JF.
Byddwn yn darparu hyfforddiant fel eich bod yn ennill cymwysterau cydnabyddedig a phrofiad gwych ar gyfer eich swydd nesaf. Byddwch yn dysgu sgiliau cadwraeth ymarferol ac yn ein helpu i gynnal arolygon a gwaith monitro rhywogaethau a chynefinoedd allweddol. Byddwch yn rhan o'n tîm rheng flaen, a byddwch yn siarad ag ymwelwyr â'r warchodfa ac yn ymateb i ymholiadau ynglŷn â Chors Caron.
Cymorth Ymchwil / Gweinyddol (Swyddfa'r Cadeirydd – o gartref)
Yn y swydd hon byddwch yn gweithio gyda Gwenno a Julia yn Swyddfa'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr. Dyma gyfle unigryw i ennill profiad mewn amgylchedd swyddfa prysur, lefel uchel.
Mae'r swydd hon yn ymarferol. Byddwch yn cyflawni rôl Cynorthwyydd Gweinyddol ac yn sicrhau bod y swyddfa'n rhedeg yn ddidrafferth. Byddwch yn gweithio o gartref yn bennaf ond disgwylir i chi weithio o’r swyddfa yn achlysurol. Lleoliad y swyddfa y byddwch yn gweithio ohoni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP. Byddwn yn darparu gliniadur er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith a chyfathrebu â chydweithwyr. Byddwch yn gweithio ar ystod o gronfeydd data er mwyn cryfhau perthnasoedd gwaith yn fewnol ac yn allanol gyda'r holl randdeiliaid allweddol.
Byddwch yn dehongli a dadansoddi ystod o wybodaeth. Byddwch yn helpu Swyddfa'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr gyda gweithgareddau gweinyddol eraill megis ymchwil wrth ddesg a rheoli cronfeydd data.
Cynorthwyydd Gweithrediadau (O gartref gyda gwaith achlysurol o Drefynwy)
Yn y swydd hon byddwch yn gweithio gyda Rob a'r tîm gweithrediadau. Byddwch yn rhan o'n tîm rheng flaen sy'n gweithio i leihau'r perygl o lifogydd ac yn ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.
Mae Covid wedi effeithio ar y ffordd y gweithiwn. Rydym yn treulio llai o amser yn ein depos ac mae angen eich help er mwyn gwella ein systemau fel ein bod yn gallu cael mynediad at wybodaeth o unrhyw leoliad. Byddwch yn sganio ac yn arbed tystysgrifau hyfforddiant. Rydym hefyd am i chi storio manylion hyfforddiant ar 'gardiau clyfar' fel y gall ein staff gael mynediad at y wybodaeth allan ar y safle. Rydym bob amser yn ceisio gwella ein heffeithlonrwydd a hoffem i chi ychwanegu at ein cyfres o ffurflenni Microsoft a ddefnyddir ar gyfer arolygiadau diogelwch.
Kickstart – Swyddog Cymorth Gweinyddol – Perfformiad Asedau’r De Orllewin
Yn y rôl hon, byddwn yn gweithio gyda Gareth a’i griw yn nhîm Perfformiad Asedau’r De Orllewin.
Mae hon yn rôl ymarferol a byddwch yn cefnogi’r tîm Perfformiad Asedau gyda dyletswyddau gweinyddol a gweithgareddau cysylltiedig eraill. Byddwch yn gweithio gartref ac yn y swyddfa. Lleoliad eich swyddfa fydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Heol Parc Mawr, Cross Hands, Llanelli, SA14 6RE. Byddwn yn darparu gliniadur er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith a chyfathrebu â chydweithwyr.
Cynorthwyydd
Yn y swydd hon, byddwch yn gweithio gyda Jenn a’i thîm sy’n sicrhau bod Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn rhedeg yn effeithlon. Mae’r goedwig unigryw ac arbennig hon yn adnabyddus am ei thraddodiad o fwydo’r barcudiaid cochion ers blynyddoedd, ac mae’n cynnwys llwybrau ar gyfer cerddwyr, beicwyr mynydd, rhedwyr a’r rhai sy’n marchogaeth. Mae Bwlch Nant yr Arian yn gwneud ymdrech wych i greu profiad difyr a chofiadwy i’r ymwelwyr.
Aelod o'r tîm gwaith maes
Yn y swydd hon, byddwch chi’n gweithio gyda Claudia a’i thîm yn nhîm Gweithrediadau Coedwig y De Orllewin.Mae’r swydd hon yn ymarferol, yn gorfforol ac wedi’i lleoli yn y maes. Byddwch chi’n gweithio yn Resolfen, Castell Nedd SA114DR. Byddwn yn darparu hyfforddiant fel eich bod yn ennill cymwysterau cydnabyddedig a phrofiad gwych ar gyfer eich swydd nesaf.
Byddwch yn gweithio ar raglenni ail-stocio a phlannu coed. Byddwch yn gweithio ar raglenni chwynnu a glanhau. Byddwch yn gwneud gwaith cynnal a chadw ac unrhyw dasgau eraill sy’n ofynnol megis gwaredu cysgod coed a chynnal arolygon. Byddwch chi’n rhan o’n tîm Gweithrediadau Coedwig rheng flaen yn ein swyddfa yn Resolfen yng Nghwm Nedd.
Kickstart – Swyddog Monitro Cynorthwyol
Yn y rôl hon byddwch yn gweithio gyda Joel a'i dîm yn helpu monitro’r amgylchedd ar gyfer prosiect Twyni Byw Afon Dyfrdwy. Nod y prosiect yw adfer afon Dyfrdwy a diogelu'r rhywogaethau a'r cynefinoedd a geir yn afon Dyfrdwy. Mae'r rôl hon yn un ymarferol. Byddwch yn gweithio'n agos gydag aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol i wneud amrywiaeth o waith monitro ar hyd a lled y dalgylch i ddeall effeithiau'r ymyriadau a wneir trwy'r prosiect.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i fonitro'r amgylchedd - gan gynnwys pysgota trydanol, cynorthwyo gyda thagio pysgod a gwaith maes cysylltiedig, arolygon cynefinoedd. Byddwch yn coladu, dilysu, a mewnbynnu data monitro a thystiolaeth fonitro arall i mewn i raglenni perthnasol, gan gynorthwyo gydag agweddau eraill ar y prosiect yn ôl yr angen.
Cynorthwyydd Gweithrediadau, Y Trallwng (x2)
Yn y rôl hon byddwch yn gweithio gyda Keith a'i dîm gweithrediadau. Byddwch yn rhan o'n tîm rheng flaen sy'n gweithio i leihau'r risg o lifogydd ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.Mae Covid wedi effeithio ar y ffordd rydym ni'n gweithio. Rydym ni’n treulio llai o amser yn ein depo ac mae angen eich help arnom ni i wella ein systemau fel y gallwn gael gafael ar wybodaeth o unrhyw leoliad. Byddwch yn sganio ac yn arbed tystysgrifau hyfforddi. Rydym ni hefyd eisiau ichi storio manylion hyfforddi ar ‘smart cards’ fel y gall ein staff gyrchu'r wybodaeth hon allan ar y safle.
Rydym ni bob amser yn ceisio gwella effeithlonrwydd a hoffem ichi ychwanegu at ein cyfres o ffurflenni Microsoft a ddefnyddir ar gyfer archwiliadau diogelwch. Byddwch hefyd yn helpu i archebu offer newydd.
Aelod o’r tîm hamdden a mynediad – Coedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch
Yn y rôl hon byddwch yn gweithio gyda John a'i dîm sy'n gofalu am Goedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch ar Ynys Môn. Mae Niwbwrch yn un o'r systemau twyni mwyaf a gorau ym Mhrydain. Mae'r twyni, y corsydd arfordirol, y glannau tywodlyd a chreigiog wedi cael eu siapio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a'r môr ac maen nhw’n gartref i amrywiaeth wych o blanhigion ac anifeiliaid. Heddiw mae'n ardal boblogaidd ar gyfer hamdden ac yn gartref i fywyd gwyllt, yn enwedig gwiwerod coch.
Mae'r rôl hon yn ymarferol ac wedi’i lleoli yn y maes. Byddwch yn helpu’r Tîm Hamdden i alluogi mwy o bobl i fwynhau buddion cael mynediad i'r amgylchedd naturiol mewn modd diogel a chyfrifol. Byddwch yn gweithio yng Nghoedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, Ynys Môn. Byddwch yn cynorthwyo i hyrwyddo mynediad diogel a chyfrifol yng Nghoedwig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch. Byddwch hefyd yn bwynt cyswllt i ymwelwyr gan sicrhau bod pob cyswllt â'r cyhoedd yn cyflwyno Cyfoeth Naturiol Cymru yn y modd gorau posibl trwy ddarparu gofal cwsmer a gwasanaeth da.
Cynorthwyydd Labordy x 2
Yn y rôl hon byddwch yn gweithio gydag Andrew a’i dîm yn nhîm Gwasanaethau Dadansoddol Cyfoeth Naturiol Cymru (NRWAS). Fel rhan annatod o Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r labordy’n helpu i gyflawni rhwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru i Fframwaith Dŵr, Dŵr Ymdrochi a Chyfarwyddebau Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd.
Swyddog Cymorth Prosiect – Tîm Amgylchedd Abertawe.
10 ChwefroYn y rôl hon byddwch yn gweithio gyda Hamish a'i dîm yn Nhîm Amgylchedd Abertawe.
Mae hon yn rôl ymarferol, a byddwch yn cefnogi’r Tîm Amgylchedd a gwaith prosiect cysylltiedig â gweithgareddau gweinyddol a gweithgareddau cysylltiedig â phrosiectau. Byddwch yn gweithio gartref, byddwn yn darparu gliniadur i chi i wneud eich gwaith a chyfathrebu â chydweithwyr. Byddwch yn cefnogi'r gwaith prosiect o fewn Tîm Amgylchedd Abertawe
Byddwch yn cefnogi cyfraniad y tîm i Asesiad a Chynllun Llesiant Abertawe. Byddwch yn cefnogi cyflwyno cyfraniad y tîm at y gwaith prosiect a wneir fel rhan o Fforwm Amgylcheddol Abertawe.
Project support officer Healthy Hillsides
Mae'r Prosiect Llethrau Iach yn bartneriaeth rhwng nifer o sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Nod y bartneriaeth newydd gyffrous hon yw ceisio rheoli ein llethrau yn well ar gyfer bywyd gwyllt, ac wrth wneud hynny, cefnogi’r cymunedau lleol yn y Rhondda yn well.
Mae hon yn rôl ymarferol, a byddwch yn gweithio gyda Haf i gefnogi gweithgareddau ar draws y Prosiect Llethrau Iach. Mae hon yn rôl gweithio gartref, ond mae'r prosiect Llethrau Iach wedi'i leoli yn ne Cymru, felly disgwylir rhywfaint o deithio ar draws de Cymru (bydd cerbyd yn cael ei ddarparu yn ôl yr angen). Byddwn yn rhoi gliniadur i chi i wneud eich gwaith a chyfathrebu â chydweithwyr.
Cynorthwyydd Gwastraff
Yn y rôl hon byddwch yn gweithio gyda Carys yn nhîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff y Gogledd-ddwyrain. Byddwch yn darparu amrywiaeth o gymorth gweinyddol a busnes i'r swyddogaeth Rheoleiddio Gwastraff. Byddwch yn gweithio gartref; byddwn yn rhoi gliniadur i chi i wneud eich gwaith a chyfathrebu â chydweithwyr.Mae’r rôl hon yn un ymarferol, a byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi gwaith tîm sy’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gyflawni cylch gwaith rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon ar lefel Lle.
Bydd y tasgau’n cynnwys monitro dychweliadau gwastraff, cofnodion a thracio camau gweithredu o gyfarfodydd, olrhain camau cydymffurfio ar gyfer y tîm, archebu Offer Diogelu Personol, Olrhain Iechyd a Diogelwch y tîm – hyfforddiant/E-ddysgu/Offer Diogelu Personol, gwiriadau cerbyd misol, System Rheoli Dogfennau (DMS) storio dogfennau cydymffurfio a digideiddio hen ddogfennau trwydded.
Beth osnad ydw i’n bodloni meini prawf Kickstart ond bod gen i ddiddordeb o hyd mewn cyfle ar gyfer lleoliad?
Rydyn ni’n falch o gynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau yn #TîmCyfoeth – o Brentisiaethau a Lleoliadau Addysg Uwch i gyfleoedd Gwirfoddoli. Gallwch ddysg mwy ar dudalen ein Lleoliadau yma.