Ymateb cyflym CNC i fygythiad chwilen yn llwyddiannus ond rhaid inni barhau i fod yn wyliadwrus
Mae Tîm Rheoliadau Coedwig ac Iechyd Coed Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd camau ar ôl darganfod chwilen Ips typographus mewn trap monitro pryfed yn Ne Ddwyrain Cymru.
Darganfuwyd tri sbesimen eleni mewn un trap, a osodwyd dair blynedd yn ôl gan Forest Research, fel rhan o Rwydwaith Gwyliadwraeth Iechyd Planhigion Cymru (WPHSN).
Yn dilyn gwiriad gan entomolegwyr Forest Research, aeth Tîm Iechyd Coed CNC ati gyda chymorth cydweithwyr o Rheoli Tir, Gweithrediadau Coedwig a Gweithlu Integredig CNC ac arbenigwyr Forest Research i gynnal arolwg cyflym o’r holl goed sbriws o fewn 1km i’r darganfyddiad.
Roedd yn rhaid dod o hyd i’r holl goed sbriws ar dir CNC a thir preifat a chrëwyd prosiect casglu data i gynorthwyo’r arolwg.
Gwnaed arolwg o’r holl achosion o goed a oedd wedi’u difrodi (eu dadwreiddio a’u torri) gan wyntoedd cryfion, archwiliwyd yr holl goed sbriws a’r coed sy'n sefyll gyda brigdyfiant gwael a'u cwympo os oedd angen i'w hatal rhag cael eu defnyddio fel twneli bridio gan y chwilod.
Mae chwilod rhisgl yn creu twneli bach cywrain o dan risgl y coed lle byddant yn dodwy eu hwyau a magu eu larfâu, cyn i'r larfâu droi’n chwilod llawn dwf a gallu hedfan a pharhau â'u cylch bywyd.
Roedd yr holl foncyffion a'r sgil-gynhyrchion (pren wedi'i dorri) naill ai'n cael ei dynnu oddi ar y rhisgl, ei droi’n naddion neu ei orchuddio â tharpolin i sicrhau nad oedd unrhyw ddeunydd addas ar gyfer cytrefu.
Diolch byth, ni ddaethpwyd o hyd i dwneli bridio Ips typographus, ac nid yw'r dulliau gwell o drapio ac arolygu drwy gydol y tymor, ers hynny, wedi canfod rhagor o’r chwilod hyn.
Bydd archwiliadau pellach yn cael eu cynnal dros y gaeaf er mwyn dod o hyd i'r holl achosion o goed sydd wedi cael eu dadwreiddio a’u torri gan wyntoedd cryfion a bydd rhagor o waith trapio yn digwydd y flwyddyn nesaf.
Yn ogystal â'r canfyddiad hwn yng Nghymru, mae canfyddiadau newydd o Ips typographus wedi'u cadarnhau yn Ne Ddwyrain Lloegr gan gynnwys canfod yr achos cyntaf ym Mhrydain Fawr ar sbriws Sitka.
Cafwyd hyd i’r chwilen ar nifer fechan o goed Sitka afiach ymhlith clwstwr o sbriws Norwy heintiedig, sydd hefyd mewn cyflwr gwael iawn, ar safle yng Ngorllewin Sussex.
Yn ddiweddar gwahoddwyd staff Iechyd Coed, Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwig CNC i’r safle hwn ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth iddynt, eu hyfforddi a chynnig cyfleoedd rhwydweithio iddynt gyda’n cydweithwyr yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Mae gweld y chwilen, ei thwneli bridio a’r coed heintiedig go iawn wedi cynyddu ein gwybodaeth a’n hyder yn ein gallu i adnabod y chwilen ar lawr gwlad, a bydd meithrin perthynas waith agos â’r Comisiwn Coedwigaeth yn ein helpu i fynd i’r afael ag unrhyw achosion a fydd yn cael eu gweld yn y dyfodol.
Mae’r chwilen Ips typographus yn bresennol yn Ne-ddwyrain Lloegr, gyda'r ardal ddiffiniedig yn ymestyn mor bell i'r gorllewin â Newbury, Berkshire. Dengys ymchwil a modelu fod risg uwch o ddarganfod y chwilen yn Ne-ddwyrain Cymru nag ardaloedd eraill o Gymru, oherwydd agosrwydd safleoedd yn Lloegr, yr hinsawdd a phresenoldeb coed sbriws yno.
Mae CNC yn galw ar bob Rheolwyr Coedwig i fod yn wyliadwrus ac yn credu y byddai cael gwybodaeth am unrhyw sbriws mewn cyflwr gwael neu rai sydd wedi’u dadwreiddio gan y gwynt ar safleoedd preifat yn ddefnyddiol iawn. Cysylltwch ag iechydcoed@cyfoethnaturiol.cymru i roi unrhyw wybodaeth.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i: Ips typographus | LLYW.CYMRU