Gardd Gymunedol Rhondda Fach gan Arts Factory

Mae’n anhygoel gweld sut y gall cornel anghofiedig o ystad ddiwydiannol gael ei thrawsnewid yn ased cymunedol gwych gyda’r sefydliadau a’r bobl iawn yn cydweithio.

Mae Gardd Gymunedol Rhondda Fach yn bartneriaeth rhwng Arts Factory a Sunrise Community Garden Group ar Ystad Ddiwydiannol Highfield yng Nglynrhedynog. Mae'n brosiect tyfu lleol ar gyfer y gymuned ac yn darparu cyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau mewn cymunedau difreintiedig.

Yn 2020, fe wnaethom ddyfarnu £43,000 o gyllid i Arts Factory ar gyfer eu prosiect fel rhan o’n grant Cais am Ganlyniadau a Rennir.

Cafodd yr ardd ei chwblhau a’i hagor yn 2021 ac maen nhw wedi recriwtio Nigel, Cydlynydd yr Ardd, wedi adeiladu tîm cryf o wirfoddolwyr, ac wedi cynnwys cannoedd o bobl o’r ysgolion a’r cymunedau lleol yn y prosiect.

Maen nhw wedi creu man hygyrch er budd y gymuned leol. Mae gan y rhan fwyaf o’r gwirfoddolwyr anawsterau dysgu ac maen nhw’n dod i’r ardd i wella eu hiechyd meddwl, ennill sgiliau newydd, cael ymdeimlad o berthyn a gwneud ffrindiau newydd.

Mae’r ffilm hon yn dangos sut mae pedwar dyn ifanc wedi trawsnewid trwy helpu gyda’r prosiect. Mae eu balchder a'u hyder yn cael eu hybu gan waith gwych Arts Factory, sydd â’r arwyddair 'No more throw-away people.’

Fel sefydliad, rydym yn dathlu amrywiaeth a chynhwysiant. Roeddem yn gallu darparu'r cyllid gan ei fod yn bodloni meini prawf themau ein Datganiad Ardal ar gyfer Canol De Cymru, 'Cysylltu pobl â natur’ a ‘Gwella ein hiechyd'.

Mae'r prosiect nid yn unig wedi darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd drwy weithio â natur, ond mae natur wedi eu helpu i gysylltu â'u hunain - gan wireddu eu llawn botensial. Mae wedi eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a gallai eu helpu gyda'u breuddwydion a'u dyheadau.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru