Diogelu ein hafonydd Ardal Cadwraeth Arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Y mis diwethaf, fe wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, drefnu'r drydedd Uwchgynhadledd ar Lygredd Afonydd, gan ddod â chynrychiolwyr allweddol o fyd llywodraeth, rheoleiddwyr a diwydiannau ynghyd i addo ymrwymo i helpu i ddatrys yr heriau ansawdd dŵr sy'n ein hwynebu.
Yn dilyn yr Uwchgynhadledd ddiwethaf ym mis Mawrth, roedd y trafodaethau'n canolbwyntio i raddau helaeth ar gamau i adfer naw o'n hafonydd Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
Mae'r afonydd hyn wedi'u dynodi am eu bioamrywiaeth gyfoethog ac maen nhw'n gartref i rai o'n rhywogaethau mwyaf eiconig fel yr eog, dyfrgwn a'r gwangen.
Mae mesurau diogelu arbennig wedi'u dyfarnu i bob un o'n hafonydd ACA – Gwy, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dyfrdwy ac Wysg – er mwyn gwarchod y cynefinoedd a'r rhywogaethau gwerthfawr maen nhw'n eu cynnal.
Ond mae ein hafonydd yn wynebu heriau di-ri. Llygredd sy'n gollwng o waith trin carthion, mwy o ffermio dwys a gwaddol peirianneg afonydd hanesyddol yw rhai o'r dylanwadau dynol sy'n rhoi pwysau cynyddol ar lif, ansawdd dŵr a chynefinoedd ein hafonydd.
Yn 2021, gyda chalon drom, fe wnaethom adrodd mai dim ond 39% o'n hafonydd ACA oedd yn cyrraedd targedau newydd, llymach ar gyfer ffosfforws a gyflwynwyd gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur.
Gall gormod o ffosfforws arwain at ewtroffeiddio sy'n gallu achosi niwed ecolegol sylweddol i afonydd gan gynnwys newid cydbwysedd rhywogaethau planhigion o fewn cynefinoedd afonydd.
Ers hynny, gohiriwyd datblygiadau gwerth miliynau o bunnoedd mewn dalgylchoedd afonydd ACA lle mae targedau ffosfforws wedi'u croesi, yn cynnwys tai fforddiadwy mawr eu hangen.
Tuag at ddyfodol gwell i'n hafonydd
Ers 2021, mae cydweithwyr yn ein prosiect afonydd ACA wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio lleol, Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, Natural England ac Asiantaeth yr Amgylchedd i gasglu mwy o dystiolaeth ar ffynonellau llygredd ffosfforws ac wedi rhoi camau angenrheidiol ar waith i leihau llygredd.
Mae gwaith modelu i ddeall ffynonellau ffosfforws yn ein hafonydd gan Dŵr Cymru a CNC wedi pennu’r prif ffynonellau ffosfforws sy'n cyfrannu at bob afon ACA.
Sefydlwyd Byrddau Rheoli Maethynnau, gydag aelodaeth draws-sector, ym mhob dalgylch ACA sy'n methu ac maen nhw'n datblygu camau i helpu i wella ansawdd dŵr lleol.
Trefnodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yr Uwchgynhadledd Llygredd Afon gyntaf ym mis Gorffennaf 2022, lle nodwyd wyth maes ymyrryd er mwyn helpu i adfer ein hafonydd ACA.
Roedd yr ail a'r drydedd Uwchgynhadledd yn canolbwyntio'n bennaf ar gynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r angen dybryd i leihau'r pwysau ar afonydd ACA er mwyn helpu i ddarparu tai fforddiadwy, sy'n nodi'r camau gweithredu clir, yr amserlenni a'r cyfrifoldebau i fynd i'r afael â llygredd mewn dalgylchoedd afonydd ACA a thaclo cyfyngiadau cynllunio.
Cydbwysedd rhwng anghenion cymdeithas a’r amgylchedd
Un o'n camau gweithredu yw cynnal adolygiad o drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gwaith trin dŵr gwastraff mwy o faint er mwyn rheoleiddio gollyngiadau sy'n cynnwys ffosfforws. Mae'r adolygiad yn cynnwys 171 o drwyddedau gwaith trin dŵr gwastraff ar gyfer gollyngiadau i ddalgylchoedd afonydd ACA. Mae'n arwain at newidiadau a fydd yn lleihau yn sylweddol faint o ffosfforws y gellir ei ollwng i amgylchedd yr afon, a sicrhau bod deiliaid trwyddedau yn cyfrannu at leihau'r lefelau ffosfforws sy'n ofynnol er mwyn adfer ein hafonydd ACA.
Mae'r angen i fodloni cyfyngiadau trwyddedau diwygiedig ar gyfer ffosfforws yn llywio cynlluniau buddsoddi Dŵr Cymru a bydd yn helpu awdurdodau cynllunio a'r cwmni dŵr i benderfynu a oes digon o gapasiti gan weithfeydd trin dŵr gwastraff ar gyfer cysylltu carthffosydd newydd.
Law yn llaw â hyn, rydym wedi datblygu ein detholiad o gamau lliniaru posibl ac ymyriadau, sy'n defnyddio'r arferion gorau a’r dystiolaeth ddiweddaraf i gynorthwyo Byrddau Rheoli Maethynnau ynghylch opsiynau i leihau lefelau’r ffosfforws sy'n mynd i afonydd ACA.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio gwlyptiroedd a adeiladwyd, y soniwyd amdanynt mewn blog 'nôl ym mis Chwefror.
Credwn y dylai natur fod yn rhan o'r ateb, ac rydym bellach wedi cwblhau ein polisi gwlyptiroedd a adeiladwyd sy'n amlinellu lle mae angen trwyddedau a sut byddwn ni'n rheoleiddio'r gwlyptiroedd hyn.
Mae Dŵr Cymru eisoes yn treialu gwlyptiroedd yn rhai o'u gweithfeydd trin dŵr gwastraff fel dull o leihau ffosfforws naturiol.
Rydym yn parhau i anelu at gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethom yn yr uwchgynadleddau llygredd, er mwyn sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan lawn wrth gyflymu'r newid yr hoffem ei weld yn digwydd i'n dyfroedd.
Mae gwaith ein prosiect afonydd ACA yn cyd-fynd â gwaith beunyddiol ein timau sy'n rheoleiddio byd diwydiant, yn arolygu cydymffurfiaeth ffermydd ac ymateb i rai o'r miloedd o ddigwyddiadau sy'n cael eu hadrodd i ni bob blwyddyn.
Er y byddwn yn defnyddio'r holl adnoddau ac ysgogiadau sydd ar gael i ni i atal llygredd, rydym hefyd yn cydnabod na allwn sicrhau datrysiadau parhaol ar ein pennau ein hunain – mae gan bawb ran i'w chwarae.
Bydd y camau sydd eu hangen yn cyflwyno llawer o heriau i'r sectorau rydym yn gweithio gyda nhw. Ond rydym hefyd yn credu ei fod yn cyflwyno sawl cyfle - cyfle i bawb wneud pethau'n wahanol a gweithio'n fwy rhagweithiol gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu ein dyfroedd.