Cynhadledd Twyni Byw 2024

Mae'n bleser gan Twyni Byw a Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi y bydd cynhadledd derfynol y prosiect yn cael ei chynnal rhwng 15 ac 17 Mai 2024 yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer:

  • Canfyddiadau ac uchafbwyntiau pum mlynedd o waith Twyni Byw dros fioamrywiaeth.
  • Cyflwyniadau llawn gwybodaeth gan siaradwyr lleol a rhyngwladol, ar y datblygiadau diweddaraf ym maes gwarchod a rheoli twyni tywod.
  • Rhwydweithio, cydweithio a rhannu arferion gorau rhwng rheolwyr twyni tywod blaenllaw o bob rhan o'r DU a gogledd Ewrop.

Rhaglen Dros Dro: Ar-lein

Dydd Mercher 15 Mai 2024

  • 13:00 - 13:30 Agor y gynhadledd 
  • 13:30 - 17:30 Cyflwyniadau a thrafodaethau 

Dydd Iau 16 Mai 2024

  • 09:00 - 18:00 Ymweliad safle ar gyfer mynychwyr wyneb yn wyneb yn unig

Dydd Gwener 17 Mai 2024

  • 09:00 - 11:40 Cyflwyniadau a thrafodaethau
  • 11:40 - 12:00 Cau’r gynhadledd 

Darllenwch y rhaglen lawn

Dyddiad cau ar gyfer archebu lle ar-lein: Hanner dydd, dydd Mawrth 14 Mai 2024 i sicrhau eich bod yn derbyn dolen i ymuno â’r sesiynau. Archebwch eich lle nawr!

Mae'r gynhadledd yn ddigwyddiad rhad ac am ddim. Trwy wahoddiad yn unig y gellir mynychu’r gynhadledd wyneb yn wyneb, ac mae’r holl leoedd wedi’u harchebu. Cysylltwch â ni am wybodaeth am y rhestr aros.

Rydym yn gwahodd cynigion ar gyfer posteri a stondinau arddangos sy'n amserol, yn addysgiadol ac yn berthnasol i reoli twyni tywod.

Am unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch e-bost: SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru