Pam mae coed conwydd yn cael eu tynnu o’r twyni ym Morfa Harlech
Mae gwaith pwysig yn parhau ym Morfa Harlech wrth i dîm gweithrediadau coedwig CNC weithio ar y cyd â phrosiect Twyni Byw a Chlwb Golff Brenhinol Dewi Sant i dynnu coed conwydd o ardal o dwyni sydd tua 9.5 hectar o faint.
Yma mae Jake Burton, Swyddog Prosiect a Monitro'r prosiect Twyni Byw yn y Gogledd, yn egluro pam mae’r gwaith yn bwysig wrth i’r prosiect ddal ati i fynd i’r afael ag adfywio twyni tywod ledled Cymru.
Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig?
Mae’r ardal lle bydd y coed yn cael eu cwympo yn Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd y bywyd gwyllt sydd i’w gael yn y twyni, sydd o bwysigrwydd rhyngwladol. Nid yw coed conwydd yn gynhenid i’n twyni tywod ac fe’u plannwyd yn y gorffennol i gynhyrchu pren a sefydlogi’r twyni, a oedd yn arfer symud. Oherwydd eu bod yn bwrw llawer o gysgod, mae coed conwydd yn effeithio ar allu planhigion brodorol y twyni i dyfu. Ar ben hynny, maen nhw’n asideiddio’r pridd ac yn sychu ardaloedd sy’n naturiol wlyb.
Mae’r coed conwydd ym Morfa Harlech yn cyrraedd diwedd eu hoes fasnachol a byddant yn dechrau dirywio a syrthio yn y gwynt os na chânt eu cynaeafu. Bydd eu tynnu o’r safle’n helpu i adfer y twyni tywod drwy greu ardaloedd agored lle gall bywyd gwyllt y twyni ffynnu.
Ble fydd y gwaith yn digwydd?
Bydd y gwaith arfaethedig yn digwydd ar ffin orllewinol Coedwig Harlech, wrth ymyl y twyni agored. Mae’r gwaith wedi’i gynllunio i sicrhau y bydd coed brodorol yn dal i’w gweld yn y dirwedd ac ni fydd yn effeithio ar weddill y goedwig.
Sut fyddwn ni’n cwblhau’r gwaith?
Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau gan gontractwyr coedwigaeth gan ddefnyddio peiriannau cynaeafu. Bydd y pren a gaiff ei gynaeafu yn cael ei bentyrru yng Nghoedwig Harlech cyn cael ei fwydo i’r gadwyn cyflenwi pren. Bydd tocion hefyd yn cael eu symud fel rhan o’r contract.
A fydd cyfyngiadau dros dro ar gyfer y cyhoedd?
Bydd mynediad i’r ardal/ardaloedd gwaith yn cael ei gyfyngu wrth i’r gweithrediadau fynd rhagddynt am resymau diogelwch; fodd bynnag, bydd gweddill Coedwig Harlech ar agor fel arfer.
Pryd fydd y gwaith yn dechrau ac am faint y bydd yn para?
Y bwriad yw dechrau’r gwaith ganol mis Chwefror 2022 ac mae disgwyl iddo bara tua 4 i 5 wythnos.
Mae’r gwaith yn cael ei wneud i gadw cynefin arbennig twyni Morfa Harlech yn iach. Cadwch lygad ar ffrydiau ein cyfryngau cymdeithasol lle byddwn yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd am y gwaith. Gallwch ddod o hyd i ni fel @TwyniByw ar Twitter, Instagram a Facebook neu drwy chwilio am Twyni Byw.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gwaith, cysylltwch â Jake Burton ar jake.burton@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk