Bydd tîm newydd ar waith cyn bo hir i helpu ffermydd i leihau llygredd amaethyddol yng Nghymru
Mae tîm pwrpasol i sicrhau bod ffermydd yn cydymffurfio â rheoliadau i leihau llygredd amaethyddol yng Nghymru, yn cael ei sefydlu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ar hyn o bryd, mae'r sefydliad amgylcheddol yn dewis 16 o swyddogion amgylcheddol i gynnal archwiliadau ar ffermydd a nodwyd i helpu ffermwyr i fodloni gofynion Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (Cymru).
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau eu rolau newydd erbyn diwedd yr haf ac yn ymuno â dau arweinydd tîm, sydd eisoes wedi dechrau ar eu swyddi newydd. Bydd pedwar uwch swyddog amgylchedd Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol hefyd yn ymuno â'r tîm.
Mae wedi bod yn bosib sefydlu tîm newydd CNC yn dilyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Mae CNC yn defnyddio'r data sydd ar gael i nodi ardaloedd lle mae angen ymchwilio ledled Cymru i arwain y gwaith o ddanfon staff ac i gynorthwyo gyda blaenoriaethu archwiliadau.
Bydd y swyddogion hyn yn cynnal archwiliadau cydymffurfio’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol ar safleoedd sy'n cynnal gweithgareddau risg uwch ar ddaliadau amaethyddol.
Dywedodd Nichola Salter, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar gyfer Rheoliadau Amaethyddol, CNC:
“Rôl CNC yw sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau mewn modd cymesur. Mae hyn yn golygu lle bynnag y bo modd, yn dibynnu ar ddifrifoldeb diffyg cydymffurfio a'r effaith amgylcheddol, y byddwn yn gallu cyfeirio pobl at ffynonellau cyngor a chanllawiau technegol. Mae gweithredu'r canllawiau hyn yn caniatáu i ffermwyr gymryd camau amserol i gydymffurfio, gan eu galluogi i osgoi cosbau gorfodi pellach.
“Mae gallu sefydlu timau newydd i gynnal rhaglen wedi'i thargedu o archwiliadau cydymffurfio ar gyfer gweithgareddau amaethyddol risg uchel yn gam enfawr ymlaen yn ein gallu i leihau llygredd amaethyddol yng Nghymru drwy sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y rheoliadau.
“Mae gweithgareddau risg uchel, sy'n cael eu rheoli o dan y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, yn cynnwys y ffermydd hynny sy'n cynhyrchu lefelau uchel o dail da byw, neu'n mewnforio tail organig sy'n cynnwys gweddillion treuliad anaerobig, biosolidau a gwastraff arall sy'n cael ei roi ar y tir.
“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y pwysau y mae ffermwyr yn ei brofi ar hyn o bryd a'r potensial sydd ganddo i effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Rydym hefyd yn cydnabod y potensial i’r archwiliadau cydymffurfio hyn waethygu'r pwysau.
“Gallwn roi sicrwydd i ffermwyr y byddwn bob amser yn rhoi rhybudd rhesymol cyn unrhyw archwiliadau cydymffurfio arfaethedig gan nodi beth fydd swyddogion am ei archwilio.”