'Sefyllfa annormal' yn nŵr ymdrochi Aberogwr wedi dod i ben.

Traeth Aberogwr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi heddiw (18 Mehefin 2024) bod y sefyllfa annormal a ddatganwyd yn nŵr ymdrochi dynodedig Aberogwr wedi dod i ben.

Ar 21 Mai, datganodd CNC sefyllfa annormal yn Aberogwr yn dilyn adroddiad o lygredd yn Afon Ogwr ger gwaith trin dŵr gwastraff Pen-y-Bont.

Mae sefyllfa annormal, fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau Dŵr Ymdrochi, yn cael ei datgan fel arfer pan ddaw CNC yn ymwybodol o ffynhonnell llygredd anarferol a allai effeithio ar ddŵr ymdrochi.

Meddai Fiona Hourahine, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Yn dilyn ein hymchwiliad i’r digwyddiad llygredd yn Afon Ogwr, a oedd yn cynnwys cymryd samplau ansawdd dŵr i fyny’r afon ac i lawr yr afon o’r safle ers dechrau’r digwyddiad, credwn nad oes digwyddiad llygredd parhaus bellach sy’n creu sefyllfa annormal.
“Felly, rydym wedi cael gwared ar y statws sefyllfa annormal yn nŵr ymdrochi Aberogwr.
“Er nad ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i ffynhonnell gychwynnol y llygredd ar hyn o bryd, byddwn yn parhau â’n hymchwiliad a bydd gwaith i fonitro’r ardal hefyd yn rhan o’n hymchwiliad ehangach i ansawdd dŵr yn y dalgylch yn dilyn y dosbarthiad ‘gwael’ yn nŵr ymdrochi Aberogwr ar ddiwedd tymor dyfroedd ymdrochi 2023.”

Mae CNC wedi hysbysu Cyngor Bro Morgannwg a all nawr dynnu’r arwyddion a osodwyd ar draeth Aberogwr i rybuddio pobl am y perygl o lygredd.

Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg:

"Mae'r Cyngor yn falch bod profion CNC yn dangos nad yw'r digwyddiad llygredd a ddatganwyd yn flaenorol yn effeithio ar ansawdd dŵr ar draeth Ogwr mwyach. Byddwn nawr yn cael gwared ar arwyddion sy'n cyfeirio at y 'sefyllfa annormal' o'r ardal.
"Fodd bynnag, mae'n siomedig nad yw ffynhonnell y broblem wedi'i nodi.
 "Mae'n destun gofid mawr hefyd bod yn rhaid i ni gymryd mesurau ychwanegol i annog pobl i beidio â mynd i mewn i'r môr, gyda'r traeth yn dioddef canlyniadau samplau dŵr ymdrochi gwael yn ystod 2023.
"Mae digwyddiadau llygredd wedi dod yn llawer rhy gyffredin. Maent yn effeithio nid yn unig ar ansawdd y dŵr, ond pawb a fyddai fel arall yn mwynhau'r rhan hon o'r Arfordir Treftadaeth.
"Er bod gan Aberogwr lawer i'w gynnig, ar wahân i'w draeth, mae trigolion ac ymwelwyr yn haeddu dŵr ymdrochi glân a diogel i'w fwynhau a byddwn yn parhau i weithio gyda CNC a DCWW i gyflawni hyn."

Gellir rhoi gwybod am achosion tybiedig o lygredd i CNC drwy ffonio’r llinell gymorth digwyddiadau 24/7 ar 03000 65 3000 neu ar-lein ar y dudalen Rhowch Wybod.

Mae gwybodaeth am ble i ddod o hyd i ddyfroedd ymdrochi dynodedig, ac ansawdd dŵr ymdrochi ar gael ar dudalen Ansawdd Dŵr Ymdrochi.