Cyfuno celf a gwyddoniaeth i dynnu sylw at bwysigrwydd mawndiroedd
Fel rhan o brosiect sy'n archwilio'r berthynas rhwng gwyddoniaeth a'r celfyddydau, mae artist o’r Gogledd yn gweithio i greu cerflun 'storio-carbon' sy'n amlygu rhai o nodweddion naturiol pwysicaf Ynys Môn.
Trwy weithio mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, bydd Manon Awst, a raddiodd mewn Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn creu cerflun sy'n archwilio gwerth ecolegol mawndiroedd - storfeydd carbon daearol mwyaf effeithiol Cymru.
Derbyniodd y prosiect gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a bydd yn cael ei lywio gan ymchwil safle yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Ffeniau Môn a Llŷn mewn cydweithrediad ag arbenigwyr CNC o Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd RhWGF (NPAP).
Yn 2020, gan gydnabod y rôl hanfodol mae mawnogydd yn ei chwarae wrth frwydro'r argyfyngau hinsawdd a natur, lansiodd Llywodraeth Cymru Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndrioedd – rhaglen bum mlynedd o hyd, gydag uchelgais i reoli a gwella mawndiroedd sydd mewn cyflwr gwael.
Math o fawndir sy'n cael ei fwydo gan ddŵr llawn mwynau yw ffen, sy'n cefnogi amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt prin.
Mae ffeniau Môn o bwysigrwydd arbennig gan eu bod yn cael eu bwydo gan ddŵr sy'n gyfoethog mewn calsiwm ac ïonau eraill sy'n deillio o gorff dŵr daear calchfaen canol Môn - mae hyn yn arwain at gyfres benodol iawn o gynefinoedd a rhywogaethau prin.
Mae Manon, cyn-fyfyriwr Ysgol Uwchradd Bodedern, sydd wedi treulio amser yn gweithio yn yr Almaen, yn gwneud cerfluniau a gwaith celf safle-benodol sydd wedi'u gweu gyda naratif ecolegol er mwyn archwilio'r ffordd y mae deunyddiau yn 'glynu' at leoliadau a chymunedau.
Bydd ei gwaith ar y prosiect yn cynnwys gweithdai ysgolion, arddangosfa yn Oriel Brondanw, cyflwyniad cerfluniol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, cyn cyrraedd penllanw gyda dadorchuddio ei cherflun newydd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio yn ddiweddarach eleni.
Ar hyn o bryd mae Manon yn astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n gweithio fel Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mangor.
Dywedodd : "Cefais fy magu ar Ynys Môn, yn agos at lawer o safleoedd â gwefr ysbrydol fel Barclodiad y Gawres, Llanddwyn, Mynydd Parys, i gyd yn dystiolaeth o ryngweithio hirhoedlog rhwng pobl a thirweddau. Mae'r Ffeniau'r un mor unigryw a diddorol, ond mae'r cyfan yn gorwedd ynghudd o dan yr wyneb.
"Mae ffeniau yn dirluniau gwastad, tawel - yn wahanol iawn i'r arfordiroedd a'r mynyddoedd dramatig y mae Cymru'n adnabyddus amdanynt. Ond wrth archwilio'n agosach mae yna stori sy'n daer haeddu cael ei hadrodd a'i rhannu. Yn enwedig yng nghyd-destun newid hinsawdd."
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Ffeniau Môn a Llŷn gyda'i gilydd yw'r crynhoad mwyaf sylweddol a helaeth o gynefin ffen cyfoethog yng Nghymru a gorllewin Prydain ac mae ei fawn yn unigryw gan ei fod yn alcalïaidd yn hytrach nag asidig - oherwydd y calsiwm sy'n tarddu drwy’r dŵr daear o greigiau'r garreg galch.
Mae gwaith blaenorol Manon wedi ei arddangos yn y DG a'r Almaen gan gynnwys yn y Cass Sculpture Foundation yn Sussex, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Mostyn yn Llandudno ac yng Nghasgliad Boros ac Amgueddfa Georg Kolbe yn Berlin.
Dywedodd : "Yn y gorffennol, ffeniau oedd anadl einioes y bobl leol ond yn ystod y degawdau diwethaf rydym wedi cael ein gwahanu oddi wrthyn nhw ac maen nhw wedi dioddef drwy'n hesgeulustod.
"Mae mawn yn archif gludiog, byw. Mae'r rhan isaf o'r sampl craidd mawn a gymeron ni yn ddiweddar yn debygol o fod oddeutu 1,000 o flynyddoedd oed. Mae gen i ddiddordeb mewn sut y gallai'r berthynas rhwng cerflun a'i safle ddod yn 'fwy gludiog'.
"Rwy'n golygu hyn mewn synnwyr cyffyrddol, materol, ond hefyd o ran clymau cysyniadol, anghymdeithasol. Rwyf am efelychu deunydd sy'n ludiog fel mawn yn y deunydd cyfansawdd newydd. Rwy'n credu y gallai'r gludiogrwydd fod yn ffordd o'n cael ni'n agosach at safleoedd, fel y ffeniau, gan annog proses o edrych yn fanylach ar wahanol amserlenni a safbwyntiau.
"Rwy'n gobeithio, trwy uno dulliau creadigol a gwyddonol, gallwn ymgysylltu cynulleidfaoedd amrywiol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mawndiroedd, nid dim ond yng Nghymru ond yn fyd-eang. Mae cysylltiadau pwysig i'w gwneud ar draws Ewrop, sy'n llawn mawn."
Mae Manon, sy'n byw yng Nghaernarfon gyda'i gŵr a'i dau o blant, yn cydweithio gyda Chanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor i ddatblygu deunydd cwbl newydd ac organig i gynhyrchu'r strwythur cerfluniol.
Dywedodd : "Dw i wedi gwneud llawer o gerfluniau yn defnyddio calchfaen Moelfre yn ddiweddar. Daw calch o Hen Saesneg 'lim', sy'n golygu 'sylwedd gludiog', gan gyfeirio at ei ddefnydd mewn adeiladu.
"Ar lefel bersonol rwy'n edrych ymlaen at weld pa fath o ymyriadau cerfluniol sy'n dod i'r amlwg, ac yn awyddus i greu rhywbeth a fydd yn adlewyrchu priodweddau storio carbon y mawn. Dwi hefyd yn awyddus i weld a yw fy theorïau ar ludiogrwydd yn gweithio. A fydd y cerfluniau gludiog yn goroesi allan yno mewn amodau amgylcheddol anrhagweladwy? Sut fydd y deunyddiau yn sefyll prawf amser?"
Mae mawndir Cymru yn storio 30% o garbon y tir er ei fod ond yn gorchuddio 4% o'r wlad. Yr amcangyfrif yw bod 90% o fawndiroedd Cymru mewn cyflwr sy'n dirywio, gan allyrru nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at newid hinsawdd, gan olygu bod gwaith adfer yn hanfodol.
Gan gyfuno arbenigedd mawndir a bioamrywiaeth CNC, a chydweithio drwy bartneriaethau allanol cryf, mae prosiectau fel hyn yn cyfrannu at nod Gweithredu Mawndiroedd Cymru i adfer ecosystemau sydd yn eu tro yn dal a storio carbon.
Gall adfer mawndir weithio hefyd i liniaru effeithiau eraill newid hinsawdd fel risg llifogydd a thân.
Dywedodd Dr Peter Jones, Prif Ymgynghorydd Arbenigol CNC ar Fawndiroedd:
"Er y gallai rhai pobl feddwl bod mewndiroedd yn llai trawiadol na thirweddau naturiol eraill yng Nghymru megis mynyddoedd, coetiroedd neu arfordiroedd - mewn gwirionedd mae ein corsydd a'n ffeniau yn cefnogi amrywiaeth wych o blanhigion ac anifeiliaid, ac mae'r pwysigrwydd hwn yn parhau o'r golwg o dan y ddaear. Mawndir yw storfa garbon pridd mwyaf dwys y ddaear ac mae eu hadfer i gyflwr iach yn gam allweddol gan Lywodraeth Cymru a CNC wrth weithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
"Mae'n bleser gennym felly weithio gydag artist fel Manon Awst sydd, drwy ei chreadigrwydd a'i gwaith ymchwil, yn ceisio amlygu rhai o rinweddau cudd mawndiroedd ar gyfer llygaid y cyhoedd."
Gallwch wrando ar Manon yn trafod mwy am y prosiect yn Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Strwythurau Gludog: Gyda Manon Awst a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar gael ar Spotify, Deezer, Amazon Music a thrwy’r ddolen hon.