Darganfod dau figwyn prin ar warchodfa yng nghanolbarth Cymru
Mae dwy rywogaeth hynod brin o figwyn wedi eu darganfod ar warchodfa yng nghanolbarth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Yn ddiweddar, darganfuwyd migwyn y Baltig (Sphagnum balticum) ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron (GNG) yng Ngheredigion am y tro cyntaf ers 1967.
Cafwyd hyd i'r boblogaeth yn tyfu ar rannau o'r gors sy'n wlyb ac yn sbyngaidd - cynefin delfrydol ar gyfer migwyn pwysig.
Mae Sphagnum balticum yn brin ym Mhrydain ac fe'i cofnodwyd ddiwethaf ar GNG Cors Caron dros 50 mlynedd yn ôl. Dim ond ar bum safle ym Mhrydain y gellir dod o hyd iddo, gan mai dim ond mewn ardaloedd is-Arctig sydd â hinsawdd ‘cyfandirol’ fel Sgandinafia, Siberia ac Ynysoedd Shetland y mae i’w gael.
Cafwyd hyd i fwsogl y migwyn euraidd (Sphagnum pulchrum) hefyd yn GNG Cors Caron, rhywogaeth arall na chofnodwyd ar y warchodfa ers dros 50 mlynedd. Dyma leoliad hysbys mwyaf deheuol y mwsogl yn y DU.
Mae'n well gan fwsogl Sphagnum pulchrum hinsawdd fwy cyfandirol ond mae ganddo ddosbarthiad ehangach yn y DU na Sphagnum balticum, ac yng Nghymru mae'n bodoli ar lond llaw o safleoedd gan gynnwys poblogaeth fawr yng Nghors Fochno, sy'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ger Borth.
Darganfuwyd y ddau fwsogl gan ecolegydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Dave Reed. Meddai:
“Wrth wneud arolwg o Gors Caron ar gyfer prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE gwelais nifer o leoliadau a oedd â migwyn gyda nodweddion Sphagnum balticum.”
“Mae'r mwsogl yn fach iawn, dim ond tua 10mm ar draws y top gyda chynllun cangen nodedig yn tyfu rhwng y coesau. Ar ôl anfon fy nghanfyddiadau at arbenigwr cenedlaethol i’w gwirio, roeddwn yn falch iawn eu bod wedi cadarnhau fy nghanfyddiadau.”
Mae GNG Cors Caron a Chors Fochno yng Ngheredigion yn rhai o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd isel yn y DU, ac mae'r ddau safle'n cael eu hadfer fel rhan o Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE a ariennir gan gronfa'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Nod y prosiect yw annog migwyn prin i ailgytrefu mwy o arwyneb y gors a datblygu poblogaeth fwy gwydn yng Nghymru.
Mae saith safle yn cael eu hadfer fel rhan o'r prosiect ac mae pob un yn cael ei ystyried yn ACA - Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Dim ond saith cyforgors ACA sy'n bodoli yng Nghymru, gan fod bron i 98% o'r cynefin wedi'i golli.
Cofnodwyd Sphagnum balticum ychydig filltiroedd i'r gogledd o GNG Cors Caron yng Nghors Craig-y-Bwlch, cyforgors ger chwarel Hendre yn 2009 gan arbenigwr bryoffytau CNC, Sam Bosanquet, wrth iddo gynnal arolwg o lystyfiant mawndir yr iseldir.
Meddai Sam:
“Ar ôl bwlch o dros 50 mlynedd, roeddem yn credu bod y rhywogaeth hon wedi diflannu yng Nghymru. Cododd y boblogaeth fach yng nghors Craig-y-Bwlch ein gobeithion y gallai fod wedi goroesi yng Nghors Caron gerllaw.”
“Mae darganfyddiad Dave yn rhyfeddol: nid yn unig y gwelodd e un o fwsoglau lleiaf adnabyddus Prydain, ymhell ar ôl i’r mwyafrif o arbenigwyr feddwl ei fod wedi diflannu, fe’i cafodd hefyd mewn digonedd sylweddol a chofnodi capsiwlau sborau am y tro cyntaf erioed ym Mhrydain.”
Migwyn (mwsogl y gors) yw prif blociau adeiladu cyforgorsydd, wrth iddo ddadelfennu'n araf mae'n ffurfio mawn ac mae mawn yn storio carbon o'r atmosffer. Mae amrywiaeth o figwyn yn arwydd o gors iach, ac yn amsugno tunelli o garbon o'r amgylchedd, gan helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Bydd cynyddu gorchudd ac amrywiaeth rhywogaethau migwyn yn cynyddu gwytnwch lleoedd arbennig a phwysig fel GNG Cors Caron. Nod Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yw amddiffyn ac adfer storfeydd carbon pwysig cyforgorsydd, ail-gynhyrchu tyfiant mawn gweithredol a chynnal eu bioamrywiaeth ryfeddol.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect ewch i'n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBog neu dudalen Twitter @Welshraisedbog