Ffermwr o Sir Gaerfyrddin yn cyfaddef iddo achosi llygredd slyri
Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi cyfaddef iddo fethu â chydymffurfio â gorchymyn i wella ei storfa slyri a’i fod wedi achosi llygredd slyri mewn dwy afon gyfagos yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli.
Plediodd Noel Richards, sy’n ffermwr sy'n gyfrifol am redeg ffermydd Coed Moelon a Rhydolau, yn euog i'r tair trosedd yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 22 Ebrill.
Cafodd orchymyn i dalu £2,153 mewn dirwyon, £2,344 arall mewn costau llys a gordal dioddefwr o £190.
Dywedodd Matthew Lowe, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Fe wnaeth Mr Richards roi gwybod am un o'r digwyddiadau slyri i CNC, sef y peth mwyaf priodol a chyfrifol i'w wneud i leihau effaith y llygredd ar ein tir a'n dyfrffyrdd.
"Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi bwysleisio y gallai Mr Richards fod wedi atal y ddau ddigwyddiad pe bai wedi cymryd y camau gofynnol i gadw at y rheoliadau ynghylch storio slyri'n ddiogel.
"Rydym yn gweithio'n agos ac yn gadarnhaol gyda ffermwyr i'w helpu i gydymffurfio â'r rheoliadau a lleihau'r perygl o achosi llygredd amaethyddol. Lle mae ffermwyr yn anwybyddu ein gofynion ac yn peryglu pobl, natur a'n hadnoddau naturiol, byddwn yn eu herlyn."
Ym mis Chwefror 2018, rhoddwyd rhybudd i Mr Richards i wneud y gwaith cydymffurfio gofynnol ar lagŵn slyri ar Fferm Coed Moelon er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â safonau gofynnol Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010. Nid yw wedi cydymffurfio â'r hysbysiad hyd yma.
Ar 22 Medi 2020, cafodd CNC adroddiad am lygredd slyri yn y nant sy'n rhedeg i mewn i Afon Dulais. Aeth Swyddog Amgylchedd i'r safle a gwelodd fod y nant yn afliwiedig a sylwodd ar arogl amaethyddol. Traciodd y swyddog y llygredd yn ôl i danc dŵr budr yn Fferm Rhydolau. Cydweithredodd Mr Richards a chafodd y llygredd ei atal cyn gynted ag y nodwyd ei darddiad.
Ar 3 Rhagfyr 2020, derbyniodd CNC alwad gan Mr Richards yn rhoi gwybod am ddigwyddiad llygredd lle'r oedd slyri wedi mynd i un o lednentydd Afon Gwendraeth Fawr. Esboniodd Mr Richards eu bod wedi gwasgaru slyri yr wythnos flaenorol, ond bod y glaw diweddar wedi golchi'r slyri i mewn i'r cwrs dŵr. Aeth Swyddog Amgylchedd i'r safle a chanfod bod y nant wedi'i hafliwio a bod llawer iawn o ewyn ynddi. Traciodd y swyddog y llygredd yn ôl i gae a oedd yn perthyn i Fferm Coed Moelon lle’r oedd slyri wedi’i wasgaru.
Ychwanegodd Matthew Lowe:
"Rwy'n annog ffermwyr a chontractwyr i fod yn wyliadwrus er mwyn helpu i atal llygru ein dyfrffyrdd. Archwiliwch lefelau slyri a seilwaith storio yn rheolaidd. Peidiwch â gwasgaru slyri oni bai fod yr amodau'n iawn, er enghraifft, peidiwch â gwasgaru ar adegau pan ragwelir glaw dros y 24 awr nesaf, pan fo’r tir yn ddirlawn neu pan fo’r tir wedi'i rewi'n galed.
"Rydym yn cydnabod bod pethau'n mynd o chwith weithiau, ond rydym yn annog ffermwyr neu gontractwyr sy'n gwybod eu bod wedi achosi llygredd, i roi gwybod i CNC ar unwaith drwy ffonio 0300 065 3000. Po gyntaf y byddwn yn gwybod amdano, y cyflymaf y gallwn weithio gyda nhw i geisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd."
I roi gwybod am ddigwyddiad llygredd, ffoniwch linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000.